Myfyrwyr yn Creu Ap Newydd ar gyfer yr Elusen Iechyd Meddwl Mind

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Welsh

Mind-launch-2-2-725x415

Mae myfyrwyr Coleg Cambria wedi bod yn brysur yn creu ap, fel rhan o’u cymhwyster Bagloriaeth Cymru, a fydd o fudd i unigolion â phroblemau iechyd meddwl.

Fel rhan o’u her y gymuned, mae dysgwyr TG wedi bod yn gweithio’n agos ag elusen Mind Gogledd Ddwyrain Cymru i ddylunio a datblygu ap er mwyn helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gymorth a’i defnyddio. Roedd y prosiect yn gyfle i’r myfyrwyr gynorthwyo elusen ac iddynt feithrin eu sgiliau technegol yn ogystal â gweithio ar broblem go iawn gan ddefnyddio’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn y coleg.

Dywedodd Berni Durham-Jones, Rheolwr Lles y Gweithle Mind Gogledd Ddwyrain Cymru:

“Bu’n werth chweil gweithio mewn partneriaeth â Choleg Cambria ar y prosiect hwn. Gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth i unigolion â phroblemau iechyd meddwl, gan eu galluogi i ddefnyddio’r ap i ddod o hyd i gymorth ac arweiniad i’w helpu. Roedd y myfyrwyr yn arwain y prosiect gan ei seilio ar bobl ifanc, felly mae’r ap yn berthnasol iawn i’w grŵp oedran.”

“Mae hwn wedi bod yn gyfle ardderchog ar gyfer ein myfyrwyr” dywedodd tiwtor TG Simon Prince. “Mae creu’r ap wedi rhoi sgiliau newydd iddynt a helpu Mind Gogledd Ddwyrain Cymru mewn ardal lle nad oes llawer ar gael i bobl ifanc.

“Rydw i’n falch iawn o’r dysgwyr sydd wedi bod yn cymryd rhan, ac rydw i’n gobeithio’n fawr y bydd yr ap o fudd i lawer o bobl â phroblemau iechyd meddwl.

Dywedodd Elane Roberts, Cydlynydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Coleg Cambria:

“Dyma brosiect bendigedig, ac mae’r myfyrwyr wedi gwneud gwaith da iawn. Fe hoffwn i ddiolch i Mind Gogledd Ddwyrain Cymru am roi’r cyfle gwych hwn i fyfyrwyr roi eu sgiliau TG ar waith.”

Newyddion Coleg Cambria

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i’r adran Prentisiaethau ar wefan Busnes Cymru neu i gofrestru eich diddordeb mewn prentisiaethau, gallwch gwblhau ein ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.

More News Articles

  —