Academi Brentisiaethau yn dod ag egni ieuenctid i fwrdd iechyd

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

Staff at Swansea Bay University Health Board.

Staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Mae Academi Brentisiaethau yn creu cenhedlaeth newydd o dalent ffres ar gyfer bwrdd iechyd ac yn cyflawni’r her o recriwtio i broffesiynau penodol.

Lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yr academi yn 2016, gan hyfforddi mwy na 250 o brentisiaid yn llwyddiannus ar draws naw fframwaith yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn unig. Mae hefyd wedi teilwra rhaglenni pwrpasol mewn ymateb i fylchau neu gyfleoedd a nodwyd.

Gan ganolbwyntio ar gynwysoldeb a chydraddoldeb, mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned leol i ddarparu cyfleoedd i’r rhai nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau na phrofiad o bosibl.

Bellach, mae’r Bwrdd Iechyd  wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, gwobrau uchel eu parch, a hynny yng nghategori Macro-Gyflogwr y Flwyddyn.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

“Mae ein rhaglen fynediad i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn darparu prentisiaeth 12 mis er mwyn ennill profiad yn y rôl cyn symud i swyddi parhaol,” meddai Ruth Evans, Rheolwr yr Academi Brentisiaethau.

“Mae’r wardiau a’r adrannau yn cefnogi’r prentisiaid yn ystod eu hyfforddiant ac yn cael eu gwobrwyo â staff medrus a chymwys yn barod i barhau â’u gyrfaoedd. Hyd yma, mae 137 o brentisiaid wedi llwyddo i gael swyddi parhaol o fewn y sefydliad, gan sicrhau gwell dealltwriaeth o’r gwerthoedd a’r diwylliant maen nhw’n ei greu.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn darparu ei raglenni mewn cydweithrediad â cholegau – Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Gŵyr Abertawe – ac mae’n creu cyfleoedd i’w staff presennol yn ogystal â’r prentisiaid newydd.

Yn ogystal, mae’r Bwrdd Iechyd wedi datblygu cysylltiadau cryfach ag ysgolion, colegau ac elusennau lleol, gan gysylltu’n llwyddiannus â’r prif hyrwyddwyr a nodir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymru (2015).

Yn unol â gwerthoedd y Bwrdd Iechyd, mae’r academi yn ceisio gwella ei brosesau yn barhaus, gan gynnig partneriaethau agos â’r ddau bartner sy’n darparu hyfforddiant.

“Drwy ein cydweithrediad rhagorol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi llwyddo i alinio llwybrau prentisiaeth â disgrifiadau swyddi, gan gryfhau datblygiad y gweithlu yn unol â’r anghenion a’r galw mewn sefydliadau,” meddai Medi Williams, Arbenigwr ar Gynigion Masnachol, Coleg Gŵyr Abertawe.

“Mae’r academi yn cyfoethogi gwybodaeth gweithwyr ac yn hyrwyddo diwylliant o werthoedd, grymuso a hyblygrwydd dysgu.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru, yn ein hysbrydoli. Dw i’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol – ar gyfer y gwobrau a’u hymdrechion yn y dyfodol.”‌

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a phartner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw ar drywydd anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.

Back to top>>

More News Articles

  —