Cynllun hyfforddi’n agor y drws ar ddyfodol disglair i Jordan

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Jordan Jones with Tyn Lon Volvo garage supervisor David Ames and Grŵp Llandrillo Menai tutor Jan Roberts.

Jordan Jones gyda goruchwyliwr modurdy Ty’n Lon Volvo, David Ames a’r tiwtor o Grŵp Llandrillo Menai, Jan Roberts.

Ar ôl y drychineb o golli ei fam a’i dad ar wahanol adegau pan oedd yn blentyn, mae Jordan Jones wedi hen arfer wynebu anawsterau. Yn ogystal, bu’n rhaid iddo ymgodymu â symud tŷ sawl gwaith pan oedd yn ifanc, yn cynnwys gadael ei gartref yn Stoke-on-Trent a symud i Fangor lle gallai ei fodryb a’i ewythr ei gefnogi.

Er na chafodd blentyndod hawdd, mae Jordan wedi llwyddo i ddod dros yr anawsterau mawr hyn a wynebu bywyd mewn ffordd gadarnhaol.

Ac yntau newydd gael ei ben blwydd yn 18, gall Jordan edrych yn ôl ar y newid mawr a fu yn ei fywyd, o fachgen ifanc cythryblus i oedolyn hyderus sydd â dyfodol disglair yn y diwydiant moduron. Rhaglen Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) gyda’r darparwr dysgu Grŵp Llandrillo Menai ar gampws Caernarfon sydd wedi rhoi’r hwb mawr i’w hyder a’i frwdfrydedd.

Erbyn hyn, mae Jordan wedi’i gydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Yn ystod lleoliad cychwynnol gyda Ty’n Lôn Volvo yn Llanfair Pwll dechreuodd Jordan ragori, gan ddechrau gyda Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn ac yna gwblhau cymwysterau ychwanegol Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, y ddau ar Lefel 2.

Jordan enillodd gwobr Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) y Flwyddyn gan Grŵp Llandrillo Menai ym mis Chwefror eleni.

Dywedodd arweinydd tîm ymgysylltu y Coleg, Eric Christie: “Mae’n ddyn ifanc nodedig iawn sydd wedi byw trwy adegau tywyll pan oedd yn blentyn. Fe fanteisiodd i’r eithaf ar bopeth yr oedd yr Hyfforddeiaeth yn ei gynnig, trwy ei swydd, ei gymhwyster a’i fywyd.”
Meddai Jordan: “Mae’n fy nychryn i feddwl y gallwn i fod yn dal yn y lle tywyll hwnnw heb y gefnogaeth rwy wedi’i chael gan fy nheulu, y coleg a fy nghyflogwr.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Jordan ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —