Naw ar restr fer rownd derfynol y Gwobrau VQ yng Nghymru eleni

Postiwyd ar gan karen.smith

vq-eng







 

Mae naw ar restr fer y rownd derfynol ar gyfer gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (Gwobrau VQ) eleni, sy’n dathlu cyflawniadau dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru.

Dewisodd panel o feirniaid chwech i fod yn rownd derfynol Dysgwr VQ y Flwyddyn a thri ar gyfer Cyflogwr VQ y flwyddyn, ar ôl ystyried nifer fawr o geisiadau a dderbyniwyd o bob cwr o Gymru. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo i’w chynnal yng Ngwesty a Sba St David’s, Caerdydd ar 9 Mehefin, sef noswyl Diwrnod VQ.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a’u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae’r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-daro â’r Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol, sef dathliad ledled y DU o gymwysterau galwedigaethol i fyfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr, a gynhelir ar 10 Mehefin.

Dyma’r rhai yn rownd derfynol gwobr Cyflogwr VQ y flwyddyn: y cynhyrchwr bwyd Dailycer UK o Lannau Dyfrdwy, y feithrinfa blant Little Inspirations o Lantrisant, a’r salon trin gwallt a gwaith barbwr Spirit Hair Team o Ystrad Mynach.

Yn cystadlu am wobr Dysgwr VQ y Flwyddyn mae: Casey Coleman, 28 oed, cyfarwyddwr artistig salon Ocean Hairdressing, Caerdydd; James Pepper, 39 oed, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol Vista Retail Support Ltd, Pentwyn, Caerdydd; cyn ddysgwr Coleg Penybont Michael Whippey, 23 oed, y prif hyfforddwr yn Shardeloes Farm Equestrian Centre, Amersham; Paul Wiggins, 35 oed, o Gaerdydd, brocer yswiriant siartredig BPW Insurance Services, Casnewydd; cyn ddysgwraig Coleg Penybont Serena Torrance, 23 oed, o Faesteg sy’n dilyn gradd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd a chyn ddysgwr Coleg Sir Gâr Simon McCall, 21 oed, o Gapel Dewi, saer hunangyflogedig ac aelod o Sgwad WorldSkills UK.

Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James y naw ysbrydoledig yn y rownd derfynol a chanmolodd hefyd y cyflogwyr a’r dysgwyr a roddodd gynnig ar y Gwobrau VQ eleni.

“Mae Gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich gyrfa ddethol,” meddai. Defnyddir rhaglenni datblygu proffesiynol a phersonol ar gyfer staff i’w galluogi i ddilyn llwybr dysgu i fodloni anghenion y cwmni, y cwsmer, ac anghenion unigolion.

“Mae’r Gwobrau VQ yn ein helpu ni i ddathlu’r cyflogwyr a’r dysgwyr hynny yng Nghymru sydd eisoes yn teithio’r filltir ychwanegol o ran datblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

“Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru’n cydweithio i fuddsoddi yn y sgiliau iawn ar gyfer llwyddiant er mwyn darparu gweithlu o safon fyd-eang i Gymru.”

Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy’n arddangos yn glir ddilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac wedi gwneud cyflawniadau sylweddol yn eu maes.

Mae Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod cyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud gwir gyfraniad, sy’n berthynol i’w maint, i wella sgiliau a chystadleugarwch cenedlaethol.

More News Articles

  —