OBE i David Jones, Coleg Cambria

Postiwyd ar gan karen.smith

David Jones, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Cambria

Mae David Jones, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Cambria, wedi derbyn OBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am wasanaethau i Addysg Bellach yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Roedd wedi synnu’n fawr ac wrth ei fodd o gael derbyn y wobr a dywedodd:

“Doeddwn i yn wir ddim yn disgwyl derbyn anrhydedd fel hyn. Doedd fy ngwraig na minnau’n credu’r peth pan ddes i o hyd i lythyr gwlyb oddi wrth Swyddfa’r Cabinet yn ein blwch post ar ôl dychwelyd o daith gerdded lawog iawn ychydig wythnosau yn ôl. Roedd yn foment swrrealaidd a fydd gyda ni, a’n ci, am byth!”

Bu David yn ei swydd bresennol ers mis Awst 2013 pan ffurfiwyd Coleg Cambria trwy uno cyn golegau Glannau Dyfrdwy ac Iâl, gan ddod yn un o sefydliadau addysg mwyaf Cymru a darparu cyrsiau ar gyfer dros 25,000 o ddysgwyr.

Dechreuodd ei yrfa mewn peirianneg electronig, cyn symud i’r sector addysg yn 1987, pan gafodd ei benodi yn Uwch Ddarlithydd mewn Electroneg yn Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd. Dywedodd:

“Ni wnes i aros ymlaen yn yr ysgol ar ôl 16 oed. Mi es i goleg, fel Coleg Cambria, a dilyn gyrfa mewn peirianneg cyn bod yn athro. Mae’n dangos bod unrhyw beth yn bosibl. Os gallaf i wneud hynny, yna gall unrhyw un ei wneud.”

Mae David hefyd yn aelod o Fyrddau Gwasanaethau Lleol Sir y Fflint a Wrecsam, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cyngor CBI Cymru, aelod o Fwrdd Ymgynghorol Cymwysterau Cymru a Chadeirydd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy a Thasglu Trafnidiaeth Gogledd Cymru.

Dywedodd:

“I ddweud y gwir mae hyn yn anrhydedd i bawb sy’n gysylltiedig â Choleg Cambria a’r colegau a’i ragflaenodd. Cardi ydw i, ond erbyn hyn rydw i wedi bwrw’n ngwreiddiau’n gadarn yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, lle cefais y pleser o weithio gyda chydweithwyr, llywodraethwyr a myfyrwyr gwirioneddol dalentog, ymrwymedig, arloesol ac ysbrydoledig, yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf. Rwy’n diolch iddyn nhw i gyd, ac i’m teulu am bob cymorth a charedigrwydd. Rwy’n teimlo mor falch fy mod wedi cael y gydnabyddiaeth hon a hoffwn petai fy mam yn fyw heddiw i rannu hyn gyda hi”.

Wrth longyfarch David ar ran y Llywodraethwyr a staff yn y coleg, dywedodd John Clutton, Cadeirydd y Bwrdd Llywodraethu:

“Hoffwn estyn ein llongyfarchiadau gwresog i David ar dderbyn OBE. Mae hon yn wobr llwyr haeddiannol, ond hwyr, o ystyried ei gyfraniad sylweddol i’r sector addysg bellach ac i economi’r rhanbarth”.

More News Articles

  —