Prentis o’r Rhws sydd wrth ei fodd ag awyrennau ar y rhestr fer i ennill gwobr genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Chris-Selio

Christopher Selio – y prentis wrth ei waith.

Mae dyn ifanc 19 oed o’r Rhws ger y Barri wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol sy’n cydnabod llwyddiant prentisiaid, cyflogwyr prentisiaid a darparwyr prentisiaethau ledled Cymru.

Mae Christopher Selio, sy’n gweithio i British Airways Maintenance in Cardiff (BAMC) yn un o 19 o unigolion a chyrff sydd yn y rownd derfynol mewn chwe dosbarth yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, a drefnir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Caiff rhaglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru eu rhan-ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Caiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn y Mercure Cardiff Holland House Hotel, Caerdydd, ar nos Fercher, 16 Tachwedd. Pearson yw prif noddwr y gwobrau, sy’n ceisio dangos rhagoriaeth ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, a’r partner yn y cyfryngau yw Media Wales.

Cychwynnodd Christopher ar ei Brentisiaeth dair blynedd mewn Peirianneg Awyrenegol gyda BAMC yn 2010.

Treuliodd flwyddyn gyntaf y Brentisiaeth Sylfaen yng Nghanolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Erbyn hyn mae yn ei ail flwyddyn a bydd yn treulio un diwrnod yr wythnos yn y coleg yn astudio ar gyfer BTEC mewn Peirianneg Awyrenegol a gweddill yr amser yn gweithio gyda thîm BAMC ym Maes Awyr Caerdydd.

“Dw i’n teimlo mod i wedi dod yn bell ers dechrau’r brentisiaeth,” meddai Christopher. “Dw i’n dysgu mwy a mwy am awyrennau ac yn gweithio’n fwy hyderus gyda grŵp o bobl o bob oed. Rwy’n rhoi cant y cant i bob darn o waith rwy’n ei wneud a dw i wedi gosod targedau uchel i mi fy hunan eleni.”

Dywedodd ei arweinydd tîm, Paul Constable: “Yn ystod ei gyfnod byr gyda BAMC, mae Chris wedi datblygu dealltwriaeth ardderchog o’r diwydiant awyrennau. Mae ei waith o safon uchel bob amser ac mae ganddo agwedd wych – does dim byd yn ormod o drafferth iddo.”

Mae Christopher ar y rhestr fer yn nosbarth Prentis Sylfaen y Flwyddyn. Dosbarthiadau eraill y gwobrau yw: Prentis y Flwyddyn, Prentis Ifanc y Flwyddyn, Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, Cyflogwr Mawr y Flwyddyn a Darparwr Prentisiaethau’r Flwyddyn.

Disgwylir i tua 250 o randdeiliaid o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fod yn bresennol yn y seremoni wobrwyo fawreddog lle bydd cogyddion o Dîm Coginio Cenedlaethol Cymru yn paratoi’r bwyd.

Meddai Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau: “Cefais fy nghalonogi o weld bod y rhai sydd yn y rownd derfynol eleni, o bob oed a phob sector, wedi cyrraedd safon eithriadol o uchel ac mae hyn yn dangos pa mor gryf yw sefyllfa prentisiaethau yng Nghymru.

“Hyd yn oed os na chânt wobr ar y noson, mae’r 19 sydd yn y rownd derfynol wedi llwyddo yn barod. Mae gan bob un ohonynt stori i’n hysbrydoli – maent yn llysgenhadon gwerthfawr ar gyfer rhaglenni prentisiaethau yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu rhagor o brentisiaethau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru a pharhau i gefnogi cyflogwyr sy’n barod i gynnig prentisiaethau o safon uchel.”

Mae NTfW yn rhwydwaith o 90 o ddarparwyr dysgu gyda sicrwydd ansawdd sydd â chysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru.

Dywedodd y Llywydd, yr Arglwydd Ted Rowlands: “Bydd Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n dathlu ac yn mawrygu llwyddiant y rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant. Byddant hefyd wedi dangos brwdfrydedd a menter, dyfeisgarwch a chreadigrwydd, dealltwriaeth o bwysigrwydd gwella sgiliau er budd economi Cymru ac ymrwymiad i wneud hynny.”

More News Articles

  —