Pobl ifanc o Gastell-nedd yn wynebu’r Her ac yn anelu at ennill gwobr o fri

Postiwyd ar gan karen.smith

Tîm Swimming with Sharks o Goleg Castell-nedd Port Talbot (o’r chwith) Tom Rees, Josh Thomas, James Tobin (Arweinydd y Grŵp) a Niall Price.

Her Arian am Oes Lloyds TSB yn dathlu Sgiliau Arian Pobl Ifanc o’r Ardal

Mae tîm o bobl ifanc 16 ac 17 oed o Gastell-nedd yn gobeithio ennill gwobr o fri ar ôl plesio’r beirniaid yn rownd gyntaf Her Arian am Oes Lloyds TSB, sef cystadleuaeth i hybu gwell sgiliau rheoli arian.

Mae’r tîm o fyfyrwyr yn paratoi ar gyfer rownd derfynol Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 23 Ebrill lle byddant yn cyflwyno’u prosiect, Swimming with the Sharks, ar gyfer Her Arian am Oes. Ym mis Rhagfyr, roedd y prosiect yn un o 250 ledled y Deyrnas Unedig i gael grant o £500 ac, ers hynny, mae’r criw ifanc wedi rhoi eu cynllun ar waith fel arbenigwyr arbed arian trwy rhoi gwybod i bobl am beryglon cymryd benthyg arian gan fenthycwyr didrwydded a sôn am wahanol ffyrdd o gael benthyg arian.

Dywedodd Joshua Thomas, 16 oed, o Swimming with the Sharks: “Mae’r prosiect wedi’n helpu ni i ddysgu a datblygu llawer o sgiliau pwysig fel cydweithio â phobl eraill, rheoli arian, a sgiliau cyflwyno a chyfathrebu. Roedd yn grêt pan ddaeth yr Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon i’n gweld er mwyn rhoi cyngor a syniadau i ni. Roedden nhw wedi’u plesio gymaint â’n taflen ni fel eu bod nhw wedi gofyn am gael ei defnyddio yn eu hymgyrchoedd nhw! ”

Bydd Swimming with the Sharks yn ymuno â rhestr fer o bum tîm o Gymru y mae eu prosiectau rheoli arian yn cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Dywedodd noddwr y tîm o Goleg Castell-nedd Port Talbod: “Mae’r Her Arian am Oes wir wedi meithrin sgiliau a doniau’r myfyrwyr. Mae wedi bod yn hyfryd eu gwylio’n cydweithio mor dda ac yn cyflawni cymaint wrth gyrraedd mor bell.”

Ar ddiwrnod rownd derfynol Gymreig Her Arian am Oes, bydd y timau’n cyflwyno’u prosiectau i banel o feirniaid arbenigol. Yna, bydd y tîm buddugol yn mynd ymlaen i Rownd Derfynol Fawreddog y Deyrnas Unedig yn Llundain ar 23 Mai. Os mai Swimming with the Sharks fydd enillydd cenedlaethol Cymru, bydd y tîm yn cael £1,000 i’w roi i elusen o’i ddewis a bydd pob aelod yn cael taleb siopa £50.

Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Mae Her Arian am Oes yn ffordd wych o helpu pobl ifanc i reoli eu harian yn dda trwy gefnogi eraill â’r un sgiliau yn union. Dyma ail flwyddyn yr Her ac mae safon y prosiectau cystal eleni eto. Y peth mwyaf trawiadol yw’r ffordd greadigol ac angerddol y mae’r bobl ifanc yn mynd ati i roi cig ar asgwrn eu syniad gwreiddiol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed am brosiect Swimming with the Sharks yn rownd derfynol Cymru ac yn dymuno’n dda iddyn nhw.”

Bydd y tîm buddugol yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig yn Llundain ar 23 Mai yn ennill £2,500 i elusen o’i ddewis, talebau siopa gwerth £100 i bob aelod a mentor o’r Lloyds Banking Group. Yn ogystal, bydd y gwahoddedigion ar y noson yn cael dewis enillydd Gwobr y Bobl.

Mae Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes sy’n bartneriaeth unigryw rhwng y Lloyds Banking Group a phartneriaid yn y sector addysg bellach ym mhedair cenedl y Deyrnas Unedig, yn cynnwys ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae aelodau’r timau rhwng 16 a 24 oed ac mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu cymunedol i oedolion.

Y prosiectau eraill sydd yn rownd derfynol Cymru yw: Grow and Save, sef prosiect cymunedol sy’n annog pobl i dyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau er mwyn arbed arian; Sk8 Swap Shop, sy’n ceisio helpu pobl i reoli eu harian trwy gynllun trwco, gan wahodd aelodau’r gymuned i ddigwyddiad i drwco pethau; Rampart Rebels, sy’n ceisio rhoi gwybod i bobl am fenthycwyr didrwydded yn Abertawe; a Quit and Sav£, sy’n dangos i bobl yn y coleg beth yw manteision ariannol smygu llai neu roi’r gorau iddi’n gyfangwbl.

Os hoffech wybod rhagor am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu ymunwch â ni ar Facebook yn www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter ar www.twitter.com/moneyforlifeuk

More News Articles

  —