Thomas y llysgennad ynni gwynt ar y rhestr fer am wobr prentisiaeth genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Thomas Woodward – gyrfa wedi’i yrru gan wynt.

Mae gyrfa’r prentis peirianneg uchelgeisiol, Thomas Woodward, wedi’i yrru’n llythrennol gan y gwynt. Gweithia i’r cwmni ynni gwynt RWE Innogy UK yn y Ganolfan Gwasanaeth Tyrbinau Gwynt yn Llanidloes ac mae’n un o ddim ond chwe phrentis a ddewiswyd o blith 600 o ymgeiswyr yn 2012.

Erbyn hyn, mae’r gŵr 21 oed o’r Drenewydd ar y rhestr fer am wobr prentisiaeth genedlaethol fawreddog. Mae’n un o dri sydd yn rownd derfynol categori Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014.

Mae ymhlith 36 arall yn y rownd derfynol mewn 13 categori a fydd yn mynychu seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref. Trefnir y gwobrau ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Cwblhaodd Thomas Brentisiaeth Sylfaen mewn Gweithrediadau Peirianneg Perfformio’r llynedd a symudodd ymlaen at Brentisiaeth a ddyluniwyd ar gyfer RWE Innogy UK ac a gyflwynwyd gan Goleg Llandrillo.

Mae wedi creu cystal argraff, mae bellach yn llysgennad i Raglen Brentisiaeth y cwmni ac mae wedi siarad mewn cynadleddau ynni adnewyddadwy cenedlaethol a diwrnodau’r wasg.

Ei nod yw bod yn dechnegydd medrus o fewn y flwyddyn nesaf ac mae’n gobeithio dod yn rhan o dîm cynllunio’r cwmni ar gyfer ffermydd gwynt lleol, wedi iddo fwynhau mynychu prosiectau ledled y DU.

“Oherwydd amrywiaeth y sgiliau a’r technegau a enillais yn ystod fy Mhrentisiaeth, mae wedi magu fy hyder a’m cymhelliant ac wedi rhoi i mi’r dymuniad i gael profiad o heriau newydd yn RWE Innogy,” meddai Thomas. Teimlaf mai ynni adnewyddadwy yw’r ateb ar gyfer cynaliadwyedd ynni yn ein gwlad.”

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Mae prentisiaethau’n darparu sgiliau, cymwysterau a’r profiad y mae ar ddysgwyr eu hangen wrth helpu’n busnesau i dyfu. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni gydnabod cyfoeth y doniau prentisiaeth sydd gennym yng Nghymru.

“Mae Thomas yn llysgennad gwych, nid dim ond ar gyfer RWE Innogy, ond i brentisiaid ledled Cymru.

“Mae cyflogwyr fel RWE Innogy, sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, yn elwa ar weithwyr hynod fedrus, uchel eu cymhelliant. Yn y cyfamser, mae prentisiaid fel Thomas yn ennill cymwysterau uchel eu parch a phrofiad gwerthfawr yn sgil gofynion y gweithle.

“Hoffwn ddymuno’r gorau i Thomas ar gyfer y gwobrau a dymunaf yrfa lwyddiannus iddo.”

Mae disgwyl i dros 300 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —