Moon yn ateb yr her pobi er mwyn hyrwyddo cymwysterau galwedigaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Rupert Moon with The Village Bakery’s managing director Robin Jones during his visit to the company’s Minera bakery.

Rupert Moon gyda Robin Jones, rheolwr gyfarwyddwr The Village Bakery, yn ystod ei ymweliad â phopty Minera’r cwmni.

Mae Rupert Moon, cyn seren rygbi Cymru a chyflwynydd teledu yn ddyn sydd wastad yn barod am her a manteisiodd ar y cyfle i ddysgu sgiliau newydd o gael ei wahodd i fod yn bobydd am y diwrnod yn y Village Bakery yn Wrecsam.

Cytunodd Rupert, rheolwr cyffredinol Rygbi Gogledd Cymru Undeb Rygbi Cymru, i roi cynnig ar y swydd fel rhan o ymgyrch i hyrwyddo cymwysterau galwedigaethol wrth arwain at wobrau cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, sef Gwobrau VQ, ar 9 Mehefin a’r Diwrnod VQ cenedlaethol y diwrnod canlynol.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru. Ariennir y gwobrau’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Cyrhaeddodd The Village Bakery, sy’n cyflogi bron i 400 o bobl, rownd derfynol Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn y llynedd ac mae’n medi gwobrau ei bolisi i feithrin ei weithwyr medrus ei hun.

Yn ogystal â phopty Minera, mae gan y busnes sy’n cael ei redeg gan deulu ddau bopty arall ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam lle mae’n adeiladu Academi Bobi a Chanolfan Arloesi newydd gwerth £4 miliwn i greu’r genhedlaeth nesaf o bobyddion. Y cwmni hwn oedd y cynhyrchwr cyflymaf ei dwf yng Nghymru yn 2014.

Mae Moon, a chwaraeodd i Lanelli a Chymru, wedi gweithio fel cyflwynydd ar S4C ac wedi dal amrywiaeth o swyddi uwch i’r Scarlets, Undeb Rygbi Cymru a Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ers ymddeol o chwarae rygbi.

Fel hyrwyddwr brwd cymwysterau galwedigaethol a dysgu yn y gwaith, mae’n pwysleisio pwysigrwydd dysgu gydol oes. Rhan bwysig o waith RGC yw paratoi chwaraewyr ifanc i’r byd gwaith go iawn y tu allan i’r “swigen” rygbi.

“Pan oeddwn yn y coleg, roeddwn i’n mynd allan ac yn gweithio mewn adran gyfrifon fel rhan o’m rhaglen hyfforddi,” meddai. “Rhoddodd hynny sylfaen dda i mi weithio mewn gwahanol fath o dîm.

“Mae’n bwysig iawn ennill cymwysterau a phrofiad y gweithle. Rydw i bellach mewn cyfnod yn fy mywyd lle rydw i eisiau gwneud gwahaniaeth ac mae fy rôl yng Ngogledd Cymru wedi rhoi’r cyfle hwnnw i mi. Y gyfrinach yw credu yn eich gallu eich hun.”

O ran ei brofiad pobi “ysbrydoledig”, dywedodd iddo bobi ei fara banana cyntaf yn ddiweddar ac roedd yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r sgiliau newydd roedd wedi’u dysgu yn The Village Bakery.

Crewyd argraff arno yn sgil sylw’r cwmni i fanylder i gynnal safonau ansawdd a’r ymrwymiad i hyfforddi a datblygu, gyda 12 pobydd prentis a phedwar peiriannydd prentis yn mynd trwy hyfforddiant ar hyn o bryd.

Dywedodd Robin Jones, y rheolwr gyfarwyddwr: “Mae gennym enw gwych am gyflogi prentisiaid ifanc sydd wedyn wedi symud ymlaen i fod yn oruchwylwyr ac yn rheolwyr popty.

“Mae’n well gennym dyfu’n pobl ein hunain oherwydd ein prentisiaid yw ein dyfodol. Nhw fydd enaid ein busnes ac mae dyfodol eithriadol o ddisglair o flaen y sawl sy’n disgleirio.

“Rydym yn ymroi i ddatblygu ein pobl a dyna pam benderfynom ni greu Academi Bobi newydd, o’r radd flaenaf sy’n unigryw yn y DU ac fe fydd yn agor yn yr haf.

“Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr i ni ond bydd yn ein helpu ni i barhau i herio’n gallu. Credwn yn gryf er mwyn creu cynhyrchion da, mae angen cynhwysion da, dulliau da a phobl dda arnoch.”

Dathliad cenedlaethol o bobl sydd wedi cyflawni llwyddiant mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru yw Diwrnod VQ. Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod yn bwysicach i’r economi a’r unigolyn; cyflawnant y gweithwyr hyfforddedig, dawnus y mae busnesau’n gweiddi amdanynt ac yn sicrhau bod gan y bobl ifanc y sgiliau y mae arnynt eu hangen i lwyddo mewn addysg a gwaith.

Mae’r Gwobrau VQ yng Nghymru’n helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae dau gategori gwobr: Dysgwr VQ y Flwyddyn a Chyflogwr VQ y Flwyddyn. Bydd y rheiny yn y rownd derfynol yn cael eu rhoi ar y rhestr fer o enwau ac yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau mis Mai. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo i’w chynnal yn y St David’s Hotel, Caerdydd.

More News Articles

  —