Siân yn cyfnewid y sgrin deledu i fod yn gogydd bwyta mewn steil am ddiwrnod

Postiwyd ar gan karen.smith

Sian Lloyd at Llangoed Hall

Sian Lloyd yn Neuadd Llangoed

Cymerodd Siân Lloyd, y cyflwynydd teledu sydd wedi bod yn teithio’r byd, egwyl o ffilmio mewn mannau egsotig er mwyn dysgu sgiliau coginio newydd yng nghegin bwyd llawn steil gwesty gwledig arobryn yng Nghymru.

Cytunodd y cyn gyflwynydd tywydd ar ITV, a chanddi angerdd am fwyd Cymreig, i fod yn gogydd am y diwrnod er mwyn hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol o flaen y Gwobrau VQ yng Nghymru ar 9 Mehefin a’r Diwrnod VQ cenedlaethol y diwrnod canlynol.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru. Ariennir y gwobrau’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Cafodd Siân, sy’n ffilmio cyfres ar newid hinsawdd i’r cwmni teledu Americanaidd, CNN, ac sydd hefyd yn ysgrifennu adolygiadau gwyliau i’r Mail on Sunday, ei thynnu i mewn i’r gegin yn Neuadd Llangoed yn Llyswen, ger Aberhonddu, sef un o’i hoff leoedd i fwyta ac aros.

Dan arweiniad y prif gogydd Nick Brodie, dysgodd sgiliau coginio newydd trwy baratoi prydau bwyta mewn steil i fwyty arobryn y gwesty, bwyty a uwchraddiwyd i dri rhoséd gan yr AA yn 2014.

“Mae bwyd wedi bod yn gariad mawr i mi erioed ond dydw i ddim yn credu y byddai gen i’r gallu na’r amynedd i fod yn gogydd da,” cyfaddefodd Siân. “Rwy’n eu hedmygu gymaint. Cymerais ran ym Master Chef un tro a gweithiais mewn cegin broffesiynol lle gwelais pa mor anodd oedd hi.

“Mae gen i frwdfrydedd mewn hyrwyddo bwyd Cymreig ac maen nhw’n ei goginio mor brydferth yn Neuadd Llangoed, sef un o’m hoff fwytai yng Nghymru. Mae Nick yn andros o ddawnus a mater o amser yw hi cyn iddo gael seren Michelin.

“Er fy mod i’n caru bwyd, rwy’n gachgi o gogydd. Rwy’n westeiwraig hael ond yn tueddu i goginio bwyd hawdd na allaf ei ddifetha pan fydd gwesteion draw. Rwy’n gobeithio y bydd y dosbarth meistr rydw i wedi cael gyda Nick yn fy annog i fod ychydig yn fwy mentrus yn y dyfodol.”

Creodd sgiliau coginio ei brentis am y dydd argraff ar Mr Brodie a dywedodd yn bod ganddi’r potensial i fod yn gogydd heb os nac oni bai.

Mae Siân yn cefnogi cymwysterau galwedigaethol a dysgu yn y gwaith yn fawr. “Rwy’n edmygu campws y Drenewydd Grŵp NPTC yn fawr ac wedi gweld y gwaith aruthrol maen nhw’n ei wneud yn yr adran arlwyo i annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a chyflawni cymwysterau a fydd yn hollbwysig i’w gyrfaoedd,” esboniodd.

“Gyda chynifer o bobl yn chwilio am swyddi’r dyddiau hyn, mae cyflogwyr yn edrych yn agos ar gymwysterau a phrofiad yn y gwaith. Heb os, mae unrhyw beth sy’n rhoi rhywbeth gwahanol i chi o fantais.”

Mae Calum Milne, rheolwr gyfarwyddwr Neuadd Llangoed yn llysgennad sgiliau bwyd a diod yng Nghymru ac yn hyrwyddwr cryf o ddysgu yn y gwaith a dysgu gydol oes. Cyfloga 50 o staff, a saith o’r rheiny’n mynd trwy raglenni hyfforddiant, gan gynnwys dwy brentisiaeth arlwyo.

“Roedd yna adeg pan ddywedais nad oedd cymwysterau’n golygu cymaint â phrofiad, ond o edrych yn ôl ac o aeddfedu, byddwn i’n dweud nawr fod y ddau’n gweithio’n well gyda’i gilydd.

“Mae gan ddysgu yn y gwaith fwy o botensial i dyfu o ran annog pobl i’r diwydiant lletygarwch oherwydd nid oes ganddynt ffug ddisgwyliadau ohono. Diwydiant ffordd o fyw yw hwn sy’n gallu esgor ar lawer o wobrau da. Nid oes terfyn ar allu dysgu unrhyw un p’un a ydych chi’n 17 oed neu’n 51 oed.”

Dathliad cenedlaethol o bobl sydd wedi cyflawni llwyddiant mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru yw Diwrnod VQ. Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod yn bwysicach i’r economi a’r unigolyn; cyflawnant y gweithwyr hyfforddedig, dawnus y mae busnesau’n gweiddi amdanynt ac yn sicrhau bod gan y bobl ifanc y sgiliau y mae arnynt eu hangen i lwyddo mewn addysg a gwaith.

Cefnoga Diwrnod VQ y dyhead y dylai cymwysterau galwedigaethol, nad ydynt ond ar gyfer pobl ifanc, gael parch cydradd ochr yn ochr â llwybrau addysgol eraill.

Mae’r Gwobrau VQ yng Nghymru’n helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae dau gategori gwobr: Dysgwr VQ y Flwyddyn a Chyflogwr VQ y Flwyddyn. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo i’w chynnal yn y St David’s Hotel, Caerdydd ar noson 9 Mehefin, sef noswyl Diwrnod VQ.

More News Articles

  —