Mae Joel ar ei ffordd i Awstralia, ac mae’n Bencampwr Salon Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Overall winner Joel Williams with his models

Joel Williams

Mae Joel Williams, y dylunydd gwallt 19 oed o Bont-y-pŵl, sy’n bwriadu symud i fyw i Awstralia yn ddiweddarach yn y flwyddyn, wedi sicrhau ei fod yn gadael Cymru mewn steil ar ôl ennill prif ddigwyddiad harddwch a thrin gwallt y wlad ddydd Sul.

Mae Joel yn gweithio i D. K. Sebastian yng Nghwmbrân a chafodd ei gyhoeddi’n bencampwr cyffredinol yn Salon Cymru. Denodd y digwyddiad dros 160 o gystadleuwyr o bob cwr o Gymru, siroedd y gororau, Sbaen a Gwlad Pwyl i Stadiwn SWALEC yng Nghaerdydd.

Dyma’r tro cyntaf i Joel fentro i fyd cystadlu, ac enillodd y categori lefel dau chwythu a sychu a’r categori lliwio i ychwanegu at ei deitl cyffredinol yn y gystadleuaeth flynyddol ddeinamig hon a gaiff ei threfnu gan ISA Trainig, y darparwr hyfforddiant gwallt a harddwch annibynnol mwyaf yng Nghymru.
Cafodd Joel gefnogaeth gan ei fam, Karen, a chydweithwyr yn y salon, a dywedodd, “Fe wnes i gystadlu yn Salon Cymru i gael y profiad o gystadlu a doeddwn i ddim yn disgwyl ennill dim gan fod y safon mor uchel. Mae’r gwaith caled wedi talu ar ei ganfed.”

“Roedd mam yn ddylunydd gwallt, ac fe gefais fy magu ym myd trin gwallt. Rhaid imi gyfaddef nad dyna oedd fy newis cyntaf fel gyrfa, ond rwyf wrth fy modd gyda’r gwaith ac mae’r hyfforddiant a’r gefnogaeth gan D. K. Sebastian yn wych. Maent yn dweud a dweud wrthym mai’r mwyaf o ymdrech wnawn ni, y mwyaf o fudd gawn ni.”
“Rwy’n ymarfer adref tua chwe noson yr wythnos am fy mod i’n mwynhau gwneud hynny, a dw i ddim yn meddwl amdano fel gwaith. Hoffwn anelu at y gorau yn y maes.”

Dywedodd Joel ei fod yn gobeithio ymfudo i Brisbane ym mis Medi, ar ôl syrthio mewn cariad â’r wlad pan oedd yno ar wyliau. “Un o’r prif resymau dros ymfuod yw’r cyfleoedd sydd ar gael yno.”
Enillydd y wobr seren y dyfodol oedd Vincenza Butchers, 21, sy’n brentis gyda Guys and Dolls @ Alex’s yn Llanelli. Roedd y wobr yn sioc iddi hithau hefyd. Dywedodd Vincenza, “Roeddwn i wrthi’n pacio fy magiau i adael pan glywais fy enw’n cael ei gyhoeddi.”

“Alla i ddim disgrifio beth mae’n ei olygu imi i ennill y wobr hon. Does gen i ddim llawer o hunanhyder ac rwy’n berson eitha nerfus, felly mae’r wobr hon yn hwb mawr imi.”

“Fy uchelgais yw parhau i wella a naill ai addysgu dylunio gwallt neu sefydlu fy musnes fy hun rhyw ddiwrnod.”
Cafodd myfyrwyr o Wlad Pwyl a Sbaen, sy’n rhan o raglen cyfnewidfa ddysgu â Chymru, gyfle i wneud eu marc yn y digwyddiad hefyd, wrth i’r Sbaenes Aitana Sanchez Garcia Hidalgo, 23, ennill y categori colur ffantasi yn ei chystadleuaeth gyntaf erioed.

Pan enillodd Aitana, ei hymateb oedd, “Anhygoel. Rwyf wrth fy modd gyda Salon Cymru. Mae’n llawer mwy trefnus nag yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl.”

Roedd Aitana yno gyda chriw o ddysgwyr o Tarragona yn Sbaen, Gwlad Pwyl a Thwrci a oedd ar ymweliad dychwelyd, gan ddilyn ymweliad dysgwyr o ISA Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr â’r gwledydd hynny i gael profiad o’r diwydiant gwallt a harddwch yno.

Cipiodd dwy gydweithwraig o One A Hair and Beauty, Caernarfon, wobrau hefyd. Daeth Ellie Dwyer i’r brig am y drydedd flwyddyn yn olynol yn Salon Cymru, ar ôl ennill yn y categori lefel dau colur, ac ar ôl bod yn fodel iddi am ddwy flynedd, daeth Ruth Elen Lloyd, 19, yn gyntaf yn y gystadleuaeth lefel dau gwallt-wedi’i-godi ar ôl cystadlu am y tro cyntaf.

Roedd Marilyn Lowrie, 31, o Goleg Cambria, Wrecsam, yn ei dagrau pan enillodd y categori lefel tri colur. Dywedodd Marilyn, sy’n byw ym Magillt, “Roeddwn eisiau mentro i fyd colur pan oeddwn yn iau, ond doedd gen i ddim hyder.
“Fy merch fach bump oed, Nyla Mae, sy’n fy ysbrydoli, a hi sydd wedi rhoi’r hyder i mi fynd amdani. Buaswn yn hoffi mynd i ysgol golur ym Manceinion a’m huchelgais yw cael fy mrand colur fy hun rhyw ddiwrnod. Rwyf eisiau gweithio’n galed a llwyddo.”

