Cynhadledd ar y thema ‘Prentisiaethau, Sgiliau ar gyfer Twf Economaidd yng Nghymru’

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Caiff cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) ei hatgyfodi ar y thema ‘Prentisiaethau, Sgiliau ar gyfer Twf Economaidd yng Nghymru’ yng Nghasnewydd ar 22 Mawrth 2024.

Daw prif siaradwyr y gynhadledd o Lywodraeth Cymru, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) ac o blith cyflogwyr a chynhelir gweithdai gan randdeiliaid allweddol mewn achlysur a fydd yn canolbwyntio ar adeiladu llwyddiant yfory heddiw.

Bydd y cynadleddwyr yn trafod rhyddhau potensial trwy brentisiaethau, grymuso pobl ar gyfer y dyfodol, grymuso cyflogwyr a sbarduno ffyniant economaidd.

Cynhelir gweithdai gan Cymwysterau Cymru, Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg, Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Jisc Cymru ac Amser i Newid Cymru.

Bydd rhagor o fanylion a gwybodaeth sut i gadw lle ar gael yn y Flwyddyn Newydd.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —