Mae Mis Hanes Pobl Dduon Cymru (BHMW) yn 10 oed!

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Black History Month Wales 2017

Ein nod yw casglu a rhannu cyfraniadau pobl o dras Affricanaidd fel rhan o’r hanes yr ydym yn ei rannu, trwy weithgareddau addysgol a chreadigol amrywiol i bobl o bob oed.

Race Council Cymru, y corff arweiniol cenedlaethol sy’n hyrwyddo integreiddio a chydraddoldeb i bobl o bob hil yng Nghymru, sy’n rheoli gwaith Hanes Pobl Dduon ledled Cymru. Mae rhwydwaith Hanes Pobl Dduon Cymru yn cynnwys dros 107 o sefydliadau ledled Cymru fel elusennau ieuenctid, grwpiau cymunedol, ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, mudiadau sy’n cynrychioli pobl o wahanol ddiwylliannau, gwahanol ffydd a gwahanol ardaloedd daearyddol.

Cynrychiolir y rhain ar ein pwyllgor llywio. Ymhlith y sefydliadau mae Amgueddfa Cymru; y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, Cymru; prifysgolion Caerdydd a Bangor; ysgolion; y Tîm Cefnogi Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (MEAS); CBS Castell-nedd Port Talbot; The Cardiff Volunteer Centre @C3SC; Cymdeithas Jamaica; Canolfan Mileniwm Cymru; Barnados Cymru; Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Undebau Llafur yng Nghymru i enwi dim ond ychydig.

I ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon Cymru 2017, thema’r flwyddyn yw “EIN SÊR. EIN DYFODOL. EIN HANES: Deg Oed yn 2017” (Hashnod #BHMWales10)

Y llynedd, cafodd digwyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon, yn cynnwys y Gwobrau Ieuenctid a’r enillwyr sylw cenedlaethol ar yr oriau brig ar Newyddion y BBC a rhaglen ITV, Newsweek. Eleni, rydym yn anelu hyd yn oed yn uwch a hoffem i chi fod yn rhan o’r dathliadau, felly rydym yn eich gwahodd yn gynnes i’r digwyddiadau isod:

  • Lansiad Llywodraeth Cymru – Cynhelir seremoni Gwobrau Ieuenctid Hanes Pobl Dduon Cymru ddydd Gwener 29 Medi 2017 rhwng 12 a 4 o’r gloch yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, CF10 4PZ. Bydd y digwyddiad dan ofal Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yr Athro Mark Drakeford AC – yr Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd. Mae’r gwobrau’n llwyfan i gydnabod a dathlu cyflawniadau pobl ifanc o dras Affricanaidd yng Nghymru.
  • Lansiad ffurfiol Rhaglen Celfyddydau Creadigol ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon Cymru – Dan ofal Vaughan Gething AC Dydd Sadwrn 30 Medi 2017 rhwng 12 a 5.30 o’r gloch yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP.
  • Lansiad Gogledd-orllewin Cymru ym Mangor – Dydd Sadwrn 30 Medi 2017 am 10 o’r gloch yn Storiel, Ffordd Gwynedd, Bangor LL57 1DT.
  • Lansiad Gogledd Cymru yn Wrecsam – Dydd Sul 1 Hydref 2017 rhwng 2 a 6 o’r gloch yn Saith Seren, 18 Ffordd Gaer, Wrecsam, LL13 8BG.
  • Dathliadau Diweddglo Mawreddog BHMW 2017 – Dydd Sul 29 Hydref 2017 rhwng 11.30 ac 8 o’r gloch yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd, CF10 5AL.

Ar gyfer ymholiadau’r wasg/cyfryngau, ebostiwch: info@racecouncilcymru.org.uk neu ffonio 07838 360979

Ceir rhagor o wybodaeth yn www.racecouncilcymru.org.ukneu www.bhmwales.org.uk

More News Articles

  —