Pobl ifanc o Abertawe yn wynebu’r Her ac yn anelu at ennill gwobr o fri

Postiwyd ar gan karen.smith

Rampart Rebels - o’r chwith, Luke Murrells, Louise Hooper, Tara Lewis a Shauna Fury.

Her Arian am Oes Lloyds TSB yn dathlu Sgiliau Arian Pobl Ifanc o’r Ardal

Mae tîm o bobl ifanc 16 i 19 oed o Abertawe yn gobeithio ennill gwobr o fri ar ôl plesio’r beirniaid yn rownd gyntaf Her Arian am Oes Lloyds TSB, sef cystadleuaeth i hybu gwell sgiliau rheoli arian.

Mae’r tîm o ddysgwyr o’r Ganolfan Hyfforddiant Cyflogaeth yn Abertawe yn paratoi ar gyfer rownd derfynol Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 23 Ebrill lle byddant yn cyflwyno’u prosiect Rampart Rebels ar gyfer Her Arian am Oes. Ym mis Rhagfyr, roedd y prosiect yn un o 250 ledled y Deyrnas Unedig i gael grant o £500 ac, ers hynny, mae’r criw ifanc wedi rhoi eu cynllun ar waith fel arbenigwyr arbed arian trwy gynnal digwyddiad yn Abertawe i roi gwybod i bobl am fenthycwyr didrwydded (loan sharks).

Dywedodd Shauna Fury, 17 oed, o Rampart Rebels: “Roedd cymryd rhan yn yr Her Arian am Oes yn hwyl fawr, yn enwedig pan wisgodd un o aelodau’r tîm fel siarc! Rydyn ni wedi sylwi bod pawb ohonom yn y tîm wedi dod yn fwy hyderus ac rydyn ni wedi datblygu sgiliau trefnu a pharatoi wrth gynnal y digwyddiad ac wrth gyfarfod â darparwyr allanol.”

Bydd Rampart Rebels yn ymuno â rhestr fer o bum tîm o Gymru y mae eu prosiectau rheoli arian yn cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Dywedodd noddwr y tîm, Ian Reynolds, o’r Ganolfan Hyfforddiant Cyflogaeth: “Mae’r bobl ifanc wedi gweithio’n galed iawn ar y prosiect, gan ddod dros lawer o rwystrau ac maen nhw wedi dod yn fwy hyderus trwy wneud pethau nad oedden nhw’n gysurus yn eu gwneud i ddechrau. Maen nhw wedi mwynhau rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau.”

Ar ddiwrnod rownd derfynol Gymreig Her Arian am Oes, bydd y timau’n cyflwyno’u prosiectau i banel o feirniaid a bydd y tîm buddugol yn mynd ymlaen i Rownd Derfynol Fawreddog y Deyrnas Unedig yn Llundain ar 23 Mai. Os mai Rampart Rebels fydd yr enillydd cenedlaethol, bydd y tîm yn cael £1,000 i’w roi i elusen o’i ddewis a bydd pob aelod yn cael taleb siopa £50.

Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Mae Her Arian am Oes yn ffordd wych o helpu pobl ifanc i reoli eu harian yn dda trwy gefnogi eraill â’r un sgiliau yn union. Dyma ail flwyddyn yr Her ac mae safon y prosiectau cystal eleni eto. Y peth mwyaf trawiadol yw’r ffordd greadigol ac angerddol y mae’r bobl ifanc yn mynd ati i roi cig ar asgwrn eu syniad gwreiddiol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed am brosiect Rampart Rebels yn rownd derfynol Cymru ac yn dymuno’n dda iddyn nhw.”

Bydd y tîm buddugol yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig ar 23 Mai yn ennill £2,500 i elusen o’i ddewis, talebau siopa gwerth £100 i bob aelod a mentor o’r Lloyds Banking Group. Yn ogystal, bydd y gwahoddedigion ar y noson yn cael dewis enillydd Gwobr y Bobl.

Mae Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes sy’n bartneriaeth unigryw rhwng y Lloyds Banking Group a phartneriaid yn y sector addysg bellach ym mhedair cenedl y Deyrnas Unedig, yn cynnwys ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yng Nghymru. Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae aelodau’r timau rhwng 16 a 24 oed ac mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu cymunedol i oedolion.

Y prosiectau eraill sydd yn rownd derfynol Cymru yw: Grow and Save o ITEC Training Solutions, sef prosiect cymunedol sy’n annog pobl i dyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau er mwyn arbed arian; Sk8 Swap Shop o Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin, sy’n ceisio helpu pobl i reoli eu harian trwy gynllun trwco, gan wahodd aelodau’r gymuned i ddigwyddiad i drwco pethau; Quit and Sav£ o Gaerffili, sy’n dangos manteision ariannol smygu llai neu roi’r gorau iddi’n gyfangwbl; Swimming with the Sharks o Goleg Castell-nedd Port Talbot, sy’n codi ymwybyddiaeth o beryglon cael benthyg arian gan fenthycwyr didrwydded ac yn rhoi gwybodaeth am wahanol ffyrdd o gael benthyg arian.

Os hoffech wybod rhagor am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu ymunwch â ni ar Facebook yn www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter ar www.twitter.com/moneyforlifeuk

More News Articles

  —