Cynhadledd i Ddathlu Llwyddiant Dysgu Seiliedig ar Waith

Postiwyd ar gan karen.smith

Llwyddiant eithriadol dysgu seiliedig ar waith dros y pum mlynedd diwethaf – dyna un o’r elfennau a gaiff eu dathlu mewn cynhadledd fawr yn y Celtic Manor, Casnewydd yfory (dydd Iau).

Bydd Arwyn Watkins, y Cadeirydd, yn cyhoeddi wrth gynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru bod disgwyl i gyfradd llwyddiant dysgu seiliedig ar waith yn 2008/2009 fod dros 70 y cant. Yn adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2003/2004, roedd dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru yn achos pryder ond erbyn hyn mae mewn gwell sefyllfa na gweddill y DU.

“Mae pawb ohonon ni’n ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth ac allwn ni ddim fforddio i wanhau hyn trwy ddal i fuddsoddi mewn darpariaeth wael, pwy bynnag yw’r darparwyr,” fydd ei rybudd i’r gynhadledd.

“Mae trawsnewid wedi bod yn digwydd yn gyson mewn dysgu seiliedig ar waith ers sefydlu NTfW, nid yn unig wrth leihau nifer y darparwyr dan gontract ond, yn bwysicach, wrth ddatblygu rhwydwaith cyflenwi o safon uchel.

“Mae llawer rhagor i’w wneud ond allwn ni ddim o’i gyflawni ar ein pen ein hunain. Rwy’n gwybod ein bod ni, fel sector, yn awyddus i fynd ymlaen â’r gwaith ond mae’n rhaid i ni ystyried sut y gallwn ni fod yn fwy effeithiol, nid yn unig yn ein rhwydwaith ni’n hunain, ond hefyd yng nghymuned ehangach addysg a sgiliau.”

Bydd John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn annerch y gynhadledd hefyd gan sôn am Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru, Strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar sgiliau a chyflogaeth.

Ymhlith y siaradwyr eraill fydd yr Arglwydd Ted Rowlands, Llywydd NTfW, Dennis Gunning, Cyfarwyddwr Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth y Cynulliad, Janet Barlow, Prif Weithredwr Agored Cymru, Michelle Creed, Cyfarwyddwr Lifelong Learning UK yng Nghymru a Syr Adrian Webb, Cadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru.

Cyflenwi sgiliau sy’n gweithio i Gymru mewn hinsawdd economaidd anodd fydd prif bwnc trafod y gynhadledd a gynhelir yn fuan ar ôl cyhoeddi arbedion effeithlonrwydd o bump y cant yng nghyllideb dysgu ôl-16 Llywodraeth y Cynulliad.

Bydd Syr Adrian Webb yn edrych ar gyflogaeth a sgiliau o safbwynt cyflogwr ac yn mynegi pryder bod cynifer o bobl ifanc Cymru’n ddi-waith. Bydd yn cyhoeddi bod Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru wedi sefydlu gweithgor i adolygu goblygiadau hirdymor diweithdra ymhlith pobl ifanc ac y bydd yn cyflwyno set newydd o gynigion i Lywodraeth y Cynulliad cyn hir.

Bydd hefyd yn cyfeirio at yr anawsterau sy’n wynebu Cymru ac yn galw am ragor o adnoddau i ddarparu sgiliau a hyfforddiant i bobl ifanc 18-25 oed.

More News Articles

  —