Lansio – Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru (2023-25)

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn ymgysylltu â dros 400 o gyflogwyr i gyd-ddatblygu Cynllun newydd tair blynedd Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru (2023-25), a fydd yn cael ei lansio ym mis Ionawr 2023.

Workshop attendees listening to presenter

Mae’r Cynllun newydd yn cynnwys drosolwg o anghenion cyflogaeth, recriwtio a sgiliau busnesau a chyflogwyr lleol, ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion i gyflawni eu potensial.

Y weledigaeth yw bod Gogledd Cymru yn rhanbarth lle mae’r bobl, ac yn benodol eu sgiliau a’u galluoedd, yn sbardun allweddol i ddatblygiad economaidd a llesiant. Mae cyflogwyr yn y rhanbarth yn ffynnu, yn datblygu ac yn tyfu oherwydd sgiliau’r boblogaeth leol.

Mae busnesau am symud i’r rhanbarth oherwydd sgiliau’r boblogaeth leol. Ar yr un pryd, gall trigolion gyflawni eu huchelgeisiau a gwneud y mwyaf o’u potensial yng Ngogledd Cymru.

Sut byddwn ni’n gwneud hyn?

Er mwyn helpu i gyflawni’r weledigaeth, bydd y Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru yn:

  • Helpu cyflogwyr i ddeall potensial gweithwyr yn y rhanbarth heddiw ac yn y dyfodol
  • Helpu’r boblogaeth leol i ddeall y cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael iddynt yn y rhanbarth heddiw ac yn y dyfodol
  • Hysbysu a gwella’r broses o wneud penderfyniadau ar lefel polisi a chyflawni yn y rhanbarth (gan gynnwys darparwyr addysg/hyfforddiant)
  • Hwyluso cydweithrediad a gweithio mewn partneriaeth rhwng y rhanddeiliaid allweddol

Cynhelir y lansiad ddydd Gwener, Ionawr 27 yn Venue Cymru, Llandudno a bydd yn tynnu sylw at Grymuso Gogledd Cymru trwy Sgiliau’r Dyfodol.

Bydd cyfle i rwydweithio ac i siarad ag arbenigwyr o fewn y dirwedd sgiliau a chyflogadwyedd a all gynnig cymorth i gyflogwyr ddatblygu a thyfu eu busnes yn ogystal â chynnal eu gweithlu trwy uwchsgilio a datblygu eu staff presennol.

Edrychwn ymlaen at groesawu partneriaid, rhanddeiliaid a chyflogwyr i’r lansiad. Cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol dros yr ychydig wythnosau nesaf am fanylion pellach ac am wybodaeth ar sut i archebu eich lle!

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
Uchelgais Gogledd Cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —