Sam yn dilyn ôl traed ei dad yn y diwydiant nwy

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Sam Jones at work on a gas pipeline

Sam Jones yn gweithio ar biblinell nwy.

Byth ers i’w dad gymryd rhan mewn ‘diwrnod dod â Dad i’r ysgol’, mae Sam Jones wedi bod yn awyddus i ddilyn ôl traed ei dad a bod yn beiriannydd nwy gan helpu i gadw’r cyhoedd yn ddiogel.

Er y byddai’r cyflog yn llai, gadawodd Sam, 32 oed sy’n byw yn y Graig, Pontypridd, ei swydd “ddi-ddyfodol” i fod yn brentis adeiladu a chyfnewid gyda Wales & West Utilities. Mae ei brentisiaeth mewn Gwaith Adeiladu Rhwydweithiau Nwy yn cael ei gyflenwi gan Utilise T.D.S. Limited ar gyfer Coleg Caerdydd a’r Fro.

Erbyn hyn, mae wedi’i gydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Yn ogystal â dysgu sgiliau’r grefft, mae Sam wedi creu clawr ‘Sam y Ci Synhwyro’ i’w roi ar larymau carbon monocsid mewn cartrefi i godi ymwybyddiaeth o’r lladdwr distaw.

Yn ogystal, mae wedi ysgrifennu a chyflwyno papur ar y pwnc i’r Sefydliad Peirianwyr a Rheolwyr Nwy ac mae wedi siarad mewn sioeau, â chwmnïau ac yn ei gymuned ei hunan.

O ganlyniad i’r gwaith hwn, a oedd yn cynnwys gwneud fideo o waith brys i drwsio pibell nwy, mae Sam wedi ennill gwobrau Llysgennad a Seren ar Gynnydd gan Wales & West Utilities.

Meddai: “Doeddwn i ddim yn edrych ar fy mhrentisiaeth fel peth tymor byr achos mae arna i eisiau aros yn y diwydiant hwn am oes. Mae’r diwydiant yn un heriol sy’n symud yn gyflym ac yn datblygu’n barhaus ac rwy’n gweithio i gwmni sy’n mynnu cael y safonau uchaf.”

Dywedodd Sarah Hopkins, cyfarwyddwr pobl ac ymgysylltu Wales & West Utilities: “Mae’n rhoi boddhad i ni ac yn newyddion da i’n cwsmeriaid a’n busnes bod Sam eisoes yn mynd yr ail filltir i’n helpu i gadw’n cwsmeriaid yn ddiogel.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Sam ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —