Cofleidio dysgu digidol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Genpower, busnes teuluol yn Sir Benfro, yw unig ddosbarthwr Hyundai Power Products yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ac mae ganddynt gefnogaeth tîm o dros 120 o gydweithwyr. Maent yn cynnig llawer o wahanol nwyddau ynghyd â gwasanaethau ac arbenigedd yn y farchnad offer pŵer awyr agored.

Genpower manager and apprentices in the workplace

O’r chwith i’r dde: Joe Ravenscroft (ail o’r chwith) yn derbyn ei wobr oddi wrth Rob Ward (Rheolwr Rhannau), Roland Llewellin a Nicola Garnish (Cyfarwyddwyr) ar ôl cwblhau Cynllun Kickstart 2022 yn llwyddiannus.

Sefydlwyd Genpower yn 2006 gan Roland Llewellin (Rheolwr Gyfarwyddwr) a’i wraig, Lisa Llewellin (Cyfarwyddwr).

Yn 2022, fe’u dewiswyd i ddosbarthu offer pŵer a phetrol cludadwy JCB yn fyd-eang (ac eithrio India) ac i ddosbarthu offer JCB Tools yn y Deyrnas Unedig.

Nid yw maes Genpower wedi’i gyfyngu i offer garddio ac offer pŵer. Maent yn rhoi pwyslais mawr ar amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol er mwyn datblygu eu staff ac mae’r tîm Cyfarwyddwyr yn mynd ati’n frwd i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i dyfu a datblygu. Er mwyn gwneud hyn, mae’r Cyfarwyddwyr yn cael cefnogaeth Laura Sanderson sydd wedi helpu i sicrhau bod y timau’n tyfu a bod awyrgylch o ddysgu a chyfleoedd yn y busnes.

Mae Genpower yn cydweithio â’r darparwr hyfforddiant PRP Training, Doc Penfro sy’n arbenigo mewn darparu Prentisiaethau a Hyfforddiant Galwedigaethol ledled de a gorllewin Cymru.

Fel llawer o fusnesau yn ystod pandemig COVID-19, bu’n rhaid i Genpower ymateb yn gyflym i sefyllfa’r cyfnod clo a newid, i raddau helaeth, i weithio o bell.

Cynhaliwyd galwadau timau, bu staff yn cydweithio er eu bod mewn gwahanol leoliadau a chefnogwyd aelodau newydd o’r staff gan aelodau profiadol o’r tîm – gan ddefnyddio gwe-gamerâu, rhannu sgrin a blychau sgwrsio.

Laura Sanderson, Pennaeth Pobl Genpower, sy’n gyfrifol am recriwtio staff, pennu llwybrau i symud ymlaen mewn gyrfa ac arwain cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith ar draws y gwahanol adrannau. Mae Laura yn enghraifft wych o uwchsgilio a hithau wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch mewn Rheolaeth ar Lefel 5.

“Dros y 5 mlynedd diwethaf rydym wedi meithrin perthynas gref â PRP Training i gefnogi ein dysgwyr gyda gwahanol gymwysterau seiliedig ar waith, fel gwasanaethau cwsmeriaid, TG, arwain tîm a rheoli.

“Fel busnes, mae’n bwysig ein bod yn parhau i ddatblygu ein timau, gwella eu setiau sgiliau a chynnig cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol. Mae’r cymwysterau’n cael eu cwblhau mewn ffordd hyblyg i gyd-fynd ag amserlenni gwaith a blaenoriaethau pobl.”

Mae’r cwmni’n cefnogi’r staff mewn gwahanol ffyrdd yn ôl yr angen ac mae Laura’n ymateb yn gyflym pan fydd angen mwy o gymorth ar staff, boed hynny wrth ddysgu, neu â’u llesiant neu eu dyletswyddau gwaith.

Mae Genpower wedi helpu llawer o bobl ifanc i gael gwaith trwy Brentisiaethau a chynllun Kickstart. Cynigiwyd un ar ddeg o leoliadau gyda’r potensial iddynt arwain at waith llawn amser, parhaol.

Dywedodd Chloe Harvey, Cynorthwy-ydd Gweinyddol sy’n gwneud QCF mewn Gweinyddu Busnes Lefel 1 a 2 a Sgiliau Defnyddwyr TG Lefel 2 “Rwy wedi gwneud tri chwrs gyda PRP Training a Genpower a chefais gefnogaeth lawn ar bob un trwy gydol yr amser.

“Mae Genpower a PRP Training wedi fy arwain trwy’r cyrsiau, boed hynny trwy helpu ag uned benodol neu ganfod pethau yn fy rôl i helpu gyda rhai o’r tasgau.”

Roedd Elijah Day, Cynorthwyydd Digidol a Rhannau sy’n dilyn QCF mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid Lefel 2 a QCF mewn Gweinyddu Busnes Lefel 2 yn canmol Genpower am y cyfle a gafodd ganddynt. “Diolch i PRP Training a Genpower, rydw i wedi cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd, ac i gael y profiad gwaith a’r cymwysterau angenrheidiol i helpu i gyrraedd fy nodau ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Laura Barrett, Asesydd Marchnata Digidol a Sgiliau Busnes PRP: “Rwy wedi bod yn cydweithio’n agos â Genpower ers rhai blynyddoedd a gallaf ddweud yn onest eu bod yn batrwm gwych o ddysgu seiliedig ar waith, darparu prentisiaethau a chyfleoedd am yrfaoedd.

“Maen nhw wedi cofleidio ffyrdd digidol o weithio a dysgu, nid yn unig oherwydd bod rhaid iddyn nhw ond gan eu bod yn gallu gweld sut mae hyn o fudd i’w gweithlu ac yn eu helpu i gyrraedd cymunedau ehangach.”

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae seilwaith ac arferion digidol yn dal yn ganolog i broses waith Genpower. Trwy ddefnyddio systemau mewnol, systemau cwmwl a meddalwedd fel Slack, maent yn gallu gweithio mewn ffordd hybrid a chyfathrebu’n effeithiol rhwng adrannau.

Mae dysgwyr sy’n dilyn cymwysterau Sgiliau Busnes eraill fel Arwain Tîm, Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gweinyddu wedi elwa hefyd ar ffyrdd digidol o weithio a dysgu.

Mae Genpower wedi cyflwyno’u cynllun gwobrwyo mewnol eu hunain i gydnabod llwyddiannau eu dysgwyr ifanc.

PRP Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —