Goresgyn gorbryder gyda chefnogaeth ei gyflogwr

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Matthew Angel yn gweithio i’r darparwr hyfforddiant Educ8 ers mis Ionawr 2017. Dechreuodd Matthew fel Asesydd dan Hyfforddiant gan weithio i sicrhau dyfarniad TAQA ac ennill cymwysterau Asesydd.

Matthew Angel standing outside by trees.

Matthew Angel Educ8 Recriwtiwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Bu Matthew’n Asesydd am ddwy flynedd cyn dechrau cael problemau â gorbryder ac iselder a achoswyd gan sawl ffactor.

Cefnogwyd Matthew gan y tîm yn Educ8 yn ystod y cyfnod anodd hwn a chafodd ei annog i ymgeisio am swydd arall yn y grŵp, gyda chefnogaeth lawn ei reolwr ar y pryd.

Cafodd swydd cynorthwyydd gweinyddol yn y tîm gweinyddol a dyna y bu’n ei wneud am ddwy flynedd. Roedd mwy o strwythur i’r swydd a helpodd hynny i leddfu ei orbryder. Yn ogystal, bu Matthew’n mynychu sesiynau gyda’r elusen MIND lle’r oedd yn cael siarad â chynghorwyr hyfforddedig am ei bryderon.

Ar ôl dwy flynedd yn y tîm gweinyddol cododd swydd ar gyfer Recriwtiwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd y swydd honno’n golygu llawer o siarad â dysgwyr a chyflogwyr, ond roedd Matthew o’r farn ei fod yn barod am hynny ac ymgeisiodd amdani.

Mae Educ8 yn cefnogi Matthew yn ei swydd newydd gan gysylltu ag ef yn rheolaidd ac asesu ei lwyth gwaith i sicrhau ei fod yn gallu ymdopi ag ef.
Dywedodd Katie Owen, Arweinydd Tîm Iechyd Clinigol a Gofal Cymdeithasol Educ8 a rheolwr llinell Matthew: “Rydyn ni’n gweithio’n agos iawn fel tîm, ac mae gwahanol gydweithwyr o bob rhan o’r busnes yn helpu â llwythi achosion recriwtwyr er mwyn lleihau’r pwysau mewn swydd lle mae popeth yn symud yn gyflym.
“Mae Matthew’n gaffaeliad i’r tîm ac mae’n dal i weithio mewn ffyrdd cadarnhaol i oresgyn yr heriau sy’n ei wynebu.

“Oherwydd ei heriau iechyd meddwl ei hun, mae’n gallu cefnogi staff o bob rhan o’r busnes sy’n wynebu profiadau tebyg. Gall hyn fod yn unrhyw beth – sgwrs, cyfarfod dros goffi neu gyfeirio staff at ein tîm cefnogi llesiant.”

Rhannodd Matthew ei stori gyda staff yn ystod un o’u dyddiau llesiant, ‘Gr8 days’. Teimlai ei bod yn bwysig dangos i bobl bod cael help a chefnogaeth yn eich galluogi i ddechrau delio â’ch gorbryder a rhoi llai o bwysau arnoch eich hun.

Mae Matthew’n llawn canmoliaeth i Educ8, “Heb gymorth a chefnogaeth fy rheolwyr a fy nghydweithwyr, dydw i ddim yn credu y byddwn i’n dal gyda’r sefydliad.

“Mae gwerthoedd Educ8 wedi chwarae rhan enfawr yn fy mhenderfyniad i ddal ati a gwneud fy ngorau i gyfoethogi bywydau’r dysgwyr rwy’n gweithio gyda nhw.”

Mae Matthew’n cefnogi Signposted Cymru a llwyddodd i godi dros £2,000 y llynedd trwy feicio 10 milltir bob dydd drwy gydol mis Tachwedd.

Mae Signposted Cymru yn wasanaeth sy’n cynnig ymyrraeth gychwynnol, ar unwaith, i bobl sy’n cael trafferthion ac a fyddai’n elwa o gymorth â materion iechyd meddwl a llesiant.

Mae Signposted Cymru yn cynnig cymorth a chefnogaeth ymatebol wedi’i deilwra i unigolion sy’n ymdrechu i sicrhau dyfodol mwy disglair. https://signpostedcymru.com/

Educ8 Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —