Liam wins national apprentice award after changing career

Postiwyd ar gan karen.smith

Liam Gill receives his award from Deputy Minister for Skills and Technology Julie James.

Liam Gill yn derbyn ei wobr oddi wrth y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James.

Liam yn ennill gwobr prentis cenedlaethol ar ôl newid ei yrfa

Gwnaeth penderfyniad llwyddiannus i newid llwybr gyrfa o fod yn hyfforddwr personol i fod yn beiriannydd dalu ar ei ganfed i Liam Gill o Abertawe pan enillodd anrhydedd fawr yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2015.

Mae Liam Gill, 26, wedi canfod ei wir swyddogaeth mewn bywyd wrth weithio i gwmni moduron Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a chafodd ei enwi’n Brentis y Flwyddyn mewn seremoni wobrwyo fawreddog a gynhaliwyd yng ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd, ddydd Iau.

“Doeddwn i wir ddim yn disgwyl hynny,” meddai ar ôl derbyn ei wobr. “Roedd yn gyflawniad i gael fy nghynnwys ar y rhestr fer, ac alla i ddim credu fy mod wedi ennill.”

“Newid gyrfa yw’r peth gorau rwy wedi’i wneud. Es i i’r brifysgol, ond doedd hynny ddim yn gwneud y tro i mi, a dim ond ar ôl dechrau ar brentisiaeth y gwnes i sylweddoli pa mor dda oedden nhw. Mae wedi talu ar ei ganfed ac rydw i wrth fy modd.”

Mae’r gwobrau uchel eu bri yn dathlu llwyddiannau eithriadol y rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau, wedi dangos ymagwedd ddeinamig tuag at hyfforddiant, ac wedi arddangos blaengaredd, mentergarwch, arloesedd, creadigrwydd, ac ymrwymiad i wella datblygiad sgiliau ar gyfer economi Cymru.

Mae’r gwobrau yn cael eu trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a’u noddi gan Pearson PLC. Media Wales yw partner y gwobrau yn y cyfryngau. Mae’r Rhaglen Brentisiaeth, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yn cael ei chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Erbyn hyn, mae Liam yn Brentis Peirianneg Fecanyddol gyda chwmni moduron Ford, ac mae’n gwneud tipyn o enw iddo’i hunan ar ôl cael syniadau newydd sydd wedi arbed dros £80,000 y flwyddyn i’r cwmni.

Mynychodd Goleg Pen-y-bont ar Ogwr yn ei flwyddyn gyntaf, gan ddysgu sgiliau gweithdai, technegau cynnal a chadw, a mwy. Treuliodd yr ail flwyddyn gyda’r adran hyfforddi yn ffatri peiriannau Pen-y-bont ar Ogwr, ac un diwrnod yr wythnos mewn coleg. Gwnaeth Liam gwblhau ei NVQ Lefel 3 mewn Gwaith Cynnal a Chadw Mecanyddol a’i Ddiploma BTEC Lefel 3 gan ennill rhagoriaeth ym mhob modiwl.

“Dechreuais fy mhrentisiaeth gyda Ford pan oeddwn yn 24 oed, ac roeddwn i’n hŷn na mwyafrif y bobl ar fy nghwrs,” dywedodd. “Rydw i bob amser wedi gwneud fy ngorau glas i fodloni safonau uchel, ac roeddwn am osod esiampl dda i’r prentisiaid iau.

“Mae’r technegau hyfforddiant a’r gwaith diagnosio namau sy’n cael eu cynnwys yn y brentisiaeth wedi bod yn rhagorol, ac fe fyddaf yn gallu ymgorffori’r profiadau hyn yn fy ngwaith pan fyddaf wedi cymhwyso. Rydw i wedi datblygu sgiliau sy’n benodol i’m gyrfa mewn peirianneg, yn ogystal â sgiliau mwy eang a fydd yn fuddiol i’m gyrfa.”

Mae bellach yn astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, a bydd hefyd yn dechrau gradd yn ystod yr hydref hwn mewn Gweithgynhyrchu Systemau Peirianneg ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.
Dywedodd ei fentor, Gary Fender: “Rydw i wedi bod ym maes peirianneg ers 33 o flynyddoedd, a Liam yw un o’r gorau imi ei weld o bell ffordd. Mae ei ymdrechion a’i ymrwymiad yn rhagorol, ac ansawdd ei waith yn yr un modd.”

Dywedodd Julie James, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a’r holl bobl a lwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol. Mae gennym brentisiaid a dysgwyr gwirioneddol eithriadol yma yng Nghymru, ac mae’r gwobrau hyn yn gyfle delfrydol i ni ddathlu eu gwaith caled a’u llwyddiannau.

“Mae’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr sydd wedi mynd gam ymhellach i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig. Gallwn ymfalchïo ein bod yn cynnig un o’r rhaglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, ac mae cyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn dal ymhell dros 80 y cant. Mae meithrin pobl ifanc sy’n meddu ar sgiliau yn hanfodol i’n heconomi.”

More News Articles

  —