Prentis yn dod yn Llysgennad!

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae penderfyniad Aiyeesha Barron-Clarke i ddilyn llwybr prentisiaeth i yrfa lwyddiannus fel cogydd yn talu ar ei ganfed wedi iddi gael ei phenodi’n llysgennad sgiliau.

Yng nghanol tri diwrnod o gystadlu mewn digwyddiad WorldSkills yn yr NEC ym Mirmingham yr oedd Aiyeeisha pan ddaeth Eluned Morgan, y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes ati. Roedd yn amlwg bod perfformiad Aiyeesha wedi gwneud argraff fawr ar y Gweinidog gan iddi gael cynnig ymuno â’r Rhaglen Pencampwyr Sgiliau a bod yn llysgennad dros Gymru.

Drwy’r rhaglen, gobeithia Aiyeesha rannu ei diddordeb yn y celfyddydau coginio â chyflogwyr a disgyblion ysgol ledled Cymru.

Cyn hir bydd Aiyeesha yn mynd i Lundain i ddechrau ar ei hyfforddiant i fod yn llysgennad. Meddai:
‘Rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn am y cyfleoedd newydd rydw i wedi eu cael ar ôl cymryd rhan yn rowndiau terfynol cystadleuaeth WorldSkills y llynedd’.

Ym mwyty’r Oyster Catcher y dechreuodd Aiyeesha ar ei llwybr prentisiaeth. Erbyn hyn, mae’n dilyn cwrs Prentisiaeth Lefel 3 yn ‘Catch 22’ yn y Fali, Ynys Môn.

Mae Aiyeesha wastad wedi mwynhau cystadlu, ar lefel leol a chenedlaethol. Pan gynrychiolodd Grŵp Llandrillo Menai ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru, enillodd bum gwobr. Yn ogystal, dyfarnwyd iddi wobr ‘Prentis Lletygarwch y Flwyddyn’ yn seremoni wobrwyo flynyddol y Grŵp.

Dywedodd Bethan Wyn, Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngrŵp Llandrillo Menai:
‘Rydym yn hynod falch o ddatblygiad Aiyeesha, yn enwedig gan mai ni yw ei darparwr hyfforddiant. Yn dilyn ei hyfforddiant, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei chael yn ôl i sôn am ei phrofiadau newydd a chyffrous’.

Newyddion Grŵp Llandrillo Menai

More News Articles

  —