Hyfforddiant Galwedigaethol ar Frig Agenda Llywodraeth Cymru gyda’r Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol ar agor am enwebiadau

Postiwyd ar gan karen.smith

Heddiw (dydd Mercher 28 Ionawr) mae’r Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol, sydd wedi’u cynllunio i ddathlu llwyddiannau unigolion a sefydliadau ym mhob cwr o Gymru, yn cael eu lansio’n swyddogol.

Mae’r Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol yn cael eu trefnu ar y cyd gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a ColegauCymru. Nod y Gwobrau yw helpu i enwi unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau y maent yn eu cynnig diolch i gymwysterau galwedigaethol, a’u gwneud yn esiampl i eraill.

Dywedodd Emma Thomas, enillydd Gwobr Dysgwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn y llynedd, sy’n 28 oed ac yn rhedeg ei meithrinfa ddwyieithog ei hun yn Sir Gaerfyrddin:

“Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i’n rhedeg fy meithrinfa fy hun heddiw heb fod wedi gweithio mor galed i wella fy sgiliau galwedigaethol yn barhaus ac ennill cymwysterau rheolaidd. Nawr, dw i am fod yn esiampl dda i fy staff.

“Dw i’n hynod frwdfrydig am ddarparu’r safon uchaf o ofal plant i’r teuluoedd, a thyfu a datblygu fy musnes ar yr un pryd.

“I wneud hyn, dw i’n ymroddedig i feithrin fy staff a’u hannog nhw i gael hyfforddiant galwedigaethol parhaus i wella eu sgiliau a chyflawni eu potensial eu hunain.

“Roedd ennill Dysgwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn y llynedd yn anrhydedd mawr ac mae’n brawf o’r holl waith caled rydw i wedi’i wneud i ddatblygu myfi fy hun ac i ddatblygu fy musnes dros y blynyddoedd.”

Mae’r gwobrau, sy’n cael eu cynnal am yr wythfed flwyddyn o’r fron erbyn hyn, yn cyd-fynd â’r Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol. Mae hwn yn ddathliad o gymwysterau galwedigaethol i fyfyrwyr, athrawon a chyflogwyr ar draws y DU, a fydd yn cael ei gynnal ar 10 Mehefin eleni.

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Mae gwobr Cymwysterau Galwedigaethol yn fwy na gwobr yn unig; mae’n symbol o ymroddiad at eich dewis gyrfa.

“Mae rhaglenni datblygu proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i’w galluogi i ddilyn llwybr dysgu i fodloni anghenion cwmnïau, cwsmeriaid ac unigolion. Bydd y Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol yn ein helpu i ddathlu’r cyflogwyr a’r dysgwyr yng Nghymru sydd eisoes yn gwneud llawer iawn i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.”

“Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, rhaid inni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn sicrhau bod gan Gymru weithlu o’r radd flaenaf.”

Mae dau gategori i’r gwobrau: Dysgwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn a Cyflogwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn. Bydd yr enwebiadau ar gyfer y gwobrau yn agor ddydd Mercher 28 Ionawr ac yn cau ddydd Gwener 1 Mai. Bydd rhestr fer o’r rheini a fydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael ei chyhoeddi ddechrau mis Mai. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn y nos ar 9 Mehefin, sef y diwrnod cyn y Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol ddydd Mercher 10 Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau ac i wneud cais, ewch i www.vqday.org.uk a lawrlwytho ffurflen gais.

More News Articles

  —