Llio’r llysgennad yn frwd o blaid prentisiaethau dwyieithog

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Llio Bryn Jones, sy’n brentis.

Mae Llio Bryn Jones sy’n brentis gydag Urdd Gobaith Cymru wedi hen arfer â rôl llysgennad. Mae’n falch o’i chefndir amaethyddol ac o’r iaith Gymraeg ac mae yn ei helfen yn hyfforddi pobl mewn gwahanol chwaraeon.

Penodwyd Llio, 18, o Henllan, ger Dinbych, yn Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru a’r NTfW sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Fel llysgennad, mae’n hyrwyddo prentisiaethau dwyieithog ac yn annog rhagor o bobl i siarad Cymraeg, yn enwedig yn y gweithle.

Bu Llio yn Llysgennad Ifanc Platinwm gyda’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid yng Nghymru ac yn Llysgennad Chwaraeon Ifanc yn Sir Ddinbych. Hefyd, hi oedd Gwirfoddolwr Chwaraeon y Flwyddyn yn Sir Ddinbych yn 2019.

Cafodd addysg Gymraeg yn Ysgol Llannefydd ac Ysgol Glan Clwyd ac yn awr mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn mewn Arwain Gweithgareddau gyda’r Urdd.

“Doedd gen i ddim awydd mynd i’r brifysgol ac mae’r Urdd wedi rhoi cyfle gwych i mi wireddu fy nymuniad i fod yn hyfforddwr chwaraeon,” meddai Llio sydd â’i theulu’n ffermio defaid a gwartheg bîff.

“Mae’n well o lawer gen i brentisiaeth gan nad ydw i’n gyfforddus yn yr ystafell ddosbarth. Rydych chi’n cael cymaint o brofiad ymarferol a chyfarfod â phobl arbennig iawn wrth weithio ac ennill cymwysterau fydd yn eich helpu yn y dyfodol.”

Uchelgais Llio yw bod yn swyddog datblygu chwaraeon ac mae eisoes wedi ennill amryw o gymwysterau ym meysydd iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf a hyfforddi chwaraeon i’w helpu i symud ymlaen.

Yn ystod cyfnod Covid-19, yn hytrach na darparu gweithgareddau chwaraeon i blant mewn ysgolion ac yn y gymuned, mae wedi addasu i’w darparu yn ddigidol. “Mae’r plant wrth eu bodd â’r sesiynau gweithgareddau rhithwir, fel gymnasteg a phêl rwyd,” meddai.

Wrth sôn am ei chariad at yr iaith Gymraeg a’i rôl fel Llysgennad Prentisiaethau, dywedodd Llio ei bod yn awyddus i sicrhau bod pobl ifanc eraill yn cael gwybod am gyfleoedd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Mae’n bwysig i mi fy mod yn cael gwneud gwaith sydd wrth fy modd trwy gyfrwng y Gymraeg,” esboniodd. “Mae’r iaith Gymraeg yn rhan ohonof i. Mae’n help mawr i rywun os ydyn nhw’n gallu siarad dwy iaith ac mae rhai cwmnïau’n chwilio am bobl â’r gallu hwnnw.”

Dywedodd Catrin Davis, rheolwr prentisiaethau’r Urdd, fod Llio wedi dechrau ei phrentisiaeth fis Medi diwethaf a’i bod yn dod ymlaen yn dda trwy addasu i gael gwersi arweinyddiaeth ar lein.

“Mae Llio’n llysgennad gwych ac yn aelod o Grŵp Llywio ein Fforwm Prentisiaethau,” meddai. “Mae ein holl waith ni yn yr Urdd yn anelu at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050.

“Rhan bwysig arall o’n gwaith yw galluogi pobl ifanc i addasu eu sgiliau yn y Gymraeg i’w defnyddio yn y gweithle.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,” meddai.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —