Prentisiaeth yn newid bywyd reolwr sydd ar restr fer am wobr genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Neil Meredith – mae’r brentisiaeth wedi newid ei fywyd.

Chwedl Neil Meredith yw bod cwblhau Prentisiaeth mewn Peirianneg Cynhyrchu wedi newid ei fywyd.

Yn wobr am ei daith ddysgu, mae’r rheolwr peirianneg 28 oed o Abercynon ar restr fer am wobr prentisiaeth genedlaethol fawreddog. Mae’n un o dri yn y rownd derfynol yng nghategori Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014.

Bydd ymhlith 36 o bobl yn y rownd derfynol mewn 13 categori a fydd yn mynychu seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref. Trefnir y gwobrau ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Neil yn ffynnu ar heriau newydd a dyna sut daeth i weithio i Complete Core Business Solutions, cwmni pacio, storio mewn warws a dosbarthu contract yn nhref ei febyd.

Gan sicrhau swydd fel peiriannydd cynnal a chadw gyda’r cwmni, cwblhaodd ei Brentisiaeth mewn Gweithrediadau Peirianneg gyda’r hyfforddiant yn cael ei gyflwyno gan VSP/TSW Training ac fe’i dyrchafwyd yn rheolwr peirianneg fis Rhagfyr diwethaf.

Gan ddefnyddio’i wybodaeth a’i sgiliau, gweithiodd yn agos gyda pheirianwyr gan gyflenwi llinell gynhyrchu newydd o £750,000 cyn goruchwylio’i osodiad a’i gomisiynu yn ogystal â chreu llawlyfr hyfforddi i gydweithwyr.

Nid yw ei awch am wybodaeth a sgiliau dal wedi cilio, gan ei fod yn cwblhau cymhwyster ILM lefel 4 Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae bellach yn edrych i wneud HND mewn Mecatroneg neu Beirianneg Drydanol.

“Mae cwblhau’r Brentisiaeth wedi newid fy mywyd yn llwyr”, meddai Neil. “Mae’r gwelliant yn fy hyder mewnol a’m sgiliau cyfathrebu wedi bod yn ffactor mawr i’m llwyddiant.”

Dywedodd Stephen Nicholls, cyfarwyddwr Complete Core Business Solutions: “Mae llwyddiant Neil yn esiampl glasurol o fanteision Prentisiaeth a sut gall fod yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o brentisiaid i’r dyfodol o’i gyflwyno a’i gofleidio’n gywir.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae prentisiaethau’n ffordd wych o ddechrau gyrfa lwyddiannus. Rydych chi’n ennill wrth ddysgu ac yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Rydw i wrth fy modd fod cyflogwyr fel Complete Core Business Solutions yn rhannu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyfforddi gweithlu’r dyfodol a dymunaf bob llwyddiant i Neil yn ei yrfa.”

Mae disgwyl i dros 300 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —