Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn dylanwadu ar gyfeiriad dysgu seiliedig ar waith

Postiwyd ar gan karen.smith

Minister for Skills and Science Julie James (centre) with speakers (from left) Dr John Graystone, Carmen Smith, NUS Wales deputy president, Megan Evans, National Society of Apprentices Wales and Sarah John, NTfW chair.

Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James (canol) gyda’r siaradwyr (o’r chwith) Dr John Graystone, Carmen Smith, dirprwy lywydd UCMC, Megan Evans, Cymdeithas Genedlaethol Prentisiaid Cymru a Sarah John, cadeirydd NTfW.

Anogwyd darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru i sicrhau bod eu strategaeth ar gyfer y dyfodol yn cael ei dylanwadu gan gynlluniau sgiliau cyflogaeth wedi’u paratoi gan dair Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Cymru, sy’n pennu’r sectorau blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau.

Daeth yr alwad gan Sarah John, cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yng nghynhadledd flynyddol y sefydliad, ‘Diogelu’r dyfodol mewn cyfnod o newid’, yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Mae’r NTfW yn cynrychioli dros gant o sefydliadau sy’n ymwneud â chyflenwi dysgu yn y gweithle yng Nghymru.

Dywedodd Mrs John, un o gyfarwyddwyr Acorn Learning Solutions, Casnewydd, wrth 180 o gynadleddwyr: “Mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wedi paratoi eu cynlluniau gweithredu ar gyfer cyflogaeth ac wedi pennu’r sectorau blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau ac yn awr mae angen i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith eu darllen a chyfleu eu canfyddiadau wrth gynllunio ar gyfer eu sefydliadau gan y bydd hyn yn cyfrannu at benderfyniadau ynghylch cyllido yn y dyfodol.”

Dywedodd y byddai’r NTfW yn parhau i gydweithio’n agos â sefydliadau eraill sydd â blaenoriaethau tebyg yn y sector cyflogadwyedd a sgiliau er mwyn mynd ati gyda’i gilydd i wynebu heriau’r dyfodol a chanfod atebion priodol.

“Fel man cychwyn, bu’r NTfW yn gweithio ar ddogfen ‘Datrysiadau Creadigol’ i’w hanfon at y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn cynnig sut y gallai’r rhwydwaith greu rhagor o gyfleoedd am brentisiaethau a llwybrau gyrfa mewn sectorau blaenoriaeth, gan adlewyrchu’r sgiliau y mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wedi nodi y bydd angen amdanynt yn y dyfodol,” meddai.

Croesawodd adduned Llywodraeth Cymru i gefnogi o leiaf 100,000 o brentisiaethau pob-oed o safon uchel i’w cyflenwi dros y pum mlynedd nesaf. “Mae’r cloc wedi dechrau tician i ni fel rhwydwaith ac mae’n rhaid i ni gydweithio â swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod nid yn unig yn cyflawni’r ymrwymiad hwn ond yn rhagori arno,” dywedodd wrth y cynadleddwyr.

“Fel sector, rydym wedi profi ein bod yn gallu addasu i newid fel bod ein rhaglenni a’n dulliau cyflenwi yn ateb gofynion llawer o bobl. Wrth edrych ymlaen at gyfnod arall o newid mawr i’r sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni fel rhwydwaith yn chwarae rhan ganolog yn y newid hwnnw, ac nad ydym yn eistedd yn ôl yn ddiymadferth.

“Erbyn hyn mae maes cyflogadwyedd a sgiliau’n golygu mwy na dim ond cyflenwi prentisiaethau a hyfforddeiaethau. Bydd yn gyffrous ac mae angen i ni fod yn barod i wynebu’r heriau sydd ar y ffordd.”

Dywedodd fod newidiadau pwysig wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, yn cynnwys pleidlais Brexit, a bod rhagor o newidiadau ar y ffordd, fel cyflwyno’r Ardoll Brentisiaethau a phroses dendro ar gyfer contractau cyflenwi dysgu seiliedig ar waith.

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, fod gan y tair Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol waith pwysig i’w wneud yn amlygu’r blaenoriaethau ar gyfer mynd i’r afael â phrinder sgiliau yn y sectorau twf a’r categorïau swyddi sy’n datblygu. Anogodd ddarparwyr dysgu i ymateb i anghenion economi Cymru.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru’n ymroi i bolisi newydd ar brentisiaethau ac i ailwampio’r gefnogaeth a roddir i gynlluniau cyflogadwyedd.

“Bydd y Rhaglen Gyflogadwyedd Bob-Oed yn fwy hyblyg ac ymatebol i bobl o bob oed a bydd yn gwneud mwy i ddiwallu anghenion pobl sydd ag angen cymorth i gael a chadw gwaith ac i symud ymlaen yn eu swydd,” meddai. “Mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn ganolog i’r weledigaeth hon a bydd eu gwybodaeth nhw am y farchnad lafur yn cyfrannu at y rhaglen.”

Cyfeiriodd at strategaeth Llywodraeth Cymru, ‘Symud Cymru Ymlaen’, i greu gwell swyddi trwy economi gryfach a thecach. Roedd economi â chyflogau uchel a sgiliau da yn hanfodol i’r agenda sgiliau, meddai.

Canmolodd yr NTfW am gyfrannu at agwedd lwyddiannus ‘Tîm Cymru’ at gyflenwi sgiliau.

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Carmen Smith, dirprwy lywydd UCMC, a Megan Evans o Gymdeithas Genedlaethol Prentisiaid Cymru, sy’n brentis ym maes y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnes gyda’r darparwr dysgu ACT Limited.

Roeddent yn galw am wneud mwy mewn ysgolion i hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr gyrfa gan ddweud y dylai barn dysgwyr fod yn ganolog i’r penderfyniadau a wneir am brentisiaethau. Cyhoeddodd Miss Smith y byddai’r NUS yn lansio siarter ansawdd prentisiaethau er mwyn pennu safonau gofynnol.

Un arall o’r prif siaradwyr oedd Tony Wilson, cyfarwyddwr polisi ac ymchwil gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith.
Roedd gan y cynadleddwyr ddewis diddorol o weithdai i fynd iddynt yn ystod y dydd hefyd.

More News Articles

  —