Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

aerial view of industrial buildings

Mae disgwyl i’r Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau tair blynedd ar gyfer 2022-2025 gael eu lansio yn nes ymlaen eleni.

Dechreuwyd trafod gyda busnesau eisoes, gan sôn am y sgiliau y bydd angen amdanynt yn y dyfodol a’r heriau y mae angen mynd i’r afael â nhw. Cyfle i weld beth sy’n digwydd yn eich rhanbarth chi.

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru
Uchelgais Gogledd Cymru

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd


Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu’n rhanbarthol gyda’r nod o ysgogi’r galw am swyddi a sgiliau trwy roi’r hyblygrwydd i ddatblygu ymatebion ar sail anghenion lleol a rhanbarthol. Mae PSPRC yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y cyfeiriad strategol ar gyfer sgiliau ac yn gwneud argymhellion ar feysydd twf neu ddirywiad, ar sail tystiolaeth gadarn a chysylltiad cryf â chyflogwyr a rhanddeiliaid.

Lansiwyd PSPRC ym mis Hydref 2019 a datblygu Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau tair blynedd 2019-22 a ddefnyddir i lunio’r blaenoriaethau sgiliau ar gyfer cyflogwyr ledled y rhanbarth ac i ddylanwadu ar y ddarpariaeth a gynigir drwy’r sectorau Addysg Bellach a dysgu seiliedig ar waith. Paratowyd y Cynllun trwy driongli gwybodaeth am y farchnad lafur, ymchwilio ac ymgysylltu â chyflogwyr ac fe’i lluniwyd gan y Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau a grwpiau clwstwr blaenoriaeth o dan arweiniad cyflogwyr.

Yn fwy diweddar, mae PSPRC wedi bod yn gweithio i ddatblygu Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau tair blynedd rhanbarthol newydd a gaiff ei lansio yn hydref 2022. Er mwyn cefnogi’r broses ymgysylltu hollbwysig, bydd PSPRC yn cynnal digwyddiad yn nes ymlaen eleni ac iddo ddau ddiben. Yn gyntaf, bydd y digwyddiad yn fan cychwyn i drafodaethau gyda chyflogwyr, rhanddeiliaid a darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 i helpu i ganfod heriau y mae angen mynd i’r afael â nhw ym maes sgiliau.

Yn ail, bydd PSPRC yn defnyddio’r digwyddiad fel cyfle i hyrwyddo Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc wrth randdeiliaid allweddol ledled y de-ddwyrain ac i annog cydweithio ar draws y rhanbarth. Yn hyn o beth, mae PSPRC wedi ymrwymo i ddeall sefyllfa’r rhanbarth yn well ac i ganfod pa gymorth / darpariaeth sydd ar gael i bobl ifanc yn lleol ac yn rhanbarthol ar hyn o bryd ym meysydd addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a llesiant.

Os hoffech wybod mwy y datblygiad hwn, cysylltwch â: RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk

yn ôl i’r brig>>

Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru


Ers i ni gyhoeddi’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru, bu newid enfawr yn y ffordd y mae pobl yn gweithio; y mathau o swyddi sydd ar gael ac, yn bwysicach efallai, y sgiliau sydd eu hangen bellach gan ddiwydiant i hybu eu busnesau ar ôl y pandemig. Mae’r cyfnod cythryblus y mae llawer wedi’i wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi golygu bod sgiliau newydd wedi’u nodi fel gofyniad allweddol i fusnesau ac felly mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau ein bod yn darparu’r sgiliau cywir yn ein colegau a’n prifysgolion; drwy ein darpariaeth prentisiaethau a thrwy’r cynnig galwedigaethol mewn ysgolion. Mae eich cyfranogiad CHI yn y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer 2022-2025 yn ALLWEDDOL i sicrhau ein bod yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru pa sgiliau sydd eu hangen yn ein hardal a ble mae angen iddynt ddyrannu eu cyllid er mwyn bodloni’r gofynion sgiliau a nodwyd.

Mae cannoedd o fusnesau o bob rhan o’r rhanbarth wedi bod yn ymgysylltu â’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol (RLSP) nid yn unig drwy ein harolwg sgiliau ar-lein ond drwy ein grwpiau clwstwr yn y sector Diwydiant, sy’n gyfle i bawb ddweud eu dweud am sgiliau a thrafod anghenion sgiliau yn y dyfodol wrth i ddiwydiannau ddatblygu. Diolch ichi am eich cyfranogiad a gobeithiwn y byddwch yn parhau yn y ddeialog â’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ac yn dweud eich dweud yn y cynllun yr ydym yn ei baratoi ar hyn o bryd.

