Menyw o Dreorci yn ennill Prentisiaeth Uwch y Flwyddyn Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Janet Bevan (left) receives her award from Deputy Minister for Skills and Technology Julie James.

Janet Bevan (chwith) yn derbyn ei gwobr oddi wrth y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James.

Mae menyw o Dreorci, sydd wedi dod â bywyd newydd i’w gyrfa yn 53 oed drwy Brentisiaeth Uwch mewn Arwain a Rheoli, wedi ennill un o Wobrau Prentisiaeth Cymru 2015.

Ddydd Iau, yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd, enwyd Janet Bevan, un o brif therapyddion galwedigaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Llantrisant, yn Brentis Uwch y Flwyddyn yn y seremoni uchel-ei-phroffil.

“Mae hyn yn destun balchder i mi ac mae’r wobr yn profi beth y gallwch chi ei gyflawni os ydych chi’n penderfynu gwneud rhywbeth,” meddai. “Fyddwn i ddim wedi gwneud cais am y swydd dwi ynddi nawr pe bawn i heb ddilyn y brentisiaeth.

“Fy nghyngor i i eraill sy’n ystyried dilyn Prentisaeth Uwch yw: ewch amdani. Dydych chi byth yn rhy hen i ddysgu a dw innau nawr yn annog fy staff i i ddilyn prentisiaeth.”

Mae’r gwobrau, sy’n uchel eu bri, yn dathlu camp neilltuol y rheini sydd wedi rhagori ar y disgwyliadau, sydd wedi mynd ati i ddysgu mewn ffordd ddeinamig ac wedi dangos blaengaredd, menter, arloesedd, creadigrwydd ac ymrwymiad i wella eu sgiliau, sgiliau a fydd yn cyfrannu i economi Cymru.

Trefnwyd y gwobrau gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ac fe’u noddwyd gan Pearson PLC a Media Wales. Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Roedd Janet mor ymroddedig i’w Phrentisiaeth Uwch ei bod wedi astudio yn ystod ei mis mêl. Roedd ganddi radd Therapi Galwedigaethol eisoes yn ogystal â llawer o gymwysterau eraill, ond er mwyn datblygu ei gyrfa, roedd angen mwy o hyder arni.

Dywedodd fod y Brentisiaeth Uwch wedi ei “gweddnewid” – cymaint felly ei bod, yn fuan ar ôl dechrau’r rhaglen, wedi’i dyrchafu i fod yn brif therapydd galwedigaethol y Gwasanaeth Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn.

“Fe wnaeth yr wybodaeth a gefais a’r sgiliau a ddysgais godi fy hyder yn fy ngallu i reoli. Felly ar ôl cael fy mherswadio, fe wnes i gais am y dyrchafiad,” meddai. “Digwyddodd hyn wrth imi briodi ac fe fu’n rhaid imi baratoi ar gyfer fy nghyfweliad yn ystod fy mis mêl!”

A hithau’n rheoli tîm o 19 o staff, roedd Janet hefyd yn cwblhau ei chwrs ILM Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli a Diploma Lefel 5 NVQ mewn Rheoli. Aeth i ddiwrnodau astudio a drefnwyd gan ACT Limited, gan gyfarfod â’i haseswr bob mis, ond bu’n rhaid iddi gwblhau’r gwaith yn ei hamser ei hun.

“Roedd gweithio’n llawn-amser gyda’r cyfrifoldebau rheoli ychwanegol yn ogystal â chwblhau’r cwrs yn anodd, ond roedd yn werth chweil,” meddai. “Dwi’n defnyddio’r sgiliau dwi wedi’u dysgu yn barhaus er mwyn gwella a datblygu fy nhîm a’r gwasanaeth rydyn ni’n ei gyflawni.”

Erbyn hyn mae Janet yn bwriadu astudio ar gyfer Gwobr Reoli Lefel 7 gydag ILM.

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Llongyfarchiadau i bob un o’n henillwyr a phawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Mae gyda ni brentisiaid a dysgwyr gwirioneddol eithriadol yma yng Nghymru ac mae’r gwobrau hyn yn rhoi’r llwyfan perffaith inni ddathlu eu gwaith caled a’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni.

“Mae’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr sy’n mynd y filltir ychwanegol i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig. Mae’n destun balchder i ni gael darparu un o’r rhaglenni prentisiaethau mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, ac mae’r cyfraddau llwyddo yng Nghymru yn dal i fod ymhell uwchlaw 80 y cant. Mae datblygu sgiliau pobl ifanc yn hollbwysig i’n heconomi.”

More News Articles

  —