Llwyddiant dwbl ar gyfer darparwr hyfforddiant o Gaerdydd yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

ACT Limited’s directors Andrew (second from left) and Caroline Cooksley and Louisa Gregory  (left) with Huw Morris, the Welsh Government’s director of skills, higher education and lifelong learning, who presented them with their awards.

Cyfarwyddwyr ACT Limited, Andrew (ail o’r chwith) a Caroline Cooksley, Louisa Gregory (chwith), gyda Huw Morris, sef Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes yn Llywodraeth Cymru, a gyflwynodd eu gwobrau iddynt.

Mae’r darparwr hyfforddiant llwyddiannus ACT Limited, sy’n gweithio mewn cydweithrediad â rhwydwaith o bartneriaid i wella ansawdd y ddarpariaeth a’r profiad i ddysgwyr ledled Cymru, wedi cael llwyddiant dwbl nodedig yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015.

Nid yn unig i’r cwmni, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ennill y Wobr i Ddarparwr am Weithio mewn Partneriaeth, ond cafodd un o’i hyfforddwyr, Louisa Gregory, 28, ei henwi hefyd yn Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith mewn seremoni wobrwyo broffil uchel a gynhaliwyd ddydd Iau yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.

Dywedodd cyfarwyddwr ACT Limited, Caroline Cooksley: “Mae’r Wobr i Ddarparwr am Weithio mewn Partneriaeth yn cydnabod yr holl waith caled a’r ymdrech a roddodd y staff ar y cyd â’r partneriaid, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu cyfleoedd dysgu rhagorol i ddysgwyr.”

Dywedodd Louisa: “Rydw i wrth fy modd ac wedi rhyfeddu i gael fy nghydnabod am wneud rhywbeth rydw i’n dwli arno. Hon yw fy swydd gyntaf ers gadael y brifysgol, ac mae ACT yn rhoi cymaint o ryddid creadigol i mi i fuddsoddi yn fy ngwaith. Rydw i’n credu fy mod i wedi darganfod mai addysgu a helpu eraill yw’r swydd berffaith i mi.”

Mae’r gwobrau uchel eu parch hyn yn dathlu llwyddiannau rhagorol pobl sydd wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau, sydd wedi dangos dull deinamig o hyfforddi, ac sydd wedi dangos y gallu i achub y blaen, i fentro, i arloesi, i fod yn greadigol, ac i ymrwymo i wella datblygiad sgiliau ar gyfer economi Cymru.

Mae’r gwobrau, sydd wedi eu trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, wedi eu noddi gan Pearson PLC, a’r partner yn y cyfryngau yw Media Wales. Mae’r rhaglen prentisiaethau yng Nghymru wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Ers i ACT Limited gael ei sefydlu yn 1988, mae wedi meithrin cannoedd o gysylltiadau symbiotig gyda phartneriaid corfforaethol, 23 o is-gontractwyr, ysgolion, a’r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith yn ehangach er mwyn sicrhau canlyniadau da i bobl ifanc.

Enillodd y cwmni’r Wobr i Ddarparwr am Ymatebolrwydd Cymdeithasol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y llynedd. Mae ganddo 2,161 o ddysgwyr ar ei lyfrau, ac mae rhwydwaith cyfan ACT yn cyflenwi rhaglenni dysgu i 4,331 o unigolion ledled Cymru. Mae’r rhwydwaith yn cyflenwi rhaglenni Hyfforddeiaethau, Prentisiaethau a Dysgu i Weithio mewn 22 gwahanol sector.

Datblygwyd cysylltiadau â phartneriaid allweddol, gan gynnwys Nwy Prydain a’r GIG yng Nghymru, banciau NatWest a Barclays, Gyrfa Cymru, a Chanolfan Byd Gwaith.

Mae ACT hefyd wedi sefydlu dwy ‘ysgol’ er mwyn cynnig opsiwn arall i ddisgyblion rhwng 14 a 16 sydd wedi’u hymddieithrio oddi wrth addysg brif-ffrwd, ac mae Estyn wedi tynnu sylw at y cwmni am ei arferion da yn ei waith gyda dysgwyr o grwpiau cymunedol sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Roedd Louisa, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn cystadlu yn erbyn ei chyd-weithiwr Chris Hughes, 54, a dau derfynwr arall yn ei chategori ar y rhestr fer. Cafodd ei henwebu oherwydd ei hegni, ei brwdfrydedd, a’i hagwedd greadigol at ddysgu.

Mae wedi gweithio i ACT Training ers tair blynedd, ac mae hi’n gydlynydd y rhaglen llwybr carlam bellach. “Rwy’n awyddus i bob dysgwr gyflawni ei botensial,” meddai. “Rwy’n ceisio defnyddio dulliau dysgu arloesol ac ysbrydoli’r dysgwyr i fod yn greadigol ac yn chwilfrydig.”

Mae hi’n annog pobl ifanc i ddefnyddio technoleg, ac mae rhai o’i dysgwyr wedi creu fideo wedi’i animeiddio am ba mor bwysig yw cyfathrebu er mwyn cael swydd.

“Rwy’n credu’n gryf yn yr hyn rwy’n ei wneud. Mae gweld person ifanc yn cymryd diddordeb ac yn cael ei ysbrydoli i ddysgu yn rhoi hwb mawr i mi,” meddai. “Roeddwn i wrth fy modd bod 27 o’r 30 o ddysgwyr roeddwn i’n gweithio gyda nhw yn 2014/15 wedi mynd ymlaen i gael gwaith llawn amser.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Llongyfarchiadau i’r enillwyr ac i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae gennym brentisiaid a dysgwyr gwirioneddol eithriadol yng Nghymru, ac mae’r gwobrau hyn yn gyfle delfrydol i ni ddathlu eu gwaith caled a’u llwyddiannau.

“Mae’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig. Rydym yn falch o ddarparu un o raglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus Ewrop, ac mae’r cyfraddau llwyddo yng Nghymru ymhell dros 80 y cant. Mae datblygu pobl â sgiliau yn hanfodol ar gyfer ein heconomi.”

More News Articles

  —