Ar gyfer y miloedd o fusnesau micro, bach, canolig a mawr yn y rhanbarth nad ydynt eisoes wedi ymwneud â’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, rydym yn un o bedair partneriaeth sgiliau yng Nghymru sy’n gweithio ar draws y rhanbarth i ddeall y blaenoriaethau allweddol o ran sgiliau y mae diwydiannau yn ein rhanbarthau yn eu hwynebu. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i lywio’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i lywio’r broses o ddyrannu cyllid ar gyfer hyfforddiant yng Nghymru ac yn enwedig yn ein rhanbarth. Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn ymuno â ni yn y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol i sicrhau y gallwn gynnwys eich llais yn ein cynllun. Gallwch ymuno â grŵp clwstwr diwydiant neu gwblhau’r arolwg ar-lein neu gysylltu â ni i gael trafodaeth.

Mae’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol hefyd yn arwain ar y Rhaglen Sgiliau a Thalentau ar gyfer Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gyda chyllid ar gyfer prosiect peilot allweddol i ddatblygu’r atebion hyfforddi arloesol hynny ar gyfer cyrsiau nad ydynt yn cael eu darparu yn ein hardal ar hyn o bryd. Gallwch gymryd rhan drwy gysylltu â’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn ein grwpiau clwstwr neu arolygon.

Byddwch yn rhan o’r broses o newid y dirwedd sgiliau drwy gwblhau’r arolwg HEDDIW, peidiwch ag oedi! Anfonwch yr arolwg ymlaen i’ch cysylltiadau busnes a’u hannog i gymryd rhan a lleisio eu barn ar sgiliau yn Ne-orllewin Cymru. www.surveymonkey.co.uk/r/3B2GJFF

yn ôl i’r brig>>

Uchelgais Gogledd Cymru


Wrth i’n Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth presennol ar gyfer Gogledd Cymru ddod i ben ddiwedd y flwyddyn hon rydym nawr yn blaenoriaethu datblygiad ein cynllun tair blynedd newydd. Cyn bo hir byddwn yn mynd yn fyw gydag arolwg cyflogwyr ac yn ystod mis Mai a mis Mehefin byddwn yn cynnal nifer o weithdai ac ymgynghoriadau partneriaid, rhanddeiliaid a chyflogwyr. Bydd y gweithdai a’r ymgynghoriadau hyn yn nodi’r blaenoriaethau sgiliau a chyflogaeth allweddol ar gyfer ein rhanbarth, yn unol â’n cynllun economaidd rhanbarthol, gan gynnwys y Cynllun Twf Gogledd Cymru. Byddwn hefyd yn nodi sectorau allweddol a thwf rhanbarthol a sut i leihau’r prinder sgiliau sy’n wynebu busnesau yn ein sectorau twf rhanbarthol ac isranbarthol.

Byddwn yn canolbwyntio ar addysg a sgiliau ôl-16, addysg uwch, mewnwelediad gyrfaol a sut y gallwn helpu i ddarparu addysg ysgol wych yn ogystal â gwella cysylltiadau â busnes. Byddwn yn edrych ar sut i adeiladu sgiliau gweithlu, hyrwyddo prentisiaethau, STEM a dulliau newydd o ddenu talent i’r rhanbarth gan ystyried sgiliau lefel uwch.

Bydd tynnu sylw at y darlun ehangach o ran cyflogadwyedd a nodi camau gweithredu allweddol y gall cyflogwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid eu cyflawni yn bwysig iawn i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei cerrig milltir cenedlaethol fel yr amlygwyd yn y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau a gyhoeddwyd yn ddiweddar – Cymru gryfach, decach a gwyrddach.

Mae gennym rôl ganolog i helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer Cymru Decach, Gryfach, Weddech, mewn perthynas â’r 5 maes gweithredu allweddol:

  • Pobl ifanc yn gwireddu eu potensial
  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd
  • Hyrwyddo Gwaith Teg i Bawb
  • Cefnogi pobl â chyflwr iechyd hirdymor i weithio
  • Meithrin diwylliant dysgu am oes

Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol SianLloydRoberts@uchelgaisgogledd.cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —