Llwyddiant i ddysgwr electroneg o Ystradgynlais mewn Cystadleuaeth Sgiliau

Postiwyd ar gan karen.smith

Ryan Thomas

Ryan Thomas

Mae bachgen 17 oed o Ystradgynlais wedi ennill medal aur yn rownd derfynol cystadleuaeth sgiliau genedlaethol ym maes electroneg.

Cyfres o ddigwyddiadau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yw Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, gyda’r nod o ddathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithlu Cymreig tra medrus ar gyfer y dyfodol.

Wrth i athletwyr Olympaidd hyfforddi’n galed ar gyfer y gemau sydd ar y gorwel yn Rio, mae Ryan Thomas yn un o 78 o bobl ifanc o Gymru sydd wedi bod yn hogi’u sgiliau mewn ymgais i ennill medal. Mewn galwedigaethau amrywiol, o ddylunio graffig i waith patisserie, efallai y bydd yr egin bencampwyr medrus hyn yn mynd yn eu blaenau i herio cystadleuwyr o wledydd eraill, yn yr un modd â chystadleuwyr Olympaidd.

Bu Ryan, o Goleg Gŵyr Abertawe, yn cystadlu yn erbyn 15 o fyfyrwyr eraill o bob cwr o Gymru. Roedd cystadleuwyr y rownd derfynol yn gorfod cwblhau cyfres o heriau electroneg o fewn pum awr, gan gynnwys sodro cylched cloc larwm, trwsio bwrdd cylched, weirio cylched prototeip yn ogystal ag arholiad theori ysgrifenedig. Dywedodd Ryan, sy’n astudio cwrs technoleg ddigidol lefel 2 mewn electroneg, ei fod ar ben ei ddigon.

“Cefais syndod o ennill, bues i’n ymarfer cryn dipyn gyda fy nhiwtoriaid yn y coleg. Es i’n reit nerfus pan gyrhaeddodd llawer o bobl eraill o golegau gwahanol ar y diwrnod, felly dw i’n blês iawn gyda fi fy hun ar ôl cael fy enwi fel y gorau ohonyn nhw i gyd.

“Mae gen i ddiddordeb mewn electroneg byth ers mynychu Clwb Sadwrn Coleg Gŵyr ychydig flynyddoedd yn ôl pan gefais brofiad ymarferol o adeiladu cylchedau am y tro cyntaf. Ar hyn o bryd, dw i’n dysgu llawer iawn wrth dreulio diwrnod yr wythnos ar brofiad gwaith gyda Building Services Controls yn Abertawe. Mae’n gyffrous paratoi byrddau cylchedau ar gyfer swyddfeydd mawr, a dw i’n gwybod ei fod wedi fy helpu i lwyddo yn y gystadleuaeth.”

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n rhan o Raglen Twf a Swyddi Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau galwedigaethol, gyda’r nod o roi hwb i alluoedd sgiliau a ffyniant Cymru’n gyffredinol.

Caiff ei chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, a’i chynnal gan rwydwaith o golegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith. Bydd cyfanswm o 33 o Gystadlaethau Sgiliau lleol yn cael eu cynnal rhwng mis Chwefror a mis Ebrill, mewn amrywiaeth o sectorau o wyddor fforensig a gwaith mecanig ceir i ddylunio gwefannau a chelfyddyd ewinedd.

Gallai Ryan fynd ymlaen i gynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe yn rownd electroneg WorldSkills UK, gyda’r nod o gynrychioli Tîm Cymru yn y Sioe Sgiliau eleni yn Birmingham ym mis Tachwedd. Efallai y bydd yn gymwys wedyn i gystadlu am le yng ngharfan y DU yn WorldSkills Abu Dhabi 2017.

Meddai Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg:

“Mae lefel y doniau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru’n gwella’n gyson o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r digwyddiadau hyn yn annog cystadleuaeth iach ac yn ffordd wych o gydnabod doniau gwych y genedl.

“Mae dwsinau o golegau, Cynghorau Sector Sgiliau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith o Fôn i Fynwy yn rhan o fenter Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn barod, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr at drefnu’r gwahanol rowndiau yn cynnwys y rownd derfynol, ond rydym yn awyddus i weld mwy o fusnesau yng Nghymru yn cefnogi eu gweithwyr ifanc dawnus ac yn eu hannog i gystadlu.”

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: “Mae angen cryn dipyn o waith caled i gyrraedd y rownd derfynol, ond mae ennill yr aur yn dipyn o gamp. Mae’n amlwg bod yr holl gystadleuwyr yn gwbl benderfynol ac awyddus tu hwnt i gyrraedd y brig yng Nghymru.

“Dymunwn bob lwc i Ryan, yr enillwyr a phawb sydd yn y rownd derfynol, nid yn unig yn rownd nesaf y gystadleuaeth, ond hefyd yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

More News Articles

  —