Penodi Sarah a Paul i arwain NTfW mewn cyfnod o newid

Postiwyd ar gan karen.smith

The NTfW’s chair Sarah John with vice chair Paul Napier.

Cadeirydd NTfW, Sarah John, a’r is-gadeirydd, Paul Napier.

Mae menyw sy’n weithgar ym myd dysgu seiliedig ar waith ers 22 o flynyddoedd wedi’i hethol yn gadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) am y tair blynedd nesaf.

Bu Sarah John, cyfarwyddwr masnachol Acorn Learning Solutions, Casnewydd, yn gadeirydd dros dro ers yr haf. Gwnaed y penodiad yng nghyfarfod blynyddol NTfW sy’n cynrychioli dros gant o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Yr is-gadeirydd yw Paul Napier, 48 oed, sef cyfarwyddwr Cymru gyda’r darparwr dysgu seiliedig ar waith, Rathbone. Daw’n wreiddiol o Sir Benfro ond mae’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn a bu’n ymwneud â dysgu seiliedig ar waith ers bron 30 mlynedd. Ef yw is-gadeirydd rhanbarth De-ddwyrain Cymru NTfW.

Bu Sarah’n aelod o fwrdd NTfW ers dwy flynedd a bu’n gadeirydd rhanbarth De-ddwyrain Cymru cyn hynny. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol De-ddwyrain Cymru ac yn aelod o Fforwm Cydweithio Prifysgol Morgannwg.

Mae Sarah, sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn dod i’r gadair mewn cyfnod o newid i’r sector dysgu seiliedig ar waith yn sgil pleidlais Brexit, cyflwyno’r Ardoll Brentisiaethau newydd y gwanwyn nesaf a chynlluniau ar gyfer cylch tendro newydd am gontractau Llywodraeth Cymru.

Roedd yn croesawu diwedd cyfnod o ansicrwydd ynghylch dyfodol NTfW, sydd wedi penderfynu parhau’n sefydliad annibynnol. Ni lwyddwyd i gyrraedd cytundeb ar ôl trafodaethau maith ynglŷn â’r posibilrwydd o uno gyda ColegauCymru i greu corff dysgu ôl-16 newydd yng Nghymru.

“Rwy wrth fy modd o gael fy mhenodi’n gadeirydd am y tair blynedd nesaf,” meddai. “Yn awr, gallaf i a’r bwrdd gydweithio ar gynllun strategol i symud ymlaen â’r rhwydwaith, gyda chyfeiriad clir i’n hamcanion a syniad da sut i’w cyflawni.

“Mae’n rhaid i ni ymateb i bolisi prentisiaethau Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol. Yn ogystal, mae Bargeinion Dinesig yng Nghaerdydd ac Abertawe ac mae angen i ni gydweithio â’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol er mwyn sicrhau ein bod ni fel rhwydwaith yn ymateb i anghenion cyflogwyr, gan ddefnyddio’r gyllideb brentisiaethau. Bydd yn wirioneddol bwysig ein bod yn cydweithio ac mae’n amser cyffrous.”

Un o’i thasgau cyntaf yw symud ymlaen â dogfen ‘Datrysiadau Creadigol’ NTfW y bwriedir ei chyflwyno’n fuan i’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James. Mae’r ddogfen yn cynnig syniadau ynglŷn â sut y gallai’r rhwydwaith greu rhagor o gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau a llwybrau gyrfa mewn sectorau blaenoriaeth, gan adlewyrchu’r sgiliau y mae tair Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Cymru wedi nodi y bydd angen amdanynt yn y dyfodol.

Mae’n awyddus i’r NTfW gydweithio’n agos â swyddogion Llywodraeth Cymru i helpu i gynllunio rhaglenni er mwyn sicrhau bod o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel ar gyfer pobl o bob oed yn cael eu cyflenwi dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’n awyddus i aelodau’r NTfW gydweithio’n agos ar lefel ranbarthol gyda Gyrfa Cymru, ysgolion a busnesau. “Mae ein dogfen ‘Datrysiadau Creadigol’ yn sôn am benodi eiriolwyr rhanbarthol a fydd yn gallu cynrychioli’r rhwydwaith a chydweithio gyda Gyrfa Cymru a chyflogwyr i roi sylw i brentisiaethau mewn ysgolion,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni gyhoeddi’r neges yn glir a pheidio â dibynnu ar athrawon yn unig i hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr gyrfa. Mae’n rhaid i ni fel rhwydwaith gydgysylltu’r gwaith er mwyn cynnwys cyflogwyr a chael y gair ar led i ddysgwyr, rhieni ac athrawon.”

Dywedodd y byddai’n canolbwyntio gyntaf ar ddiweddaru llywodraethiant a chyfansoddiad NTfW ac ymgysylltu â’r holl aelodau – sef dros gant o sefydliadau.

Dywed Paul ei fod yn edrych ymlaen at helpu i yrru agenda sgiliau a chyflogadwyedd Cymru yn ei blaen. Dechreuodd ei yrfa fel hyfforddwr TG gyda NACRO tua dechrau’r 1990au cyn ailhyfforddi’n weldiwr. Aeth ymlaen i dreulio 10 mlynedd yn gweithio yn y diwydiant gwyliau ledled Ewrop.

“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i helpu i hyrwyddo’r agenda sgiliau a chyflogadwyedd yng Nghymru,” meddai. “Mae’n gyfle i lywio dysgu seiliedig ar waith ar gyfer y dyfodol mewn cyfnod anhygoel o newid yn y sector.

“Rydyn ni’n mynd trwy gyfnod o newid anghyffredin ac mae’n bwysig bod gennym gynllun ar gyfer sgiliau a chyflogadwyedd sy’n cyfateb i ddyheadau economaidd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.”

Dywedodd fod yr NTfW wedi meithrin perthynas agored a thryloyw gyda’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ac roedd yn ffyddiog y byddai’r rhwydwaith yn darparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

Mae gan Mr Napier a’i wraig, Cathy, bump o blant ac un ŵyr. Mae’n hoffi chwaraeon ac yn cefnogi timau rygbi Gleision Caerdydd a Llandaf.

More News Articles

  —