Mae hyfforddiant yn cyfrif i Matthew

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Matthew Owen loves teaching maths.

Mae Matthew Owen wrth ei fodd yn dysgu mathemateg.

Mae gan Matthew Owen ateb ar gyfer pobl sy’n crynu wrth feddwl am yr ysgol, mathemateg ac arholiadau. Ac yntau’n fathemategydd naturiol, mae Matthew’n gallu dysgu mewn ffordd sy’n gwneud hyd yn oed y dysgwyr mwyaf nerfus yn frwd ac yn awyddus i ddysgu mwy.

Ymarferydd sgiliau hanfodol gydag Aspiration Training yn Llaneirwg, Caerdydd yw Matthew ac mae’n dysgu sgiliau cyfathrebu, cymhwyso rhif a llythrennedd digidol i bobl sy’n gobeithio ennill cymwysterau mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant, rheoli, a nyrsio deintyddol.

Yn awr, mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Diwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Mae Matthew wrth ei fodd yn hyfforddi pobl ac mae’n cynnig pwyntiau dysgu unigol, gan ystyried profiadau dysgu blaenorol a chyfyngiadau corfforol ac emosiynol. Yn bwysicaf oll, mae’n gwneud dysgu’n hwyl ac nid yw byth yn anobeithio am fyfyriwr.

Yn ogystal, mae’r cyn-fanciwr 43 oed wedi cyflwyno fideos byr ar ddysgu mathemateg y gall y dysgwyr eu gwylio yn eu hamser eu hunain ac mae’n cynnwys ei sgiliau newydd ef ym maes llythrennedd digidol yn ei sesiynau.

Dywedodd Matthew, sy’n siarad Cymraeg: “Yn aml, y peth cyntaf y mae myfyrwyr newydd yn ei ddweud yw ‘Dwi’n casáu mathemateg’. Rwy’n benderfynol o newid eu meddwl a rhoi’r hyder iddyn nhw i ennill cymwysterau, ac i ddefnyddio’u sgiliau newydd yn eu bywyd bob dydd. Er mwyn gwneud hyn, rwy’n cynllunio ar gyfer yr unigolyn, rwy’n hollol benderfynol, ac rwy’n defnyddio llawer o hiwmor. Yn y bôn, rwy wrth fy modd yn dysgu.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Matthew ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —