Myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro i gystadlu i gael eu henwi’n bencampwyr y DU yn eu meysydd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

worldskills_uk_finals_banner-CAVC

Mae mwy o fyfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi herio cystadleuaeth galed i sicrhau lle yn rowndiau cenedlaethol anrhydeddus WorldSkills UK nag unrhyw goleg arall yng Nghymru.

Bydd deuddeg o fyfyrwyr CCAF o amrywiaeth o ddisgyblaethau gwahanol yn cystadlu yn erbyn rhai o ddysgwyr, hyfforddeion a phrentisiaid gorau’r DU o flaen 70,000 o bobl yn WorldSkills YN FYW. Yn cael ei gynnal rhwng 15fed a 17eg Tachwedd yn yr NEC yn Birmingham, WorldSkills UK YN FYW yw digwyddiad mwyaf y wlad ar gyfer gyrfaoedd, prentisiaethau a sgiliau profiadol.

Dyma fyfyrwyr CCAF fydd yn cystadlu:

  • Atgyweirio Cyrff Cerbydau – Ross Colcombe
  • Ailorffen Cerbydau – Henry Deane
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid – Gladiola Mocka
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid – Bradley Berry
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid – Jay Fletcher-Price
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid – Magdalena Glen
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid – Seren Murray
  • Technegydd Cefnogi TG – Morgan Whithear
  • Oergelloedd ac Awyru – Edward Davis
  • Teilsio Waliau a Lloriau – James Ackland
  • Teilsio Waliau a Lloriau – Maziyar Pazouki
  • Teilsio Waliau a Lloriau – Nathan Airey

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau enfawr a da iawn i’r holl fyfyrwyr sydd wedi cyrraedd Rowndiau Terfynol WorldSkills UK. Mae’n gyflawniad aruthrol ac yn dangos bod eu gwaith caled a’u penderfyniad drwy gydol y flwyddyn wedi talu ar ei ganfed.

“Mae staff ar draws y Coleg yn gweithio’n ddiflino i hyfforddi’r cystadleuwyr, sy’n galluogi iddyn nhw gystadlu i safon mor uchel. Mae’r ffaith ein bod ni’n anfon mwy o bobl ifanc i’r Rowndiau Terfynol nag unrhyw goleg arall yng Nghymru’n dangos hynny.”

Mae Cystadlaethau WorldSkills UK yn cael eu cynnal mewn mwy na 60 o feysydd sgiliau ac maent wedi’u profi fel cystadlaethau sy’n helpu pobl i fynd ymhellach, yn gyflymach, yn eu hyfforddiant a’r yrfa o’u dewis.

Dywedodd Prif Weithredwr WorldSkills UK, Dr Neil Bentley: “Fe hoffwn i longyfarch Coleg Caerdydd a’r Fro. Mae ein cystadlaethau ni’n meithrin sgiliau gydol oes o safon byd ar gyfer y prentisiaid a’r dysgwyr, gan wella safonau hyfforddi i’r lefel uchaf un, i helpu i roi hwb i gynhyrchiant a gallu cystadleuol y DU.

“Bydd y 12 myfyriwr o Goleg Caerdydd a’r Fro’n treulio nawr tan fis Tachwedd yn ymarfer ar gyfer Cystadlaethau WorldSkills UK, gyda chefnogaeth eu Coleg.”

Os byddant yn llwyddiannus yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol, gallai’r myfyrwyr gael gwahoddiad i ymuno â rhaglen hyfforddi WorldSkills UK ar gyfer y Gystadleuaeth WorldSkills Ryngwladol, ble gallent gael eu dewis i gynrychioli’r DU yn y sgil maent wedi’i dewis.

Newyddion Coleg Caerdydd a’r Fro

More News Articles

  —