Cystadleuwyr o Gymru yn casglu 69 o fedalau yn rownd derfynol WorldSkills UK
Enillodd Tîm Cymru gyfanswm o 16 medal aur, 19 arian, 17 efydd a 17 o fedalau â chanmoliaeth uchel yng nghystadlaethau terfynol WorldSkills UK, wrth i 400 a mwy o fyfyrwyr a phrentisiaid o bob cwr o’r DU ymgiprys am deitl y goreuon yn eu maes.
Cyhoeddwyd enwau’r enillwyr gan y cyflwynydd teledu Steph McGovern mewn seremoni wobrwyo arbennig.
Roedd 145 yn cynrychioli Cymru, sef y nifer fwyaf erioed, mewn digwyddiadau sgiliau cystadleuol a gynhaliwyd mewn 23 o leoliadau ar hyd a lled y DU yn gynharach yn y mis gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Glannau Dyfrdwy.
Cynhaliwyd cystadlaethau mewn 64 o gategorïau sgiliau gwahanol ar draws pedwar sector diwydiant: peirianneg a thechnoleg; digidol, busnes a chreadigol; iechyd, lletygarwch a ffordd o fyw; adeiladu a seilwaith.
Mae WorldSkills yn fudiad byd-eang o dros 80 o wledydd sy’n cymryd rhan mewn “gemau Olympaidd sgiliau” bob dwy flynedd i arddangos arferion rhyngwladol gorau mewn prentisiaethau ac addysg dechnegol a dathlu llwyddiannau galwedigaethol y to ifanc.
Cynhelir rownd derfynol nesaf WorldSkills yn Shanghai, Tsieina, yn 2022, gyda chynrychiolaeth gref o Gymru yn gobeithio mynd ymlaen i gynrychioli Tîm y DU.
Bydd y cystadleuwyr Cymreig aeth i rowndiau terfynol y DU eleni yn gobeithio cael eu henwi yng ngharfan Tîm y DU ar gyfer rownd derfynol rhif 47ain WorldSkills yn Lyon, Ffrainc, yn 2024.
Wrth fyfyrio ar lwyddiant Tîm Cymru, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi a Sgiliau:
“Ein pobl ifanc yw’r allwedd i lwyddiant ein cenedl yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â’n partneriaid, yn benderfynol o roi cyfleoedd iddyn nhw ddysgu’r sgiliau angenrheidiol i wireddu eu llawn botensial.
“Dw i wrth fy modd gyda’r 145 o gystadleuwyr sydd wedi cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth bwysig hon, sy’n record. Mae’n glod i’r holl bobl ifanc dawnus sydd gennym ni yma yng Nghymru.
“Bydd meithrin ein talent yn allweddol wrth inni ailwampio ein heconomi ar ôl pandemig y coronafeirws, yn barod i wrthsefyll newidiadau a heriau’r dyfodol. Trwy ein Gwarant i Bobl Ifanc uchelgeisiol, byddwn yn sicrhau bod gweithlu’r dyfodol yn cael pob cyfle i greu dyfodol mwy disglair iddyn nhw eu hunain ac i Gymru.
“Mae cystadlaethau WorldSkills yn codi ymwybyddiaeth o werth a grym sgiliau i drawsnewid bywydau, economïau a chymdeithas. Llongyfarchiadau calonnog i bawb fu’n cymryd rhan.”
Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru
More News Articles
« Pob Cam — Ystyried cymwysterau’r dyfodol a Grŵp Dysgwyr newydd »