Y cystadleuwyr sgiliau gorau yng Nghymru yn cael cydnabyddiaeth gan y Dirprwy Weinidog

Postiwyd ar gan karen.smith

16.03.16 mh Celebration Event 67

Mae llwyddiannau dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid Cymru a fu’n cystadlu mewn dwy gystadleuaeth sgiliau fawr wedi’u dathlu mewn digwyddiadau arbennig yng Nghaerdydd.

Ymgasglodd y cystadleuwyr yn y Senedd a Neuadd y Ddinas i gael eu hanrhydeddu am eu camp yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a rownd derfynol WorldSkills UK, a gynhaliwyd yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC yn Birmingham fis Tachwedd diwethaf.

Yn ystod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, bu prentisiaid, gweithwyr cyflogedig a dysgwyr mwyaf dawnus y wlad yn cymryd rhan mewn cystadlaethau yn amrywio o adweitheg i ddatblygu gwefannau, a dyfarnwyd medalau efydd, arian ac aur i’r cystadleuwyr â’r sgoriau uchaf yn eu maes.

Yn rownd derfynol WorldSkills y DU yn yr NEC yn Birmingham, bu mwy na 600 o bobl o bob cwr o’r DU yn cymryd rhan mewn mwy na 60 o gystadlaethau i geisio ennill y teitl ‘y gorau yn y DU’.
Yn ystod y digwyddiadau yng Nghaerdydd, bu’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, yn cyflwyno tystysgrifau cydnabyddiaeth i’r 18 o bobl ifanc sydd ar y rhestr fer fel rhan o garfan y DU.

Yn y Senedd, cydnabuwyd cystadleuwyr o bob math o ddiwydiannau, o ddylunio gwefannau i greu nwyddau gweledol – gan gynnwys Simon Davies, cystadleuydd cyntaf Cymru yn yr Abilympics, sef cystadleuaeth sgiliau i bobl ag anableddau ac anawsterau dysgu.

Cafodd aelodau carfan y DU, ynghyd â’u teuluoedd, eu gwahodd hefyd i ginio dathlu yn Neuadd y Ddinas, lle cyflwynodd hyrwyddwr Cymru WorldSkills, Barry Liles, blaciau i’r bobl ifanc a’u cyflogwyr am y cymorth a’r anogaeth maen nhw wedi’u rhoi i aelodau’r garfan.

16.03.16 mh Celebration Event 258

Meddai’r Dirprwy Weinidog: “Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle perffaith i gydnabod llwyddiannau cystadleuwyr gorau Cymru yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac yn rownd derfynol WorldSkills y DU. Maen nhw i gyd wedi bod yn ymarfer ers misoedd ac mae’n bwysig adlewyrchu a dathlu eu gwaith caled a’u penderfynoldeb.

“Mae cystadlaethau sgiliau yn helpu i godi safonau mewn perthynas â sgiliau galwedigaethol a dangos i’r byd y doniau sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae pob unigolyn a gydnabuwyd wedi gwneud yn wych a byddan nhw’n esiamplau heb eu hail i ysbrydoli pobl ifanc yng Nghymru.”

Meddai Alfie Hopkins, 17 oed o Lanelli, a enillodd fedal efydd mewn dylunio gwefannau yn Sioe Sgiliau y llynedd: “Dw i ddim wedi bod i’r Senedd o’r blaen, felly mae cael dod yma gyda ’nhad a chael cydnabyddiaeth am fy nghyflawniadau yn brofiad arbennig iawn i mi.

“Dim ond y dechrau yw heddiw. Mae’n gyffrous iawn i feddwl efallai y bydda i’n mynd ymlaen i gynrychioli’r DU yn Abu Dhabi flwyddyn nesaf os bydda i’n cael fy nghynnwys yn nhîm y DU. Rydw i wedi cyfarfod â rhai pobl a fu’n cystadlu yn WorldSkills yn São Paulo y llynedd, ac mae hynny wedi fy ngwneud i’n fwy penderfynol nag erioed.

“Does dim llawer o gyrsiau dylunio gwefannau penodol, felly rydw i wedi dysgu llawer o’m sgiliau fy hun ac rwy’n ymarfer llawer yn fy amser hamdden. Fel rhan o’m hyfforddiant i gael fy newis yn nhîm y DU, bydda i’n cael cyfle i ddysgu gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, a fydd yn helpu gyda’r gystadleuaeth yn ogystal â’m rhagolygon cyflogaeth i’r dyfodol.”

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn hyrwyddo pwysigrwydd datblygu gweithlu medrus gyda’r nod o roi hwb i sgiliau lefel uchel yng Nghymru.

More News Articles

  —