Prentisiaethau’n codi i’r entrychion mewn cwmni awyrofod sydd ar restr fer

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Swyddog hyfforddi a datblygu Magellan Aerospace, Dave Evans (canol) gyda’r prentisiaid Natasha Hawes a Charlotte Booth a Peter Jones o Goleg Cambria.

Swyddog hyfforddi a datblygu Magellan Aerospace, Dave Evans (canol) gyda’r prentisiaid Natasha Hawes a Charlotte Booth a Peter Jones o Goleg Cambria.

Ar ôl gweithio law yn llaw â darparwr dysgu i ddatblygu cyrsiau Prentisiaethau arbenigol, mae cwmni awyrofod o Wrecsam yn paratoi ar gyfer dyfodol disglair.

Mae Magellan Aerospace wedi buddsoddi’n drwm mewn Prentisiaethau a, thrwy gydweithio’n agos â Choleg Cambria, llwyddodd y cwmni i ddatblygu gweithlu deinamig sy’n gallu hawlio’u lle ar flaen y gad mewn diwydiant byd-eang cystadleuol.

Yn awr, mae’r cwmni wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

“Rydym wedi cydweithio’n agos â Choleg Cambria i sicrhau bod ein rhaglenni’n diwallu anghenion ein busnes,” meddai Dave Evans, swyddog hyfforddi a datblygu gyda Magellan Aerospace. “Yn ogystal, rydym yn rhan o rwydwaith cyflogwyr peirianyddol y coleg sy’n golygu y gallwn rannu arferion gorau a thrafod materion sydd gennym yn gyffredin.

“Fel hyn, gallwn gymryd rhan mewn digwyddiadau i hyrwyddo Prentisiaethau, nid dim ond i’n helpu ni i recriwtio ond i rannu ein profiadau ni a phrofiadau ein prentisiaid.”

Mae gan y cwmni dros 400 o weithwyr sy’n dylunio, yn peiriannu ac yn cynhyrchu cyfosodiadau a chydrannau awyr-beiriannau ac awyr-strwythurau ar gyfer marchnadoedd awyrofod, nwyddau soffistigedig ar gyfer marchnadoedd milwrol a’r gofod, nwyddau ar gyfer cynhyrchu ynni ar raddfa ddiwydiannol a nwyddau arbenigol.

Caiff y prentisiaid eu hannog i ddod yn rhan hanfodol o’r gymuned trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau i godi arian at elusen y coleg, a thrwy sôn wrth ysgolion a busnesau lleol eraill am fanteision prentisiaethau.

Datblygwyd rhaglenni hyfforddi’r cwmni mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg a Gweinyddu Busnes dros yr 20 mlynedd diwethaf ac, ar hyn o bryd, mae gan Magellan Aerospace 74 o brentisiaid ar y llyfrau. Mae partner hyfforddi’r cwmni yn llawn canmoliaeth iddo.

“Mae Magellan Aerospace yn batrwm o gwmni ym maes prentisiaid,” meddai Vicky Barwis, cyfarwyddwr dysgu seiliedig ar waith yng Ngholeg Cambria.“Mae’n bartneriaeth go iawn, gyda Magellan yn dechrau trafod gyda myfyrwyr llawn amser mewn da bryd er mwyn sicrhau eu bod yn denu’r doniau ifanc lleol gorau i’w busnes.

“Os oes myfyriwr o Goleg Cambria’n ddigon lwcus i gael ei ddewis gan Magellan, rydyn ni’n gwybod bod gyrfa lwyddiannus o’i flaen.”

Wrth longyfarch Magellan Aerospace ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —