Cynhelir Gŵyl Sgiliau Datblygu Rhagoriaeth am wythnos, 16-20 Hydref 2023.
Cyflwynir cyfres o ddigwyddiadau DPP cyffrous sy’n rhan o brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru. Y nod fydd gwella sgiliau, safonau a gwybodaeth ym myd addysg a diwydiant yng Nghymru.
Mae gweithdai wedi’u cynllunio i ymestyn a herio tiwtoriaid, cyflogwyr ac aseswyr, gan eu galluogi i fynd â’r hyn a ddysgwyd yn ôl a chyflwyno rhagoriaeth i genhedlaeth nesaf y gweithlu galwedigaethol.
Bydd cyfuniad o hyfforddiant wyneb yn wyneb ochr yn ochr ag elfennau o ddarpariaeth o bell, gyda ffocws allweddol ar adnoddau sydd ar gael i gefnogi’r ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth.
16 Hydref 2023
Gweithdy Ail-Orffenu Cerbyd
Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
Gwaith Gosod Trydanol
Technoleg Cerbydol
17 Hydref 2023
Adeiladwaith Digidol
Ynni Adnewyddadwy
Awtomatiaeth/ Mecatroneg
Celfyddydau Coginio
18 Hydref 2023
Gweithdy Arfer Gorau Sgiliau Cynhwysol
Diogelwch Rhwydwaith TG
Technegydd Cymorth TG
19 Hydref 2023
Gweithdy Cystadleuaeth yn y Cwricwlwm
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
20 Hydref 2023
Dylunio Gwefannau
Bydd y gweithdy Celfyddydau Coginio yn cael ei arwain gan y cogydd enwog Hywel Griffith, perchennog a chyfarwyddwr bwyty seren Michelin Beach House yn Oxwich a chystadleuydd blaenorol ar Great British Menu.
Bydd y cwrs Technoleg Modurol yn cael ei arwain gan un o gyfranogwyr WorldSkills São Paulo 2015 Elijah Sumner, sydd ers cystadlu yn rhedeg ei fusnes ei hun, Sumner Automotive.
Cewch wybod mwy yma am y gweithdai a rhoi’ch enw i gadw lle.