Adduned Gweinidog am gydraddoldeb i gyrsiau galwedigaethol yn plesio darparwyr hyfforddiant

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae ffederasiwn o ddarparwyr hyfforddiant wedi croesawu adduned Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, i sicrhau cydraddoldeb rhwng llwybrau dysgu galwedigaethol ac academaidd yng Nghymru.

head shot of Lisa Mytton

Lisa Mytton, wrth ei bodd â’r adduned parch cydradd.

Gwnaed yr adduned ar ôl cyhoeddi adroddiad annibynnol y bu disgwyl mawr amdano ar adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae canfyddiadau’r adroddiad ac adduned y gweinidog wedi plesio Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), corff y mae ei aelodau’n darparu prentisiaethau a rhaglenni eraill dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru. Buont yn ymgyrchu ers tro i sicrhau parch cydradd i addysg alwedigaethol.

“Rwy wedi ymrwymo i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng llwybrau dysgu galwedigaethol ac academaidd yng Nghymru,” meddai Mr Miles. “Bydd gwella darpariaeth y cymwysterau galwedigaethol Gwneud-i-Gymru, a’r amrywiaeth sydd ar gael, yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion economi Cymru i’r dyfodol, gan gynnig cyfleoedd ar yr un pryd i’n myfyrwyr feithrin y sgiliau a’r cymwysterau y mae arnynt eu hangen.”

Bydd yr adroddiad, sy’n gwneud 33 o argymhellion, yn helpu i benderfynu ar y camau nesaf wrth ystyried ehangu cymwysterau galwedigaethol Gwneud-i-Gymru, er mwyn diwallu anghenion dysgwyr ac economi Cymru i’r dyfodol.

Daw’r gefnogaeth i sicrhau cydraddoldeb i gymwysterau galwedigaethol ar adeg bwysig wrth sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY), y corff newydd a fydd yn goruchwylio’r holl addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru o fis Ebrill nesaf ymlaen.

Mae’r adroddiad yn cydnabod yr hyn sydd eisoes yn dda am gymwysterau galwedigaethol a’r ffordd y cânt eu cyflwyno ond mae’n argymell newidiadau lle bo angen.

Mae’n cydnabod pwysigrwydd cefnogaeth gref gan gyflogwyr o ran datblygu a chyflwyno cymwysterau galwedigaethol. Mae hefyd yn argymell cynyddu nifer y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael trwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Dywedodd cyfarwyddwr strategol yr NTFW, Lisa Mytton, a gyfrannodd at yr adolygiad:

“Cymwysterau galwedigaethol yw curiad calon prentisiaethau. Maen nhw’n ein helpu i ddatblygu gweithlu deinamig a hyblyg, ond mae cyfle bob amser i wneud mwy, i fod yn fwy uchelgeisiol.

“Mae tirwedd cymwysterau Cymru’n newid, gan baratoi’r ffordd ar gyfer cyfleoedd newydd a dylai cymwysterau galwedigaethol a phrentisiaethau fod yn uchel eu parch.

“Mae’r NTFW yn falch iawn bod y Gweinidog Addysg yn cydnabod yn yr adroddiad bod angen parch cydradd a neges unedig, gyson ac uchel o blaid addysg alwedigaethol fel rhan ganolog o ddewis gyrfa, datblygiad cyflogwyr a thwf economaidd Cymru a rhywbeth sy’n cael yr un gwerthfawrogiad gan bawb.”

Dros y blynyddoedd, bu newidiadau sylweddol yn narpariaeth, ansawdd a chyflawniad prentisiaethau, esboniodd. Mae cymwysterau galwedigaethol yn helpu i lenwi’r bwlch sgiliau ac ychwanegu gwerth at yr economi.

“Mae llawer o lwybrau prentisiaethau ar gael ac mae’r cymwysterau eu hunain yn cynnwys gwerthoedd cymdeithasol, gan helpu’r dysgwyr nid yn unig i ddod yn unigolion medrus ond hefyd i ddeall cyd-destun ehangach cymunedau, llesiant a’r amgylchedd,” ychwanegodd Lisa.

“Mae cymwysterau galwedigaethol yn hybu dysgwyr i fod yn unigolion uchelgeisiol, penderfynol, annibynnol, gwydn a brwd, sy’n gallu ymateb i newidiadau ym myd gwaith a chymdeithas drwy gydol eu hoes, ac a fydd yn mynd ati i ddiwallu anghenion economi Cymru ac economïau byd-eang er mwyn iddynt dyfu.”

Dywedodd Sharron Lusher, MBE, cadeirydd grŵp llywio’r adolygiad:
“Rwy wedi gweld y gwahaniaeth y mae addysg a hyfforddiant galwedigaethol wedi’i wneud i fywydau cymaint o bobl.

“Gobeithio y bydd yr adolygiad hwn yn hwb i dynnu sylw at gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru ac yn annog pawb i ystyried addysg alwedigaethol wrth benderfynu am eu dyfodol. ”

Mewn cyfarfod â Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, soniodd Lisa ac aelodau bwrdd NTFW am rôl darparwyr hyfforddiant annibynnol o dan CADY a’r angen i fynd i’r afael â’r ffaith bod sefydliadau dyfarnu yn y DU yn dileu cymwysterau sy’n bwysig i Gymru.

Yn ogystal, trafodwyd y pwysau ar gyllideb Llywodraeth Cymru a manteisio i’r eithaf ar y contract prentisiaethau i dyfu’r economi.

Yn ddiweddar, hefyd, cyfarfu deiliaid contractau a gomisiynwyd â Jo Salway, cyfarwyddwr partneriaeth gymdeithasol, cyflogadwyedd a gwaith teg Llywodraeth Cymru, a’i chydweithwyr er mwyn helpu i benderfynu ar gyfeiriad strategol prentisiaethau o dan CADY.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —