Pobl ifanc o Gaerdydd yn wynebu’r Her ac yn anelu at ennill gwobr o fri

Postiwyd ar gan karen.smith

Tîm Grow and Save (o’r chwith) Farhin Begum, Mohima Bibi, Anum Ali, Friha Nawiz, Tania Begum, Aisya Ashraf a Shezmin Begum.

Her Arian am Oes Lloyds TSB yn dathlu Sgiliau Trin Arian Pobl Ifanc o’r Ardal

Mae tîm o bobl ifanc 17 i 19 oed o Gaerdydd yn gobeithio ennill gwobr o fri ar ôl plesio’r beirniaid yn rownd gyntaf Her Arian am Oes Lloyds TSB, sef cystadleuaeth i hybu gwell sgiliau rheoli arian.

Mae’r tîm o ddysgwyr o ITEC Training Solutions yn paratoi ar gyfer rownd derfynol Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 23 Ebrill lle byddant yn cyflwyno’u prosiect Grow and Save ar gyfer Her Arian am Oes. Ym mis Rhagfyr, roedd y prosiect yn un o 250 ledled y Deyrnas Unedig i gael grant o £500 ac, ers hynny, mae’r criw ifanc wedi rhoi eu cynllun ar waith fel arbenigwyr arbed arian trwy annog pobl i dyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau er mwyn arbed arian.

Dywedodd Farhin Begum, 19 oed, o Grow and Save: “Rwy wedi mwynhau’r profiad newydd hwn ac rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect yn tyfu. Yn ogystal â helpu dysgwyr ITEC, mae’r prosiect wedi helpu’r gymuned i arbed arian.”

Bydd Grow and Save yn ymuno â rhestr fer o bum tîm o Gymru y mae eu prosiectau rheoli arian yn cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Dywedodd noddwr y tîm, Annabel Fuidge o ITEC Training Solutions: “Rwy wedi bod wrth fy modd yn gwylio’r dysgwyr yn datblygu’r prosiect hwn ac rwy wedi mwynhau dosbarthu’r blychau Grow and Save er mwyn helpu’r gymuned i arbed arian.”

Ar ddiwrnod rownd derfynol Gymreig Her Arian am Oes, bydd y timau’n cyflwyno’u prosiectau i banel o feirniaid a bydd y tîm buddugol yn mynd ymlaen i Rownd Derfynol Fawreddog y Deyrnas Unedig yn Llundain ar 23 Mai. Os mai Grow and Save fydd yr enillydd cenedlaethol, bydd y tîm yn cael £1,000 i’w roi i elusen o’i ddewis a bydd pob aelod yn cael taleb siopa £50.

Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Mae Her Arian am Oes yn ffordd wych o helpu pobl ifanc i reoli eu harian yn dda trwy gefnogi eraill â’r un sgiliau yn union. Dyma ail flwyddyn yr Her ac mae safon y prosiectau cystal eleni eto. Y peth mwyaf trawiadol yw’r ffordd greadigol ac angerddol y mae’r bobl ifanc yn mynd ati i roi cig ar asgwrn eu syniad gwreiddiol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed am brosiect Grow and Save yn rownd derfynol Cymru ac yn dymuno’n dda iddyn nhw.”

Bydd y tîm buddugol yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig ar 23 Mai yn ennill £2,500 i elusen o’i ddewis, talebau siopa gwerth £100 i bob aelod a mentor o’r Lloyds Banking Group. Yn ogystal, bydd y gwahoddedigion ar y noson yn cael dewis enillydd Gwobr y Bobl.

Mae Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes sy’n bartneriaeth unigryw rhwng y Lloyds Banking Group a phartneriaid yn y sector addysg bellach ym mhedair cenedl y Deyrnas Unedig, yn cynnwys ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae aelodau’r timau rhwng 16 a 24 oed ac mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu cymunedol i oedolion.

Y prosiectau eraill sydd yn rownd derfynol Cymru yw: Sk8 Swap Shop o Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin, sy’n ceisio helpu pobl i reoli eu harian trwy gynllun trwco, gan wahodd aelodau’r gymuned i ddigwyddiad i drwco pethau; Rampart Rebels o’r Ganolfan Hyfforddiant Cyflogaeth yn Abertawe, sy’n ceisio rhoi gwybod i bobl am fenthycwyr didrwydded yn Abertawe; Swimming with the Sharks o Goleg Castell-nedd Port Talbot, sy’n codi ymwybyddiaeth o beryglon cael benthyg arian gan fenthycwyr didrwydded ac yn rhoi gwybodaeth am wahanol ffyrdd o gael benthyg arian; a Quit and Sav£ o Gaerffili, sy’n codi ymwybyddiaeth o fanteision ariannol rhoi’r gorau i smygu.

Os hoffech wybod rhagor am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu ymunwch â ni ar Facebook yn www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter ar www.twitter.com/moneyforlifeuk

More News Articles

  —