Rhaid i Gymru Fuddsoddi mewn Dysgu Gydol oes er mwyn Cystadlu yn Fyd-Eang

Postiwyd ar gan karen.smith

Cyn y gall Cymru gystadlu yn yr economi fyd-eang, mae’n rhaid iddi gael gweithlu sy’n ddigon hyderus a medrus i barhau i ddysgu trwy gydol eu hoes, yn ôl un o’r siaradwyr mewn cynhadledd i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith.

“Ni fydd y sgiliau y mae pobl yn eu dysgu heddiw yn para am byth iddynt,” meddai Syr Adrian Webb, cadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru wrth gynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru ar y thema ‘Cyflenwi sgiliau i oroesi a ffynnu’, yn y Celtic Manor, Casnewydd yn ddiweddar.

“Mae’n rhaid i ni barhau i fuddsoddi yn ein gweithlu trwy gydol eu gyrfa er mwyn gallu cystadlu yn yr economi fyd-eang. Allwn ni ddim parhau i greu gweithlu heb sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol.”

Yn ogystal, galwodd Syr Adrian am newid sylfaenol i’r diwylliant sy’n gyrru pobl ifanc i gyfeiriad cyrsiau academaidd ac sy’n gwrthod pawb sydd heb fod i’r brifysgol.

“Yn ogystal ag ehangu prentisiaethau, mae angen i ni wrthsefyll y duedd anffodus sy’n dweud nad yw cymwysterau galwedigaethol, ymarferol ac an-academaidd yn ddigon da,” meddai. “Gall dysgu seiliedig ar waith fod o gymorth mawr i wrth-droi hynny.”

Holodd hefyd pam nad oedd cynllun busnes ar gael ar gyfer addysg uwch yng Nghymru a dweud bod sgiliau arwain a rheoli’n bwysig er mwyn hybu’r economi.

Roedd siaradwyr y gynhadledd yn llawn canmoliaeth i’r gwelliannau enfawr a welwyd yng nghyfraddau llwyddiant dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf.

Dywedodd y cadeirydd, Arwyn Watkins, bod disgwyl cyfradd llwyddiant o dros 70 y cant mewn dysgu seiliedig ar waith yn 2008/2009. Yn adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2003/2004, roedd dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru yn achos pryder ond erbyn hyn mae mewn gwell sefyllfa na gweddill y DU, meddai.

“Mae pawb ohonon ni’n ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth ac allwn ni ddim fforddio gwanhau hyn trwy ddal i fuddsoddi mewn darpariaeth wael, pwy bynnag yw’r darparwyr,” meddai. “Mae dysgu seiliedig ar waith wedi bod yn newid yn gyson ers sefydlu NTfW, nid yn unig wrth leihau nifer y darparwyr dan gontract ond, yn bwysicach, wrth ddatblygu rhwydwaith cyflenwi o safon uchel.

“Mae llawer rhagor i’w wneud ond allwn ni ddim o’i gyflawni ar ein pen ein hunain. Rwy’n gwybod ein bod ni, fel sector, yn awyddus i fynd ymlaen â’r gwaith ond mae’n rhaid i ni ystyried sut i fod yn fwy effeithiol, nid yn unig yn ein rhwydwaith ni’n hunain, ond hefyd yng nghymuned ehangach addysg a sgiliau.”

Bu John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn sôn am Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru, strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar sgiliau a chyflogaeth a gwahanol gamau i helpu cwmnïau a gweithwyr yn ystod y dirwasgiad.

Dywedodd fod cysylltiad clos rhwng sgiliau a rhaglen newydd Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu’r economi yng Nghymru. Dywedodd y byddent yn canolbwyntio ar ddatblygu sector addysg a hyfforddiant cost-effeithiol, o safon uchel, a fyddai’n darparu llwybrau dysgu cynhwysfawr i arwain dysgwyr i swyddi.

Roedd Llywodraeth y Cynulliad yn dal i gefnogi Prentisiaethau Modern ac Adeiladu Sgiliau ond roedd yn chwilio am raglenni mwy hyblyg i ateb gofynion cyflogwyr, meddai.

Diolchodd i NTfW am gyfrannu at ddatblygu polisïau newydd a gwella ansawdd a llwyddiant dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Dywedodd y byddai gwell cysylltiad â’r rhwydwaith ar agenda llwybrau dysgu 14-19 o hyn ymlaen.

“Rŷn ni’n awyddus i sefydlu system sgiliau mwy hyblyg ac eang ac fe hoffen ni glywed beth sydd gennych chi i’w ddweud,” meddai wrth y cynadleddwyr. “Oherwydd y cyfyngiadau ar wario cyhoeddus, bydd hyd yn oed yn bwysicach ein bod yn meithrin ac yn cynnal ein partneriaeth â’r NTfW.

“Mae pawb ohonom yn awyddus i weld Cymru lwyddiannus a medrus ac economi gref. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cynnig y dulliau gorau oll o ddysgu a fydd yn sicrhau bod pobl ifanc ac oedolion yn ennill y cymwysterau y bydd arnynt eu hangen i gael swyddi mewn byd cyfnewidiol.”

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd yr Arglwydd Ted Rowlands, Llywydd NTfW; Dennis Gunning, Cyfarwyddwr Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth y Cynulliad; Janet Barlow, Prif Weithredwr Agored Cymru; a Michelle Creed, Cyfarwyddwr Lifelong Learning UK yng Nghymru.

More News Articles

  —