Bethan Maria Evans, 21, o Goleg Llandrillo yn Llandrillo yn Rhos, ac sy’n gweithio yn Copa, Bethesda ar benwythnosau, enillodd y categori lefel tri gwallt-i-fyny. Dywedodd, “Mae ennill yn deimlad gwych. Mae’n braf cael y gydnabyddiaeth am yr holl waith caled wnes i ar ei gyfer.”

“Rwyf wedi cael cymaint o help a chefnogaeth gan fy nhiwtoriaid a’r rheolwyr, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny.”
Enillydd y categori lefel tri torri oedd Sinitta Dee Western, 23, o Goleg Gwent, Cross Keys sy’n gweithio i Evolve Hair, Maendy, Casnewydd. Dywedodd, “Mae ennill y gystadleuaeth hon wedi rhoi hwb i’m hyder a hoffwn arbenigo mewn torri gwallt yn y dyfodol.”

Enillodd Jake Anthony Morgan, 18, o Goleg Sir Benfro wobr lefel dau barbwr yn ei gystadleuaeth gyntaf yn Salon Cymru. Mae’n gweithio yn The Room, Johnston, ger Hwlffordd.

Dywedodd Jake, sy’n byw yn Aberteifi, “Fe ddes i â model ychydig yn anodd, sydd â gwallt Affro Caribïaidd, i geisio gwneud argraff ar y beirniaid, ac rwy’n credu ei fod wedi gweithio. Rwyf wedi bod yn gweithio fel barbwr ers imi adael yr ysgol yn 16 oed ac mae ennill yn deimlad gwych am fod Salon Cymru yn ddigwyddiad arbennig.”
“Hollol anhygoel,” oedd ymateb Harriet Young, 22, o Jazz Hair and Beauty, Magwyr, ar ôl ennill y gystadleuaeth boblogaidd avant garde. Dywedodd, “Dydw i erioed wedi ennill dim yn fy mywyd ac rwy’n credu bod fy ngwaith caled wedi bod yn werth yr ymdrech.”

Dywedodd Harriet, sy’n gweithio yn salon ei mam, “Dechreuais i ymchwilio i waith avant garde cyn gynted ag y cafodd y gystadleuaeth ei chyhoeddi. Mae’n braf iawn bod pobl yn gweld fy ngwaith a hoffwn i weithio ym myd teledu a ffilmiau yn y dyfodol.”

Daeth tua 500 o bobl i wylio’r cystadlu yn Salon Cymru, a oedd yn cynnwys dosbarth meistr 90 munud gyda’r dylunydd gwallt ysbrydoledig, Patrick Cameron, a gyhoeddodd fod y digwyddiad yn llawer mwy ac yn llawer gwell nag yr oedd bedair blynedd yn ôl, sef y tro diwethaf iddo ymweld.

Dywedodd Cameron, sy’n hanu o Seland Newydd ac a gaiff ei gydnabod gan ei gyfoedion fel y llysgennad rhyngwladol dros wallt hir, “Mae’r naws yn llawer gwell, mae mwy o bobl yma, ac mae safon y gystadleuaeth yn llawer uwch eleni.”
“Rwy’n teithio’r byd yn addysgu dylunwyr gwallt ac yn dangos y tueddiadau diweddaraf iddyn nhw. Un peth rwy’n teimlo’n angerddol iawn amdano yw hyfforddiant ac rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn er mwyn gyrru’r diwydiant yn ei flaen.”

Apelioadd ar berchennog pob salon a phob dylunydd gwallt cymwysedig i rannu eu sgiliau a’u gwybodaeth gyda phobl ifanc sy’n cychwyn yn y diwydiant er mwyn iddynt allu dysgu sut i osod, torri a sychu gwallt.

Roedd un cyn-enillydd Salon Cymru o 2009 yn dychwelyd i’r digwyddiad eleni, ond y tro hwn fel beirniad. Yr enillydd cyffredinol y flwyddyn honno oedd Josh Rees-Hole, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Artistig yn Urban Retreat, sef y salon yn Harrods yn Llundain. Roedd yn canmol safonau uchael y cystadleuwyr ac, fel Cameron, soniodd am ei angerdd dros hyfforddi a datblygu talentau dylunwyr gwallt ifanc.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr ISA Training, Berni Tyler, a oedd wrth ei bodd gyda’r ymateb: “Doeddwn i ddim yn gallu credu y gallai Salon Cymru fod yn fwy nac yn well, ond mae’n fwy ac yn well nag erioed. Mae’r proffesiynoldeb a’r safonau a gaiff eu cyrraedd yn dal i fy synnu.”

“Mae cyflwyno myfyrwyr Ewropeaidd eleni wedi rhoi rhywbeth i’r cystadleuwyr feddwl amdano, ac fe weithiodd hynny’n dda. Y flwyddyn nesa, hoffwn weld cystadlaethau barbwr ac avant garde agored er mwyn codi’r safonau’n uwch eto.”
Yn ogystal â dosbarth meistr Cameron, cafwyd arddangosfeydd gan Darryn Pitman, sef Barbwr y Flwyddyn WAHL a Steven Smart, cyn-bencampwr dylunio gwallt y byd. Arweinydd y digwyddiad oedd Owain Wyn Evans, dyn tywydd BBC Cymru.

Y beirniaid oedd Scott Smurthwaite, cyfarwyddwr Cream, Cheltenham a Chaerloyw, Vicky Turner o’r Goldsworthy Group, John Rees-Hole, un o gyfarwyddwyr Urban Retreat, Harrods, Deborah Smart enillydd medal aur y byd, Smart Est 72 a Chris Howells o Laura Mercier.

More News Articles

  —