Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant yn Cefnogi Adolygiad Cymwysterau

Postiwyd ar gan karen.smith

Wynne Roberts - Chair NTfW

Cafodd yr Adolygiad o Gymwysterau 14-19 a gyhoeddwyd yn ddiweddar groeso brwd gan gorff sy’n cynrychioli darparwyr dysgu yn y gweithle ledled Cymru.

Mae Wynne Roberts, cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), wedi canmol Huw Evans, cadeirydd y bwrdd adolygu a’i dîm, a oedd yn cynnwys prif weithredwr NTfW, Arwyn Watkins, am “adolygiad trwyadl, cynhwysfawr, wedi’i seilio ar dystiolaeth”.

Mae NTfW yn rhwydwaith o 116 o ddarparwyr dysgu yn y gweithle sydd â chysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru. Mae’r aelodau’n cynnwys darparwyr hyfforddiant bach arbenigol, cwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol, awdurdodau lleol, Sefydliadau Addysg Bellach a chyrff trydydd sector.

Wrth addo cefnogaeth lwyr NTfW, dywedodd: “Credwn fod argymhellion y bwrdd yn amserol ac y gallent gael dylanwad mawr ar yr agenda sgililau a chyflogadwyedd yng Nghymru.

“Hyd yma, bu llawer o ddryswch ynghylch pa mor berthnasol a gwerthfawr oedd y cymwysterau a gynigir i bobl ifanc 14-19 oed o ran sefyllfa gwaith.

“Rydym yn arbennig o falch o weld argymhellion y bwrdd adolygu i gryfhau system achredu, cymeradwyo a rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru, yn ogystal â’r argymhellion sy’n ymwneud â’r gwahaniaeth rhwng addysg a hyfforddiant galwedigaethol cychwynnol ac addysg a hyfforddiant dilynol.

“Mae hwn yn gam mawr ymalen yn ymgyrch faith NTfW i sicrhau’r un parch i gymwysterau galwedigaerth ag i gymwysterau academaidd ac i gyflwyno agwedd llawer mwy cytbwys at addysg a hyfforddiant. Mae’n rhaid i bawb sy’n gweithio yn y sector addysg a hyfforddiant yng Nghymru rannu’r nod o sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael sgiliau sy’n berthnasol i gyflogwyr heddiw.

“Pwysigrwydd system sgiliau effeithiol i fod yn sylfaen ar gyfer twf economaidd oedd prif thema Cynhadledd Flynyddol NTfW ym mis Hydref 2012. Yno, bu Huw Evans yn sôn am themâu’r adolygiad, heb ddatgelu’r casgliadau, wrth gwrs.

“Pwysleisiodd mai nod yr adolygiad oedd sicrhau cymwysterau dealladwy a diwallu anghenion pobl ifanc a’r economi. Rydym ni fel rhwydwaith o’r farn bod y bwrdd adolygu wedi cyrraedd y nod hwn ac mai mater i’r holl sefydliadau yw cydweithio yn awr, gan elwa ar gryfderau’n gilydd er mwyn sicrhau budd i Gymru.

“Mae’r Ffederasiwn yn gobeithio y bydd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn rhoi sêl ei fendith ar argymhellion y bwrdd adolygu, sy’n canolbwyntio’n llwyr ar sgiliau. Bydd yr argymhellion hyn yn rhoi llwybr clir i ddysgwyr fel y gallant symud ymlaen yn ddirwystr, gan gael eu paratoi’n iawn at fyd gwaith.

“Mae’n flaenoriaeth gan NTfW i gefnogi agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer Twf a Swyddi Cynaliadwy. Rydym yn edrych ymlaen at astudio’r adroddiad yn fwy manwl o lawer ac at gyfrannu at drafodaethau oherwydd, fel darparwyr dysgu yn y gweithle, bydd gennym y dasg allweddol o sicrhau’r sgiliau hyn ar gyfer Llywodraeth Cymru.”

More News Articles

  —