Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru 2016 ddydd Gwener

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o wahanol raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru tan ganol dydd ddydd Gwener i ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru 2016.

Mae ceisiadau am y gwobrau pwysig, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), wedi bod yn llifo i mewn o bob rhan o’r wlad.

Mae’r Gwobrau’n dathlu llwyddiant eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaethau.

Mae’r trefnwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau, wedi dangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant ac wedi dangos blaengarwch, menter, dyfeisgarwch, creadigrwydd ac ymroddiad i wella gwaith datblygu sgiliau yng Nghymru.

Ariannir y Gwobrau gan Lywodraeth Cymru a chânt eu noddi gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Eleni, mae 12 gwobr, yn cynnwys dwy mewn dosbarth newydd ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith: asesydd y flwyddyn dysgu seiliedig ar waith a thiwtor y flwyddyn dysgu seiliedig ar waith.

Mae’r dosbarth hwn yn cyndabod ymroddiad, egni a brwdfrydedd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a’r rhan allweddol y maent yn ei chwarae yn helpu dysgwyr i feithrin sgiliau’r gweithle ac i lwyddo yn eu gyrfa a goresgyn rhwystrau oedd yn eu hatal rhag symud ymlaen yn eu haddysg neu eu gwaith.

Yn y dosbarth Cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer dysgwr y flwyddyn (ymgysylltu) a dysgwr y flwyddyn (lefel un) ac, yn y dosbarth Twf Swyddi Cymru, mae gwobr ar gyfer cyflawnydd eithriadol y flwyddyn.

Rhoddir sylw arbennig i Brentisiaethau gyda gwobrau unigol ar gyfer prentis sylfaen, prentis a phrentis uwch y flwyddyn.

Bydd busnesau bach a mawr ledled Cymru’n cael cyfle i ddod i sylw cenedlaethol gyda gwobrau ar gyfer cyflogwr bychan (1-49 o weithwyr), cyflogwr canolig (50-249 o weithwyr), cyflogwr mawr (250-4,999 o weithwyr) a macro-gyflogwr y flwyddyn (5,000+ o weithwyr). Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill sy’n cefnogi eu gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant.

Mae ffurflenni cais ar gael i’w lawrlytho o wefan NTfW www.ntfw.org/wel/apprenticeships-awards-cymru/

Bydd panel o feirniaid yn penderfynu pwy sy’n cyrraedd y rhestr fer ym mhob dosbarth ac fe gyhoeddir yr enwau ym mis Awst. Cynhelir y seremoni wobrwyo yn Venue Cymru, Llandudno ar nos Iau, 20 Hydref.

More News Articles

  —