Rhys yn croesawu cyfle am brentisiaeth adeiladu leol

Postiwyd ar gan karen.smith

Apprentice Rhys Donovan with Costain’s works manager Robert Satchell.

Mae Rhys Donovan wedi defnyddio’r rhaglenni prentisiaeth i ddatblygu gyrfa ym maes Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd.

Achubodd Rhys Donovan ar y cyfle a gynigiwyd gan raglen brentisiaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu gyrfa werthfawr ym maes Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd.

Roedd Rhys, sydd yn 23 oed o Ferthyr Tudful, wedi bod yn gweithio fel gweithiwr adeiladu am ddwy flynedd pan welodd y brentisiaeth adeiladu ddwy flynedd gyda Costain Ltd, yn arbennig ar gyfer Prosiect Adran 2 o’r A465 yng Ngilwern yn cael ei hysbysebu.

Nid oedd ei swydd yn darparu’r cyfleoedd hyfforddiant yr oedd yn chwilio amdanynt, felly croesawodd y cyfle i fynd yn ôl i astudio yng Ngholeg Gwent i weithio ar ei NVQ fel rhan o flwyddyn gyntaf y cwrs. Mae perfformiad academaidd Rhys yn dweud cyfrolau – cafodd bron 100% ym mhob un o’i asesiadau.

Fel gwobr am ei lwyddiant, mae wedi cael ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno ar 20 Hydref.

Mae’r gwobrau blaenllaw, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yn dathlu cyflawniadau eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu rhaglenni Hyfforddeiaeth, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Noddir y Gwobrau gan Pearson PLC gyda chymorth partner y cyfryngau, Media Wales.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae llwyddiant academaidd Rhys, ynghyd â phrofiad cynyddol ar y safle, mwy o wybodaeth am adeiladu ac iechyd a diogelwch, wedi rhoi mwy o hunanhyder iddo ac mae’n defnyddio hwnnw’n dda gydag ysgolion lleol i annog y genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu proffesiynol.

Mae wedi cael cefnogaeth ac anogaeth barhaus gan ei gyflogwr, ac mae Costain bellach wedi ei recriwtio i swydd cynghorydd Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd (SHE) dan hyfforddiant. Mae hyn yn golygu mwy o astudio a hyfforddiant, a bydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i Rhys wneud cynnydd yn ei yrfa.

Dywedodd Rhys: “Mae gweithio gyda gweithwyr a chrefftwyr medrus wedi fy nysgu sut i weithio gyda phawb i wneud ein safleoedd yn fwy diogel.”

Canmolodd Donna Evans, Cydlynydd Sgiliau Prosiect Costain, Rhys fel model rôl i eraill sy’n ystyried prentisiaeth: “Mae’n dangos pa mor llwyddiannus y gall fframwaith prentisiaeth fod a’r cyfleoedd a all ddod o ganlyniad i hynny.”

Mi wnaeth Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, longyfarch Rhys a’r 32 ymgeisydd arall ar y rhestr fer. “Rydym yn falch o ddarparu un o’r rhaglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus yn Ewrop gyda chyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn dal ymhell uwchlaw 80 y cant,” dywedodd.

“Mae datblygu pobl â sgiliau yn hanfodol i’n heconomi. Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniad. Mae’r darparwyr dysgu a’r cyflogwyr, sydd yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau i gefnogi eu prentisiaid, yr un mor bwysig.”

More News Articles

  —