Llysgenhadon Prentisiaethau Cymraeg cyntaf erioed

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Llysgenhadon Prentisiaethau Cymraeg

Yn ddiweddar, mae’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd DSW wedi gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i lansio’r Ymgyrch Llysgennad Prentisiaethau Cymraeg a Dwyieithog gyntaf, sy’n ceisio tynnu sylw at fanteision cwblhau prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog; lle gall prentisiaid a darpar brentisiaid glywed yn uniongyrchol gan brentisiaid fel nhw.

Dyma’r pump Llysgennad Prentisiaeth Cyfrwng cyntaf:

  • Elen Jones – Prentis Gwaith Ieuenctid at Urdd Gobaith Cymru yn Ynys Môn
  • Steffan Walker – Prentis Rheoli Lletygarwch at Gwesty’r Harbourmaster, Aberaeron yn astudio trwy Gwmni Hyfforddiant Cambrian
  • Seren Jenkins – Prentis Cyfieithu at GIG Cymru sy’n astudio trwy Goleg Gŵyr Abertawe
  • Ifan Phillips – Prentis Gosod Trydanol yn D.E. Phillips & Sons Ltd, Crymych yn astudio trwy Goleg Sir Benfro
  • Owain Carbis – Prentis Cyfryngau Creadigol a Digidol at BBC Cymru, Caerdydd yn astudio trwy Sgil Cymru

Mynychodd y prentisiaid yr hyfforddiant llysgennad yn Aberystwyth ar 22 Ionawr 2020 a pherfformiodd pob un ‘Instagram takeover’ o gyfrif Instagram @dyddyfodoldi y Coleg Cymraeg am ddiwrnod yn ystod Wythnos Prentisiaethau 2020 i ddangos ‘diwrnod ym mywyd prentis Cymraeg’. Roedd yr adborth o’r storiau ar Instagram yn hynod gadarnhaol gan ei fod yn codi proffil prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog gyda chynulleidfa newydd.

Mae’r llysgenhadon wedi bod, a byddant yn cymryd rhan, mewn mwy o ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau gyrfaoedd ledled Cymru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn @dyddyfodoldi, @Bilingual_wbl, @NTFWwbl; a chadwch lygad am yr hashnodau #CymraegYnYGweithle a #WelshAtWork i ddarganfod mwy am yr hyn y mae’r llysgenhadon yn ei wneud.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

More News Articles

  —