Molly, sy’n brentis dyslecsig, wedi’i hysbrydoli i helpu plant ag anghenion dysgu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Apprentice in classroom setting

Molly Tanner, sy’n brentis, yn defnyddio’i phrofiad personol o ddyslecsia i gefnogi plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Gwnewch Ddewis Doeth a recriwtiwch brentis
Dod yn brentis

Mae profiad personol Molly Tanner o ddysgu a hithau’n ddyslecsig wedi ei hysbrydoli i fod yn gynorthwyydd addysgu sy’n cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Tregŵyr ger Abertawe lle mae’n brentis.

Chafodd Molly, 23, sy’n byw yn y ddinas, ddim diagnosis llawn o ddyslecsia tan yr haf eleni ond dydi hynny ddim wedi lleihau ei hawydd i gefnogi plant yn y Cyfleuster Addysgu Arbenigol yn yr ysgol. Mae hi’n cefnogi disgyblion blwyddyn naw sydd â gwahanol anghenion dysgu ychwanegol.

Trefnwyd i Molly gael asesiad diagnostig ar gyfer dyslecsia trwy ddarparwr ei phrentisiaeth, Coleg Gŵyr Abertawe, fel rhan o’r gefnogaeth sydd ar gael i brentisiaid.

“Rwy wrth fy modd yn gweithio gyda’r plant,” meddai. “Roedd gen i gynorthwyydd addysgu pan ro’n i yn yr ysgol ac rwy eisiau rhoi rhywbeth yn ôl. Gofynnais i mi fy hun: ‘Pan o’n i yn yr ysgol, sut fyddwn i wedi hoffi cael fy nhrin gan rywun hŷn na fi?’

“Mae rhai plant yn teimlo embaras am fod ganddynt gynorthwyydd addysgu ond rwy’n gallu dweud wrthyn nhw fy mod i wedi bod lle maen nhw nawr. Cael cynorthwyydd addysgu oedd y peth gorau erioed i mi achos fyddwn i ddim ble rydw i heddiw heb gael rhywun wrth fy ochr bryd hynny.

“Mae hon yn swydd berffaith i mi achos mae gweld plant yn symud ymlaen â’u dysgu ac yn gwneud ffrindiau newydd yn rhoi boddhad mawr i mi.

“Rwy wedi llwyddo i fod yn gynorthwyydd addysgu diolch i un o athrawon yr ysgol gynradd, tiwtoriaid personol a ffrind i’r teulu, Nicola Evans, a oedd bob amser yn credu ynof i ac yn fy helpu i gyrraedd y nod.

“Roedd Nicola’n arfer dweud ‘Byddi di bob amser yn cyrraedd dy nod, Molly, ond bydd yn cymryd ychydig mwy o amser i ti. Paid byth â rhoi’r gorau iddi’. Gwaetha’r modd, bu farw Nicola eleni heb fy ngweld yn gorffen fy nghwrs.”

Bu Molly’n gweithio yn yr ysgol ers bron ddwy flynedd ac mae’n gobeithio cwblhau ei Phrentisiaeth mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion, a ddarperir gan Goleg Gŵyr Abertawe, yn gynnar yn 2022.

Wedyn, mae’n bwriadu dechrau ar gwrs iaith arwyddion, gan ei bod eisoes yn cyfathrebu dros ei mam, sy’n un o dri aelod o’i theulu estynedig sy’n fyddar.

Mae gan Molly uchelgais hirdymor i weithio mewn ysgol arbennig ac mae’n annog pobl ifanc eraill sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i ddewis prentisiaeth pan fyddant yn gadael yr ysgol.

“Rwy’n teimlo i mi gael llawer mwy o gefnogaeth yn gwneud prentisiaeth nag y byddwn i wedi ei chael ar gwrs prifysgol,” meddai. “Ar ben hynny, rwy wedi cael y profiad o weithio wrth ddysgu ac rwy’n cael cefnogaeth wych gan Emma Davies yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Fyddwn i ddim wedi symud ymlaen mor bell hebddi hi.”

Dywedodd Emma, dolen gyswllt anghenion dysgu ychwanegol Coleg Gŵyr Abertawe ym maes dysgu seiliedig ar waith: “Mae Molly’n credu mor angerddol yn yr hyn y mae’n ei wneud gan fod ei phrofiad hi ei hun yn golygu bod ganddi empathi â’r disgyblion y mae’n eu cefnogi.

“Allaf i ddim meddwl am neb sy’n fwy addas i weithio mewn ysgol oherwydd mae’n ymroi yn llwyr i’w gwella ei hun a helpu ei dysgwyr.”

Tutor and Apprentice in classroom setting

Molly Tanner, sy’n brentis, gyda Rachel Searle, pennaeth dysgu seiliedig ar waith yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Ychwanegodd Rachel Searle, pennaeth dysgu seiliedig ar waith yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Rŷn ni’n credu’n gryf mewn sicrhau bod pob prentis yn cael y gefnogaeth y mae arnyn nhw ei hangen i lwyddo yn eu prentisiaeth, yn eu gwaith ac wrth ddatblygu eu gyrfa yn y dyfodol.

“Rŷn ni wrth ein bodd bod Molly wedi symud ymlaen mor dda ac rŷn ni’n dymuno pob llwyddiant iddi gyda’i huchelgeisiau o ran gyrfa.”

Yn ddiweddar, canmolwyd y coleg mewn arolygiad gan Ofsted am sicrhau bod rhaglenni prentisiaethau yn hygyrch ac yn uchelgeisiol i bob dysgwr, gan gynnwys rhai ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Dywedodd Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru: “Mae mor bwysig i ddysgwyr wybod bod cefnogaeth ar gael os ydyn nhw’n gwneud prentisiaeth.

“Mae stori Molly yn dangos sut y mae’r gefnogaeth a gafodd wrth ddysgu wedi ei harwain i wneud prentisiaeth lle gall ddefnyddio’i phrofiadau i sicrhau boddhad mawr yn y gwaith.

“Rŷn ni’n awyddus i bobl sylweddoli bod prentisiaethau’n agored i bawb a bod y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan yn cael eu chwalu.”

Coleg Gŵyr Abertawe

More News Articles

  —