Rhaglen rhannu prentisiaethau’n adeiladu at y dyfodol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Regional manager Anthony Rees and training co-ordinator Rhys Fisher from Cyfle Building Skills with apprentices Josephine Jones and Scott Roderick.

Y rheolwr rhanbarthol, Anthony Rees, a’r cydlynydd hyfforddiant, Rhys Fisher, o Sgiliau Adeiladu Cyfle, gyda dau o’r prentisiaid, Josephine Jones a Scott Roderick

Mae rhaglen rhannu prentisiaethau, Cyfle Building Skills, wedi dangos beth y gellir ei gyflawni trwy gael agwedd agored a chydweithredol at hyfforddi prentisiaid yn y diwydiant adeiladu.

Cychwynnodd y cynllun yn 2007 fel partneriaeth yn ardal Sir Gaerfyrddin ac yna datblygodd yn Fodel Rhanbarthol Cyfle ym mis Awst 2013 gyda chysylltiad â phum awdurdod lleol: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Yn Rhydaman y mae canolfan Cyfle Building Skills ac mae’n cyflogi 135 o brentisiaid a rennir ledled y de-orllewin sy’n golygu ei fod yn un o’r cyflogwyr mwyaf o’i fath ym Mhrydain.

Yn awr, mae’r rhaglen wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017. Bydd Cyfle Building Skills yn cystadlu i fod yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celftic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Mae Cyfle Building Skills yn cydweithio â llawer o gyflogwyr ac mae’r prentisiaid yn cael symud rhwng cwmnïau bach a mawr sy’n gweithio mewn gwahanol rannau o’r diwydiant adeiladu.

Ymhlith ei fframweithiau mae gosod brics, gwaith saer, gwaith trydan, plastro, plymio, cynnal a chadw ac adnewyddu, paentio ac addurno. Mae’r prentisiaid yn dilyn cyrsiau mewn colegau rhanbarthol ac yn cael cynnig gwaith ymarferol mewn gwahanol grefftau dros gyfnod o ddwy flynedd.

DywedoDywedodd Rheolwr Rhanbarthol Cyfle Building Skills, Anthony Rees: “Rydyn ni’n ymroi i addysgu, ysbrydoli a chefnogi pobl i ddatblygu gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu ac rydyn ni wedi gwneud cyfraniad sylweddol at waith hyfforddi yn y rhanbarth. Ni yw dewis cyntaf llawer o ddysgwyr oherwydd ein ffordd unigryw o weithredu.”

Eleni, bydd Cyfle Building Skills yn cael Gwobr y Frenhines am Fenter: Arloesi.

Mae’r cwmni’n ymfalchïo mewn hybu amrywiaeth yn y gweithle hefyd. Mae’r prentisiaid yn cynnwys pobl ifanc ag anableddau, aelodau o’r gymuned deithwyr a merched – roedd 10 y cant o’r rhai a dderbyniwyd yn 2016 yn ferched. Hyd yma, bu’n gweithio gyda 140 o gontractwyr bach a mawr yn y rhanbarth.

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Cyfle Building Skills ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —