Prentisiaeth ar y cyd Sir Gaerfyrddin ar y rhestr fer am wobr genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Rheolwr rhanbarthol CCTAL, Anthony Rees, gyda’r prentis Owain Phillips.

Mae cymdeithas yng Ngorllewin Cymru, sydd wedi lansio Rhaglen Brentisiaeth ar y Cyd i ddarparu llwybr i bobl ifanc sy’n dechrau yn y diwydiant adeiladu, wedi’i chynnwys ar restr fer am wobr genedlaethol.

Mae Cymdeithas Hyfforddiant Adeiladu Sir Gaerfyrddin (CCTAL) wedi cyrraedd rownd derfynol categori Cyflogwr Canolig ei Faint y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014 a bydd yn mynychu seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Gwnaeth y gofid am gadw pobl ifanc a lefelau cymhwyster ar brentisiaethau crefftau traddodiadol yn y sir annog CCTAL i lansio Rhaglen Prentisiaeth ar y Cyd i fynd i’r afael â’r broblem.

Ar ôl saith mlynedd, recriwtiodd y rhaglen 140 o brentisiaid, y mae 53 ohonynt wedi’u cyflogi trwy’r gymdeithas ar hyn o bryd. Cyflogwyd tri deg yn ystod y 12 mis diwethaf.

Cyflawnodd 29 o 30 prentis Brentisiaeth Sylfaen a chyflawnodd 26 o 27 prentis Brentisiaeth mewn Gosod Brics, Gwaith Saer, Gwaith Trydanol, Plastro a Phlymwaith y llynedd. Mae 23 o’r rhain wedi’u cyflogi gan gontractwyr lleol, mae tri mewn cynlluniau bwrsari mewn treftadaeth ac mae un wedi mynd yn gontractwr hunangyflogedig.

“Penderfynom sefydlu dull ar y cyd lle byddai cyflogwyr CCTAL a Chyngor Sir Gaerfyrddin yn darparu hyfforddiant ar y safle o fewn waliau eu busnesau a byddai Coleg Sir Gâr yn darparu hyfforddiant oddi ar y safle” meddai Anthony Rees, rheolwr CCTAL.

Ers i’r rhaglen gael ei sefydlu mae wedi “rhagori o bell ffordd” ar ei ddisgwyliadau, gyda 90 y cant yn cyflawni eu prentisiaethau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae’r prentisiaethau’n darparu cyfleoedd gwych i fusnesau a dysgwyr fel ei gilydd. Mae’n amlwg bod mwyfwy o gyflogwyr, fel Cymdeithas Hyfforddiant Adeiladu Sir Gaerfyrddin, yn gweld manteision prentisiaethau.

“Mae cyflogwyr yn ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, yn elwa ar weithwyr sgiliau uchel ac uchel eu cymhelliant. Yn y cyfamser, mae prentisiaid yn ennill cymwysterau uchel eu parch a phrofiad gwerthfawr o ofynion y gweithle.

“Hoffwn ddymuno’r gorau i Gymdeithas Hyfforddiant Adeiladu Sir Gaerfyrddin ar gyfer y gwobrau.”

Mae disgwyl i dros 300 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil, lle bydd gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —