Prentisiaethau yn helpu cwmni sgip a rheoli gwastraff i dyfu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Thomas Skip and Plant Hire, Caernarfon – Natasha Thomas – Director, Alan Hughes – Rheolwr Gweithrediadau, Louise Jones – Gweinyddwraig, Llyr Jones – Gweinyddwr/Gweithiwr iard, Iestyn Thomas – Cyfarwyddwr, Paul Owen – Gyrrwr Skip, Amy Edwards – Asesydd.

Mae Prentisiaethau dwyieithog yn helpu i roi’r sgiliau a’r wybodaeth i’r staff i fedru cefnogi twf Cwmni annibynnol sgip, rheoli gwastraff a llogi peiriannau yn Ogledd Cymru.

Mae Thomas Skip & Plant Hire Ltd yng Nghaernarfon wedi tyfu ei gweithlu o ddau i ddeg o weithwyr yn yr wyth mlynedd diwethaf. Maent yn gobeithio creu mwy o swyddi newydd cyn diwedd 2020 i gadw i fyny â’r galw am eu gwasanaethau.

Mae’r cwmni’n darparu sgipiau a gwasanaethau gwastraff ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy yn ogystal â llogi peiriannau, gwaith daear a chliriadau. Oherwydd bod y busnes wedi’i leoli mewn ardal Cymraeg yn bennaf, mae’r cwmni yn dweud ei bod yn bwysig bod y staff yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg .

Gan geisio cyflogi gweithlu hapus, hyfforddedig a diogel, gyda gwybodaeth a dealltwriaeth dda o’r diwydiant rheoli gwastraff, mae Thomas Skip & Plant Hire yn cynnig Prentisiaethau ar lefelau 2 a 3 mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy a Gweinyddu Busnes, sydd wedi gwella sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid yn ogystal. Ar hyn o bryd mae gan y cwmni dri Phrentis.

Mae Iestyn Thomas, sy’n rhedeg y busnes gyda’i bartner Natasha Thomas, yn gweithio tuag at Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy. Mae’n bwriadu symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) i wella ei wybodaeth a’i sgiliau ymhellach.

Cyflwynir y Prentisiaethau gan y darparwr dysgu yn y gweithle, Cwmni Hyfforddiant Cambrian sydd wedi cyflwyno gwobr i Iestyn a Natasha am Ymgysylltu Prentisiaeth ar gyfer Cyflogwyr Micro yng Ngwobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol y cwmni yn gynharach eleni.

Hon oedd gwobr gyntaf Thomas Skip & Plant Hire ers cael ei ffurfio yn 2012 gan Iestyn, a oedd gynt yn oruchwyliwr diwydiant adeiladu, a Natasha, a fu’n gweithio mewn asiantaeth gwerthu tai am dros ugain mlynedd.

Mae Natasha yn esbonio pam y cychwynnodd y cwmni Prentisiaethau ddwy flynedd yn ôl: “Drwy gynnig y Brentisiaeth, mae’n rhoi hyder i’r cwmni bod gan y staff y sgiliau a’r wybodaeth i wneud eu gwaith yn gywir. Credwn ei bod yn bwysig i staff ddysgu pob agwedd o’r diwydiant o fewn eu cyfrifoldebau swydd.

“Mae’r Prentisiaethau wedi cael effaith cadarnhaol iawn ar y busnes ac mae’n wirioneddol bwysig i ni fod Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gallu cyflwyno’r prentisiaethau yn ddwyieithog, oherwydd mae’r rhan fwyaf o’n staff a’n cwsmeriaid yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith gyntaf.

“Mae ein staff wedi magu hyder yn y gweithle trwy’r Prentisiaethau ac yn awyddus i barhau i ddysgu. Ein nod yw parhau i dyfu, a chyflogi mwy o staff a fydd hefyd yn cael eu hyfforddi trwy Brentisiaethau.

“Byddwn yn argymell Prentisiaethau i gwmnïau eraill cant y cant, oherwydd mae’n fuddiol bod gan staff y sgiliau a’r wybodaeth i gyflawni eu dyletswyddau beunyddiol.”

Mae Natasha ac Iestyn mor falch o’r hyfforddiant a ddarperir gan staff Cwmni Hyfforddiant Cambrian sef Amy Edwards y swyddog hyfforddi a Tracey Dawson y tiwtor Sgiliau Hanfodol, eu bod wedi argymell y cwmni i fusnesau eraill yng Ngogledd Cymru.

“Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn wych i weithio gyda, ac ni allaf feddwl am unrhyw bobl well i ddysgu gyda nhw nag Amy a Tracey,” ychwanega Natasha. “Mae gan Amy wybodaeth dda o’r diwydiant rheoli gwastraff ac mae Tracey wedi ein helpu gyda Sgiliau Hanfodol, sydd wedi ein hysgogi i fynd yn ôl i addysg.”

Mae Thomas Skip & Plant Hire yn edrych i barhau i dyfu wrth i’w enw da rhagorol ledaenu ledled Gogledd Cymru. “Nid ydym erioed wedi gorfod hysbysebu ein busnes; rydym wedi tyfu trwy fusnes ailadrodd ac argymhellion, gan fod y diwydiant yn fywiog iawn,” esboniodd Natasha.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Cambrian Training

More News Articles

  —