O siop sglodion i yrfa lewyrchus mewn TG

Postiwyd ar gan karen.smith

Niall Perks has used the apprenticeship programmes to develop a new career in IT.

Mae Niall Perks wedi defnyddio’r rhaglenni prentisiaeth i ddatblygu gyrfa newydd mewn TG.

Mae Niall Perks o Gaerdydd wedi defnyddio rhaglen brentisiaeth Llywodraeth Cymru i gymryd camau mawr yn ei yrfa.

Dechreuodd Niall, sydd yn 20 oed, ei brentisiaeth ar ôl penderfynu bod addysg y byd go iawn yn ddewis gwell iddo ef na mynd i’r brifysgol. Ers hynny, mae wedi datblygu o weithio’n rhan-amser mewn siop sglodion i yrfa addawol mewn TG a thelathrebu lle mae ganddo ymagwedd arloesol, ac yn ychwanegu gwerth i gwsmeriaid a’i gyflogwr.

Fel gwobr am ei lwyddiant, mae wedi cael ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno ar 20 Hydref.

Mae’r gwobrau blaenllaw, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yn dathlu cyflawniadau eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu rhaglenni Hyfforddeiaeth, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Noddir y Gwobrau gan Pearson PLC gyda chymorth partner y cyfryngau, Media Wales.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Tra’n gweithio ar ei Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 i gwmni TG SIPHON yng Nghwmbrân, datblygodd Niall ffyrdd newydd o weithio sydd yn datrys problemau cwsmeriaid yn gynt, gyda chynnydd yn nifer y materion sy’n cael eu datrys fesul peiriannydd. Defnyddiodd ei sgiliau codio hefyd i ddatblygu ffordd fwy effeithlon i’w fos greu adroddiadau misol i gwsmeriaid.

Dywed Niall, sydd yn gweithio fel Peiriannydd Cymorth Cyfathrebu Unedig, fod ei brentisiaeth wedi rhoi mwy o hunanhyder iddo. “Rwyf wedi cyflawni mwy nag yr oeddwn yn dychmygu y gallwn,” dywedodd. “Rwy’n credu gall fy nhaith fel prentis ysbrydoli eraill i weld nad oes angen mynd i’r brifysgol i gael gyrfa lwyddiannus.”

Cafodd arbenigedd TG Niall ei gydnabod yn ddiweddar pan enillodd y fedal aur yn rownd WorldSkills UK ar gyfer Technegwyr Cymorth Uwch yng Nghaerdydd. Cafodd ei enwi gan y darparwyr hyfforddiant Acorn fel ‘Dysgwr y Mis’ ym Mai 2016, allan o 1,000 o brentisiaid ar draws y wlad.

Mae ei gyflogwr yn ei ystyried yr un mor gadarnhaol. Dywedodd Jeff Bevins, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Technegol: “Mae Niall yn beiriannydd ifanc hynod sydd, heb os, â dyfodol disglair iawn o’i flaen.”

Mi wnaeth Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, longyfarch Niall a’r 32 ymgeisydd arall ar y rhestr fer. “Rydym yn falch o ddarparu un o’r rhaglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus yn Ewrop gyda chyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn dal ymhell uwchlaw 80 y cant,” dywedodd.

“Mae datblygu pobl â sgiliau yn hanfodol i’n heconomi. Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniad. Mae’r darparwyr dysgu a’r cyflogwyr, sydd yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau i gefnogi eu prentisiaid, yr un mor bwysig.”

More News Articles

  —