Gall Darparwyr Dysgu Cymru fod gyda’r gorau yn y byd

Postiwyd ar gan karen.smith

NTfW Chairman, Arwyn Watkins

Wrth ymadael â’r gadair, bydd cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn herio aelodau o rwydwaith dysgu seiliedig ar waith Cymru i wella sgiliau eu staff er mwyn cynnig gwasanaeth gyda’r gorau yn y byd.

Bydd Arwyn Watkins yn y gadair am y tro olaf yng Nghynhadledd Flynyddol NTfW yn y Mercure Cardiff Holland House Hotel, ar 17 Tachwedd, ar ôl dau dymor a hanner yn y swydd.

Thema’r gynhadledd eleni yw ‘Sefyll dros Sgiliau’ ac mae’n canolbwyntio ar fanteision a gwerth sgiliau a hyfforddiant galwedigaethol wrth gydweithio â busnesau er lles Cymru. Mae NTfW yn rhwydwaith o 109 o ddarparwyr dysgu gyda sicrwydd ansawdd sydd â chysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru.

Bydd Mr Watkins yn defnyddio’r thema i herio’r aelodau i wella’r ffordd y maent yn cydweithio fel rhwydwaith i gyflenwi rhaglenni dysgu seiliedig ar waith o safon uchel ar ran Llywodraeth Cymru.

Bydd hefyd yn annog yr aelodau i ganolbwyntio ar ddatblygu eu staff eu hunain er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa i helpu Cymru i gystadlu â’r goreuon yn y byd.

Mr Watkins yw rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng a dywedodd mai ei brif ysgogiad fel cadeirydd NTfW oedd codi proffil prentisiaethau dysgu seiliedig ar waith fel dewis posibl ar gyfer dysgwyr.

“Eleni, bu newid mawr yn y ffordd y mae dysgu seiliedig ar waith yn cael ei gomisiynu yng Nghymru. Mae gennym rwydwaith ardderchog o ddarparwyr, pawb ohonynt yn aelodau o’r NTfW,” meddai.

“Yr her yn awr yw sicrhau bod y rhwydwaith yn gwella’r ffordd y mae’n cydweithio fel y gall dysgwyr sy’n derbyn hyfforddiant a rhai sydd ar y cynllun Camau at Waith symud ymlaen yn hwylus i brentisiaethau a swyddi.

“Yn achlysur WorldSkills 2011 yn Llundain yn ddiweddar, pennwyd meincnod byd-eang ar gyfer sgiliau ac mae’n rhaid i’n prentisiaid, ein mentoriaid a’n hyfforddwyr anelu at gyrraedd y safon honno os ydym am ddatblygu economi o safon fyd-eang yng Nghymru.

“Mae’n rhaid i ni, y darparwyr, gefnogi dysgu gydol oes ar gyfer ein gweithlu fel ein bod yn gallu cynnig prentisiaethau lefel uwch a fydd yn golygu bod Cymru’n gallu cystadlu â’r goreuon yn y byd.”

Bydd un arall o’r prif siaradwyr, yr Athro Teresa Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, yn canolbwyntio ar ddysgu gydol oes. Bydd yn dweud y dylid gwerthfawrogi hyfforddiant galwedigaethol yn well a sicrhau rhagor o gyfleoedd i bobl fanteisio arno trwy gydol eu hoes.

Y prif siaradwyr eraill fydd y Dirprwy Weinidog Sgiliau yn Llywodraeth Cymru, Jeff Cuthbert, AC; Teresa Holdsworth, dirprwy gyfarwyddwr yr is-adran busnes a sgiliau yn Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru; a’r Arglwydd Ted Rowlands, llywydd NTfW.

Cynhelir tri gweithdy’n canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus i arweinwyr a rheolwyr busnesau; dysgu seiliedig ar waith; arwain y ffordd ar Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang; a chyfansoddiad NTfW.

Bydd y gynhadledd yn dilyn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir yn yr un gwesty ar nos Fercher, Tachwedd 16. Bwriad y noson honno, a drefnir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag NTfW a’r prif noddwr, Pearson, fydd dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr.

Noddir y gynhadledd gan Agored Cymru, Pearson, Media Wales, City & Guilds ac ILM. Os hoffech gadw lle yn y gynhadledd neu’r seremoni wobrwyo, cysylltwch â Karen Smith, rheolwr prosiectau NTfW ar: 029 2061 8228 neu: Karen.Smith@ntfw.org

More News Articles

  —