Cymwysterau’n rhoi’r triniwr gwallt Josh ar ben ffordd i weithio gyda’r enwogion

Postiwyd ar gan karen.smith

Josh Rees Hole – vocational qualifications are the foundation of a career.

Josh Rees Hole – cymwysterau galwedigaethol yw sylfaen gyrfa.

Mae cymwysterau galwedigaethol wedi arwain at yrfa ddisglair i’r triniwr gwallt dawnus o Gymru, Josh Rees Hole, sydd â phobl enwog a chyfoethog ymhlith ei restr gleientiaid erbyn hyn.

Mae Josh, 26 oed, bellach yn gyfarwyddwr ar y tîm elît yn Urban Retreat, salon y sêr byd enwog yn siop Harrods yn Llundain ac mae’n gweithio ar sesiynau tynnu ffotograffau a sioeau ffasiwn moethus.

Cymaint yw’r parch tuag ato, mae cleientiaid, gan gynnwys aelodau’r teuluoedd brenhinol tramor a’r sêr yn hedfan o bob cwr o’r byd i gael steilio’u gwallt gydag ef.

Mae newydd ddychwelyd i’r salon ar ôl cymryd blwyddyn allan i weithio ym Mrasil lle dysgodd dechnegau lliwio newydd. Ei obaith yw parhau i deithio’r byd yn y dyfodol, gan weithio i’r cleientiaid y mae wedi cyfarfod â nhw yn Urban Retreat.

Ei uchelgais yw agor cadwyn o salonau trin gwallt ym mhob un o brif ddinasoedd y DU, sy’n cynnwys Caerdydd, lansio amrywiaeth o gynhyrchion gwallt o’i frand a throsglwyddo’i angerdd am hyfforddi i’r genhedlaeth nesaf o drinwyr gwallt.

Dechreuodd ei daith i enwogrwydd yn The Hair Business, yn y Bontfaen lle darganfyddodd fod ganddo ddawn am drin gwallt ar ôl iddo fwriadu mynd i’r heddlu’n wreiddiol. Bu 2009 yn flwyddyn allweddol iddo oherwydd enillodd Wobr Dysgwr Prentisiaeth Fodern y Flwyddyn Cymru, fe’i dewiswyd i gynrychioli Tîm Trin Gwallt Ieuenctid Prydain a fe oedd enillydd cyffredinol Salon Cymru, sef prif ddigwyddiad gwallt a harddwch y wlad.

Nid yw wedi edrych yn ôl ers cyflawni ei brentisiaeth gydag ISA Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sef y darparwr hyfforddiant gwallt a harddwch annibynnol mwyaf yng Nghymru ac mae’n dychwelyd i Gymru’n gyson i roi dosbarthiadau meistr i’r cwmni.

Mae bellach yn gweithio gyda chadeirydd ISA Training, sef Shirley Davis-Fox, aelod o’r Cyngor Gwallt, i hyrwyddo cofrestriad gwladol i bob triniwr gwallt cymwys yn y DU, er mwyn cael mwy o broffesiynoldeb i’r diwydiant.

Dywedodd Josh, hyrwyddwr cryf cymwysterau galwedigaethol a dysgu yn y gwaith: “Mae cymwysterau galwedigaethol mor bwysig oherwydd nhw yw sylfaen eich gyrfa. Mae angen i chi ddeall beth rydych chi’n ei wneud cyn i chi gael yr hyder i roi’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu ar waith.

“Rydw i wedi bod yn ffodus i weithio mewn rhai salonau da iawn ond rydw i hefyd wedi gweithio’n eithriadol o galed i gyrraedd lle rydw i. Rhaid i chi feddu ar yr angerdd a’r ffocws i ddatblygu. I fi, y bersonoliaeth a’r penderfyniad sydd gennych sydd bwysicaf.”

Mae’n cefnogi’r Gwobrau VQ eleni yng Nghymru ar 9 Mehefin a’r Diwrnod VQ cenedlaethol y diwrnod canlynol. Dathliad cenedlaethol o bobl sydd wedi cyflawni llwyddiant mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru yw Diwrnod VQ.

Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod yn bwysicach i’r economi a’r unigolyn; cyflawnant y gweithwyr hyfforddedig a dawnus y mae busnesau’n gweiddi amdanynt ac yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y sgiliau y mae arnynt eu hangen i lwyddo mewn addysg a gwaith.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a’u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol. Ariennir y gwobrau’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae dau gategori gwobr: Dysgwr VQ y Flwyddyn a Chyflogwr VQ y Flwyddyn. Bydd y rheiny yn y rownd derfynol yn cael eu rhoi ar y rhestr fer o enwau ac yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau mis Mai. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo i’w chynnal yn y St David’s Hotel, Caerdydd ar 9 Mehefin

More News Articles

  —